Dysmorffia’r corff

Y canlyniad mwyaf cyffredin a ddymunir wrth ddefnyddio Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd yw gwelliant cosmetig, gyda phriodweddau gwella perfformiad yn llai o gymhelliant i’w defnyddio.  Yn arolwg cenedlaethol 2016 ar Gyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd, dywedodd 56% o ddefnyddwyr a gafodd eu holi mai eu heffaith ar ddelwedd y corff oedd y cymhelliant pwysicaf(31).

Cafodd dysmorffia’r corff neu anhwylder dysmorffig y corff ei ddisgrifio am y tro cyntaf dros 100 mlynedd yn ôl. Mae hwn yn gyflwr nad yw pobl yn deall digon amdano o hyd. Y diffiniad sydd ohono yn y DSM-V yw bod meddwl rhywun wedi’i feddiannu’n llwyr gan un neu ragor o wendidau neu ddiffygion tybiedig mewn ymddangosiad corfforol, a bod hyn yn arwain at ofid meddwl(34). Ceir is-adran ar anhwylder dysmorffig y corff sy’n cyfeirio at dysmorffia’r cyhyrau: wedi ymgolli yn y syniad nad yw’r gorffolaeth yn ddigon cyhyrol.

Dangosodd astudiaeth yn 2018 fod 88% o’r rheini rhwng 18 a 29 oed yn defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Instagram a Facebook(35). Mae defnyddwyr y safleoedd hyn yn postio cynnwys lle mae’r unigolion eu hunain wedi bod yn hynod feirniadol ohonyn nhw eu hunain ymlaen llaw, sy’n golygu mai dim ond y portread gorau o’r unigolion mae’r gwylwyr yn ei weld. Dangoswyd bod gwylio’r cynnwys hwn yn rheolaidd yn arwain at anfodlonrwydd â delwedd y corff a chyfraddau uwch o anhwylderau dysmorffig y corff(36).

Mae’r cysylltiad rhwng byd ffasiwn a dysmorffia’r corff yn hysbys. Mae perthynas negyddol debyg yn bodoli yn y byd ffitrwydd lle mae gan bobl sy’n mynd i’r gampfa lefelau uchel o ddysmorffia’r corff sy’n gysylltiedig yn rhannol â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Disgrifiodd un astudiaeth fod y diwylliant o hunanwella parhaus a chystadleuaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gyda chyfoedion yn egluro’r lefelau uchel o anhwylder dysmorffig y corff ymhlith pobl sy’n mynd i’r gampfa(37).

Mewn nifer o achosion, mae Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd yn cael eu gweld fel ffordd hawdd a hwylus o ymdopi ag anhwylder dysmorffig y corff. Drwy ganiatáu i feinwe’r cyhyrau ordyfu’n gyflym ac ysgogi metaboledd braster, maent yn ei gwneud yn haws cael y ‘corff perffaith’ sy’n cael ei annog gan y cyfryngau cymdeithasol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau