Sgil effeithiau cyffredin

Gall Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd achosi amrywiaeth o sgil effeithiau acíwt a chronig, sy’n gallu bod yn seiciatrig neu’n ffisiolegol. Gall y rhain gael effaith fawr iawn ar ffordd o fyw a lles defnyddwyr.

Bydd llawer o bobl sy’n defnyddio Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd yn cyfuno gwahanol fathau o gyffuriau, a elwir yn stacio. Mae gwahanol gyfuniadau a dosau uwch o Gyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd y cyffuriau’n cyd-ymweithio yn ogystal â sgil effeithiau’r cyffuriau. Gallai’r sgil effeithiau hyn gael mwy o effaith yn y tymor hir os byddant yn cael eu cymryd gan bobl ifanc sy’n dal i ddatblygu.

Mewn arolwg IPED yn 2015, gwelwyd mai’r sgil effeithiau mwyaf cyffredin oedd poen yn safle’r pigiad (31% o ddynion, 9.1% o fenywod) a newid mewn hwyliau (26% o ddynion, 32% o fenywod). Roedd poen yn safle’r pigiad hefyd yn cynnwys haint a chrawni o ganlyniad i arferion fel techneg chwistrellu wael a rhannu nodwyddau(37).

Steroidau anabolig yw’r mathau mwyaf cyffredin o IPED sydd, fel arfer, yn esterau testosteron(34). Mae’r cyffuriau hyn yn cyd-ymweithio ag echelinau hormonaidd y corff ac yn arwain at sgil effeithiau digroeso fel moelni mewn dynion, gynecomastia, anffrwythlondeb, ceilliau’n crebachu a gormod o flew yn tyfu mewn menywod. Mae defnyddwyr IPED yn gwybod yn iawn am y sgil effeithiau hyn, ac maent yn gallu bod yn annymunol.

Mae gan rai cyffuriau synthetig sy’n dynwared testosteron, fel Trenbolone, fwy o affinedd â derbynyddion testosteron, ac mae hyn yn gallu achosi mwy o sgil effeithiau androgenig digroeso. Mewn ymdrech i wrthweithio’r effeithiau annymunol, defnyddir gwahanol steroidau sydd â mwy o effaith anabolig-i-androgenig. Mae defnyddwyr hefyd yn defnyddio amrywiaeth o sylweddau eraill i fynd i’r afael â’r sgil effeithiau hyn, fel Gonadotroffin Corionig Dynol. Mae pobl yn cymryd hCG gan gredu y bydd yn gwneud i echelin hormonaidd arferol weithredu’n normal ar ôl defnyddio steroidau anabolig.

(Gellir lawrlwytho copi cyfeillgar hygyrch yma)

Mae defnyddio steroidau anabolig yn y tymor hir yn gysylltiedig â nifer o gyflyrau iechyd cronig a marwolaethau cynnar. Mae’r rhain yn cynnwys difrod i’r afu/iau, pwysedd gwaed uchel, afreoleidd-dra cardiaidd (arhythmia) a newid ym metaboledd lipidau, sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o gnawdnychiant myocardaidd (MI), damwain serebro-fasgwlaidd (CVA) a llai o lipoprotein dwysedd uchel (HDL) a fydd yn achosi atherosglerosis cynnar.  O ganlyniad uniongyrchol i ddefnyddio steroid, mae hypertroffedd y galon yn bosib hefyd(38).

Gall Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd gael effaith fawr ar iechyd meddwl cleifion, gan arwain at gyflyrau megis iselder, paranoia, bod yn gaeth (gan gynnwys cyffuriau adloniant) a newidiadau yn hwyliau unigolion(30). O ganlyniad, mae defnyddwyr IPED yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o garcharu(39) a marwolaethau cynamserol, nid yn unig o gyflyrau corfforol ond hefyd o ganlyniad i hunanladdiad(40). Mae’r effaith y gall Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd ei chael ar iechyd meddwl ynddi’i hun, yn ogystal ag anhwylderau dysmorffia’r corff a allai fod yn bodoli’n barod, yn gallu ei gwneud yn anoddach i ddefnyddwyr roi’r gorau i’w cymryd, hyd yn oed pan fyddant yn gwybod am y sgil effeithiau a allai beryglu eu bywyd.

Mae testosteron wedi bod yn gysylltiedig ers tro byd â llawer o’r ymddygiad peryglus sy’n cael ei arddangos yn ystod cyfnod glasoed dynion. Mae cysylltiad hefyd â lefel uwch o serwm testosteron a chymryd mwy o risg(41). Gall hyn fod ar ffurf gamblo, goryrru a gyrru peryglus neu gymryd risgiau diangen eraill. O ganlyniad, efallai y bydd defnyddwyr IPED yn llai tebygol o sylweddoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio IPED yn ogystal ag unrhyw ymddygiad niweidiol. 

Un gred gyffredin yw cysylltiad rhwng lefelau uwch o serwm testosteron ac ymddygiad ymosodol corfforol (“roid rage” ar lafar gwlad yn Saesneg)(42).  Mae rhai ymchwil yn cyfeirio at y cysylltiad rhwng defnyddio steroidau anabolig ac ymddygiad ymosodol, ond yn cydnabod bod data am hyn yn brin(43).  Mae ymddygiad ymosodol yn fwy nodweddiadol gysylltiedig â’r rheini sydd eisoes yn dangos nodweddion ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac sydd hefyd yn ddibynnol ar steroidau anabolig-androgenig (AAS).(42,43).  Mae rhywfaint o ymchwil, er yn cydnabod y cysylltiad rhwng defnyddio AAS ac ymddygiad ymosodol, yn cwestiynu a yw defnyddio AAS yn achosi ymddygiad ymosodol neu ai unigolion sy’n dueddol o fod yn ymosodol eu natur sy’n defnyddio AAS?  Nid yw hyn yn glir o hyd(44).

Hefyd, mae nifer o hormonau eraill sy’n tarddu o’r tu mewn fel arfer, yn cael eu defnyddio fel Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd. Mae hormonau twf wedi cael eu defnyddio ers yr 80au fel cyffur i fagu cyhyrau’n gyflymach a lleihau’r amser mae’n ei gymryd i wella ar ôl anafiadau chwaraeon. Mae gormod o hormon twf, sy’n cael ei gynhyrchu y tu allan i’r corff, yn gallu arwain at acromegali. Gall hyn arwain at symptomau fel y corff yn dal dŵr, y dwylo, y traed a’r ên wedi chwyddo, arthralgia, a mwy o risg o ddiabetes mellitus, cardiomyopathi a phwysedd gwaed uchel(45).

IPED arall a ddefnyddir yn gyffredin yw Inswlin.  Yn yr un modd â phobl sydd â diabetes, hypoglycaemia (46) yw’r risg fwyaf o ddefnyddio inswlin sydd wedi'i gynhyrchu y tu allan i’r corff. Mae hyn yn gallu peryglu bywydau, ac nid yw llawer o’r athletwyr sy’n ei gymryd yn gwybod digon am y risgiau a’r dosau. Mae’r Asiantaeth Ryngwladol i Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon (WADA) yn dal i fethu dod o hyd i achosion gwaharddedig o gymryd inswlin, ac mae hyn yn golygu nad ydym yn gwybod beth yw maint y broblem. 

Mae mwy o risg o gael feirysau a gludir yn y gwaed ymhlith defnyddwyr IPED.  Mae'r rhain yn cynnwys HIV, hepatitis B a hepatitis C(47).

Ceir crynodeb o sgil effeithiau Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd ar y corff yn ffigurau 1 a 2.

Ffigur 1. Canlyniadau arolwg 2015 ar Gyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd. Sgil effeithiau a gofnodwyd a pha mor gyffredin ydyn nhw

 

Y flwyddyn ddiwethaf n (%)

Anaf/Effaith newidiol

Dynion (n=638)*

Menywod (n=25)*

Poen yn safle’r pigiad

174 (31)

1 (9.1)

Newid mewn hwyliau

164 (26)

8 (32)

Ceilliau’n crebachu

162 (25)

-

Mwy ymosodol

110 (17)

2 (8)

Pwysedd gwaed uwch

91 (14)

5 (20)

Chwydd/cochni yn safle’r pigiad

91 (16)

2 (18)

Gynecomastia

81 (13)

-

Blew digroeso ar yr wyneb/y corff

37 (5.8)

5 (20)

Colli gwallt

35 (5.3)

2 (8)

Cyfog

37 (5.8)

1 (4)

Llais dyfnach

27 (4.1)

3 (12)

Acne

25 (2.4)

1 (4)

Crawniad/Clwyf yn safle’r pigiad

22 (2.1)

0

 

Ffigur 2. Sgil effeithiau cyffredin hirdymor Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd. 

Sgil effeithiau cyffredin hirdymor Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd

(Gellir lawrlwytho fersiwn gyfeillgar hygyrch o'r ddolen hon).

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau