Heriau o fewn y cohort cleifion
O fy mhrofiad o weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth ar IPED a lleihau niwed, mae gallu defnyddio ychydig o ymadroddion allweddol a deall yr iaith a’r geiriau unigryw yn ddefnyddiol iawn. Yn ogystal, mae’r gallu i ymddangos yn ddigyffro pan fydd defnyddwyr yn datgelu eu defnydd i chi hefyd yn hollbwysig wrth gychwyn a datblygu’r berthynas therapiwtig.
Efallai nad chi yw’r clinigydd cyntaf iddynt ddatgelu eu defnydd IPED iddo, ac mae llawer wedi cael “profiadau cyntaf” gwael cyn hynny gyda chlinigwyr.
Efallai mai eich rhyngweithio chi fydd y cyfle cyntaf i newid y defnyddiwr o fod yn y cyflwr cyn-ystyried i’r cyflwr ystyried ar y “model ar gyfer newid”. Mae hyn yn eithriadol o werthfawr.
Dydy dweud “wel, ddylech chi ddim gwneud hynny. Rwy’n argymell eich bod yn stopio” ddim yn help o gwbl fel arfer, ac yn aml iawn, mae’n cyfyngu ar y berthynas therapiwtig wrth symud ymlaen. Mae angen edrych mwy ar yr hyn sy’n cymell pobl i ddefnyddio. Mae sawl peth cymhleth yn cymell llawer o’r bobl sy’n dod i’n clinig i ddefnyddio IPED, ac efallai mai edrychiad esthetig yw’r sbardun y tu ôl i hyn, ond mae ffactorau cymdeithasol eraill yn ategu’r awydd hwnnw. Er enghraifft, mae defnyddwyr sy’n gweithio yn y diwydiant diogelwch, y gwasanaeth carchardai, y lluoedd arfog, yr heddlu yn wynebu pwysau galwedigaethol i ymddangos yn “gyhyrog” neu’n “galed”.
Mae dweud wrth y claf bod “Cyffuriau sy’n gwella Perfformiad a Delwedd yn ddrwg” yn annhebygol o arwain at unrhyw newid mewn ymddygiad. Mae’r unigolyn yn debygol o fod yn ymwybodol o rai o’r risgiau ac yn teimlo ei fod wedi gwneud penderfyniad cytbwys.
Wedi dweud hynny, pan fyddwn yn gwneud rhywfaint o waith monitro iechyd, efallai y bydd cyfle’n codi i ddangos i’r claf rai canlyniadau labordy sy’n dangos bod ei iau yn cael trafferth, neu fod dirywiad i’w weld yn yr arennau. Gall hyn fod yn drobwynt o ran eu helpu i wneud cynlluniau i leihau a rhoi’r gorau i ddefnyddio.
Rwy’n mwynhau fy ngwaith yn fawr iawn. Mae’r mwyafrif helaeth o ddefnyddwyr IPED yn ein clinig yn gwrtais dros ben. Mae ganddyn nhw ddiddordeb brwd yn eu lles a’u gofal iechyd eu hunain, ac maen nhw’n barod i weithio â chlinigydd cymwys ynghylch eu defnydd.
Ond, mae heriau i’w cael gyda’r cohort, rhai yn unigryw i’r Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd, ond nid yn llwyr ychwaith:
Wedi addasu eu credoau iechyd
Yn aml iawn, bydd defnyddwyr yn deall risgiau posib y Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd maen nhw’n eu cymryd, y rhan fwyaf ohonynt wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil cyn dechrau o leiaf. Ond, mae rhai’n teimlo bod y risg yn cael ei wrthbwyso gan y maeth gofalus maen nhw’n ei roi yn eu corff a’r lefelau ymarfer corff sylweddol. Yn wir, mae rhai’n dweud bod cyfoedion sy’n yfed alcohol ac yn defnyddio cyffuriau adloniant yn rheolaidd yn arddangos arferion gwael, ac, o’u cymharu, fod defnyddio Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd yn ddewis mwy buddiol neu iach yn lle hynny.
Cyfradd “peidio â mynychu” uchel
Yn ein clinig, ar gyfartaledd, mae 50% o bobl yn dewis “peidio â mynychu”. Er gwaethaf gwasanaeth trefnu apwyntiadau a chlinig anffurfiol, gyda llai o ryngwyneb meddygol safonol. Yr ymateb yn aml gan ddefnyddwyr sy’n ymgysylltu â’r gwasanaeth yn ddiweddarach, yw bod arnynt ofn cael canlyniadau eu profion, ac mai dyna un o’r prif resymau dros beidio â mynychu.
"Broscience"
"Broscience yw fath o resymu mewn cylchoedd corfflunio lle mae adroddiadau anecdotaidd pobl sy’n corfflunio yn cael eu hystyried yn fwy credadwy nag ymchwil wyddonol" (cymerwyd o muscleandstrength.com)
Mae hyn yn sicr yn her yn ein clinig. Mae’n eithriadol o anodd mynd i’r afael â dogma sy’n ddwfn yn y gymuned magu cyhyrau/chwaraeon. Ychydig o astudiaethau o ansawdd sy’n dangos niwed yn sgil defnyddio IPED dros y tymor hwy. Yn aml iawn, rydym ni’n dibynnu ar yr hyn sydd yn yr egwyddorion cyntaf sy’n rhoi syniad o’r niwed sy’n bosib. Oes gennym dystiolaeth gadarn i ddangos i ni fod newidiadau strwythurol yn digwydd yn y galon dros gyfnod hwy o gamddefnyddio? Nac oes. Ond, mae gan gyhyrau’r galon dderbynyddion androgen, felly gallwn ddefnyddio’r wybodaeth am yr hyn a all ddigwydd i gyhyrau’r galon os oes gormod o androgenau yn bresennol. Felly, gallwn ddod i gasgliad. Fodd bynnag, mae’n anodd herio dogma hirbarhaus heb gefnogaeth tystiolaeth. Fel y soniwyd uchod, ychydig iawn o dystiolaeth sy’n cefnogi’r cysyniad o therapi ôl-gylch, er gwaethaf y dystiolaeth o’r niwed y mae Tamoxifen yn ei achosi i’r iau/afu. Mae dal cryn gefnogaeth ar gyfer therapi ôl-gylch traddodiadol ymysg y boblogaeth sy’n defnyddio IPED.
Mae llawer o fforymau IPED ar-lein yn cynnwys amrywiaeth eang o gyngor, anghyson weithiau, i ddefnyddwyr, a bydd ein defnyddwyr gwasanaeth yn aml yn credu’r bobl hynny sy’n ymddangos fel y rhai mwyaf, y mwyaf ffit a/neu’r cryfaf.
Wedi addasu eu barn am ddefnyddio cyffuriau
Mae rhai defnyddwyr IPED yn gweld Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd fel estyniad o’r powdwr protein a’r creatinin monohydrad y gallant ei brynu mewn archfarchnad. Nid ydynt yn cydnabod y risgiau sy’n gysylltiedig â’r defnydd, gan weld hyn fel atchwanegiad arall i’w gymryd.
Ieuenctid
Dechreuodd un defnyddiwr o bob pump ddefnyddio Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd cyn eu bod yn 20 oed. Efallai bod modelau traddodiadol i leihau niwed yn amhriodol neu’n aneffeithiol ymysg cleifion yn eu harddegau. Yn wir, mae’r grŵp poblogaeth hwn yn fwy tebygol o guddio’r ffaith eu bod yn defnyddio sylweddau, ac wynebu rhwystrau rhag ymgysylltu â gofal iechyd a chael gafael ar wasanaethau nodwyddau glân addas.
Cost
Dydy cylchoedd IPED ddim yn rhad. Gall rhai cylchoedd gostio cannoedd o bunnoedd y mis. Gall rhai defnyddwyr sy’n datblygu dibyniaeth wynebu problemau gyda dyledion.
Testosteron a Risg
Mae astudiaethau wedi dangos bod y rheini sydd â lefel uwch o serwm testosteron yn dangos mwy o ymddygiad cymryd risg(41). Mae’n ymddangos bod perthynas rhwng lefelau uwch o destosteron ac ymddygiad cymryd risg, fel gamblo(53). Felly, unwaith y bydd defnyddwyr IPED yn dechrau cymryd dos uwch o steroidau anabolig na’r hyn y mae'r corff yn ei gynhyrchu, mae eu syniad o risg yn gallu newid.