Sut mae'n gweithio?

Mae eich Arfarnwyr yn chwarae rôl bwysig o ran eich helpu i gynllunio eich datblygiad personol, ac yng Nghymru byddwch yn dewis Arfarnwr bob blwyddyn y byddwch yn dymuno iddo gwblhau eich arfarniad.

Mae trafodaeth gefnogol gyda chymheiriaid hyfforddedig yn gonglfaen y broses arfarnu yng Nghymru. Bydd eich arfarnwr yn gefnogol ac yn eich annog i fyfyrio ar eich cyflawniadau yn y gorffennol a’ch anghenion dysgu i’r dyfodol. Ni fyddant yn dweud wrthych beth i'w wneud a sut i'w wneud ond efallai gallant eich cyfeirio at ffynonellau cymorth a chefnogaeth perthnasol. Gallwch chi ddisgwyl cael eich herio (yn y ffordd mwyaf addfwyn) i fyfyrio ar eich gweithgareddau a datblygiad personol a phroffesiynol. 

Ar ôl i chi gael  mynediad i’ch cyfrif MARS rydym yn argymell dewis Arfarnwr cyn gynted â phosibl, er nad oes raid i chi gytuno ar ddyddiad cyfarfod tan yn agosach at yr amser.

Mae dysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol parhaus yn gysyniadau pwysig drwy gydol eich gyrfa broffesiynol.  Mae’n bwysig pennu amcanion SMART (penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, perthnasol a phrydlon) ar gyfer eich datblygiad personol a phroffesiynol.  Bydd eich arfarnwr yn eich annog i wneud hynny yn ystod y drafodaeth, er mwyn cytuno ar eich cynllun datblygu personol ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

Wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, mae’n debygol y bydd gweithgaredd eraill yn bwysicach ac efallai y bydd angen i chi ychwanegu hynny at eich cynlluniau datblygu personol ac ystyried eich anghenion datblygiadol dyheadol.  Efallai y bydd y rhain yn adlewyrchu nid yn unig eich diddordebau personol, eich nodau ac uchelgeisiau, ond hefyd anghenion eich practis neu sefydliad.  Mae’n gwbl ddilys a phriodol cynnwys y gweithgareddau yma yn eich tystiolaeth arfarnu.Dylai’r broses arfarnu eich annog i ddathlu eich cyflawniadau ac i fyfyrio ar eich anghenion datblygu personol a phroffesiynol i’r dyfodol fel unigolyn ac fel aelod o dîm.  


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau