Monitro Cleifion

 

Yn ein cohort, rydym yn mynd ati, fel mater o drefn, i fesur:

Cyfrif gwaed llawn – i ganfod polycythaemia

Proffil o’r arennau – i ganfod straen cynnar ar y system arennol neu glefyd cronig cynnar yn yr arennau

Profion ar yr iau – i ganfod llid ar yr iau neu ddifrod i’r iau yn gynnar

Profion thyroid – os yw cleifion wedi camddefnyddio hormonau thyroid

Panel lipid – i ganfod a oes trafferthion yn codi gyda lipidau wrth ddefnyddio cyffuriau.  Yn arbennig, llai o lipoproteinau dwysedd isel

ECG – i fonitro newidiadau yn hypertroffedd y galon

Rydym yn argymell bod y rhain yn cael eu gwneud o leiaf bob 6 mis.  Yn ddelfrydol, bob 3 mis mewn defnyddwyr risg uchel iawn, ee, y rheini nad ydynt yn cymryd seibiant o’u defnyddio neu sydd ag ymddygiad risg uchel, y rheini sy’n defnyddio mwy nag un cyffur sy’n gwella perfformiad a delwedd, yn enwedig ar sawl ffurf, neu AAS

Dylid cyfeirio pob claf sydd â newidiadau i’r ECG ar gyfer asesiad ecocardiograffeg neu asesiad cardioleg


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau