Epidemioleg

Delwedd o berson sy’n corfflunio wrth y traeth

Mae Cyffuriau sy’n Gwella Delwedd a Pherfformiad yn dod yn fwyfwy cyffredin yn y gymuned magu cyhyrau’r corff. Gyda dylanwadwyr Instagram a’r “edrychiad Love Island”, mae llawer o bobl yn dod yn fwy ymwybodol o Gyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd, a’u heffeithiau ar allu unigolyn i gynyddu màs y cyhyrau a newid delwedd y corff. Er ei bod yn bosib bod pobl, yn y gorffennol, wedi ystyried Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd fel ffordd o wella perfformiad yn y byd chwaraeon elît, mae’n ymddangos bod hyn yn newid. Roedd 34% o’r rhai a holwyd yn dweud eu bod yn ymwybodol bod y cyffuriau hyn yn cael eu defnyddio yn eu campfeydd(30). 

Defnyddio Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd yn y DU:

Yn ôl Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, mae’r defnydd o Gyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd wedi cynyddu’n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer y bobl sydd wedi cymryd rhyw fath o steroid anabolig wedi codi 40% bron rhwng 2005 a 2016 ymysg pobl rhwng 16 a 59 oed (194,000 yn 2005/06 i 271,000 yn 2015/16)(31).

O ran defnydd yn ôl rhyw, mae data’n dangos bod y niferoedd ar gyfer dynion a menywod yn sefydlog, gyda thua 6% o ddynion ac 1% o fenywod sy’n mynychu campfa yn rheolaidd yn defnyddio steroidau anabolig(30), ac o’r rhai a holwyd mewn astudiaeth wahanol, roedd 94% o ddefnyddwyr IPED yn ddynion(31). Mae hyn yn rhoi syniad o’r poblogaethau sydd fwyaf mewn perygl o’r effeithiau negyddol wrth ddefnyddio IPED.

Yr oedran mwyaf cyffredin lle mae’r cyffuriau hyn yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf yw 20-24 oed. Mae nifer cynyddol o steroidau anabolig yn cael eu canfod ymysg pobl ifanc 16-24 oed, gyda thua 19000 yn fwy o oedolion yn defnyddio steroidau anabolig yn 2016/17 o’i gymharu â 2015/16(31,32). Efallai'n peri mwy o bryder yw mai'r oedran ieuengaf yr adroddwyd amdano o gychwyn defnydd IPED oedd 14 (31)

Yn y DU, roedd y gyfran fwyaf o bobl a oedd yn cymryd steroidau anabolig yn disgrifio’u hunain fel pobl wyn Brydeinig (70%), a Phacistaniaid oedd yr ail grŵp ethnig mwyaf cyffredin (3%) (33). Fodd bynnag, mae astudiaethau mwy diweddar yn dangos y gallai cyfran y defnyddwyr IPED sy’n Wyn Prydeinig fod mor uchel ag 80%.

Ffactorau sy’n cymell rhywun i ddefnyddio:

Mae defnyddio unrhyw gyffur (neu gyfuniad o gyffuriau) yn fater seicogymdeithasol cymhleth, yn aml gyda sawl ffactor ynghylch pam mae unigolyn yn dewis cymryd sylweddau. Yn y gymuned sy’n defnyddio IPED, mae’n ymddangos mai’r cymhelliant mwyaf cyffredin i’w defnyddio oedd magu cyhyrau, gyda 62% o’r ymatebwyr yn dweud mai dyma eu prif nod. Ochr yn ochr â hyn, soniwyd hefyd am fagu cryfder a cholli braster fel cymhelliant i ddefnyddio IPED. Mae defnyddwyr wedi nodi mathau eraill o ddefnydd, gan gynnwys: cael mwy o ysfa rywiol (8.6%), cael croen lliw haul (4.5%) a lleihau crychiadau yn y croen (4.5%)(33). Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu hefyd bod defnyddio Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd yn esthetig, ond hefyd yn canolbwyntio ar berfformiad, yn enwedig ar gyfer y rheini sy’n awyddus i weld cynnydd mewn perfformiad ym maes athletau(31).


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau