Cymryd cyffuriau gwaharddedig mewn chwaraeon

Go brin y bydd sefydliadau gofal sylfaenol yn gweld achosion o gymryd cyffuriau gwaharddedig mewn chwaraeon, o leiaf ar lefel athletwyr elît, oherwydd nifer yr athletwyr elît yn y boblogaeth gyffredinol. Ond, ar lefel fwy cyffredinol, mae cymryd cyffuriau gwaharddedig ar lefel amatur a lled-broffesiynol yn fwy perthnasol i’r clinigydd. Mae erthyglau newyddion diweddar wedi canolbwyntio ar lefel anghymesur o uchel o ddefnyddio cyffuriau sy’n gwella perfformiad ymysg pobl sy’n chwarae rygbi yng Nghymru, a oedd yn 33% o’r profion cyffuriau cadarnhaol yn 2015(48).

Beth yw Cymryd Cyffuriau Gwaharddedig?

Mae’r Asiantaeth Ryngwladol i Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon yn diffinio cymryd cyffuriau gwaharddedig fel presenoldeb sylwedd, metabolyn neu farciwr gwaharddedig yn sampl athletwyr, neu ddefnyddio/ymgais i ddefnyddio sylwedd neu ddull gwaharddedig. Rhaid bodloni dau neu ragor o’r meini prawf canlynol ar gyfer yr hyn a ystyrir yn sylwedd neu’n ddull gwaharddedig:

  1. Tystiolaeth bod gan y sylwedd/dull y potensial i wella perfformiad yn y gamp
  2. Tystiolaeth bod y sylwedd/dull yn cynrychioli risg i iechyd yr athletwr
  3. Mae WADA o’r farn bod y sylwedd/dull yn amharu ar feddylfryd byd chwaraeon
Cymhelliant i Gymryd Cyffuriau Gwaharddedig

Mae sawl ffactor i esbonio pam mae cyffuriau gwaharddedig yn cael eu defnyddio mewn chwaraeon. Dyma’r rhesymau mwyaf cyffredin pam mae athletwyr elît yn cymryd cyffuriau gwaharddedig mewn chwaraeon(49,50,51,52):

  • Credu mai dyna mae athletwyr eraill yn ei wneud
  • Awydd i ennill/llwyddo
  • Cymhelliant ariannol
  • Datrys problemau pwysau
  • Lleihau poen/dychwelyd yn gynt ar ôl anaf

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau