Mathau a Ffurfiau

Nod y modiwl yw rhoi cyflwyniad cyffredinol i’r maes pwnc. O ganlyniad, nid yw’r rhestr yn cynnwys holl fathau a ffurfiau’r gwahanol sylweddau.   

Mae hwn yn faes lle gwelir mwy a mwy o newidiadau wrth i’r sylweddau fod ar gael fwyfwy.

AAS (Steroidau Anabolig Androgenig)

Enghreifftiau: Testosteron Enanthate, Testosteron Proprionate, Stanazolol, Trenbolone, Boldenone

Yr IPED mwyaf cyffredin yn ein clinig.  Mae'r defnydd yn rhychwantu o gynnydd bach sy’n uwch na llinell sylfaen arferol testosteron ar gyfer “dibenion iechyd a lles/gweithredoedd rhywiol” hyd at ddosau sydd dros ddeg gwaith y dos arferol a argymhellir

Cafodd gwaith ymchwil ei gynnal ar AAS yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau, ac er bod defnyddwyr yn deall y canlyniadau iechyd tymor byr fel arfer, mae’r canlyniadau iechyd tymor hir mewn achosion o dosau camddefnyddio yn dal i ddod i’r amlwg.

Mae modd chwistrellu AAS neu ei gymryd drwy’r geg.  Mae ffurfiau drwy'r geg yn tueddu i gael effaith fawr ar yr iau oherwydd eu metaboledd.  Er bod defnyddwyr gwasanaeth sy’n defnyddio ein clinigau yn defnyddio llai o steroidau anabolig drwy’r geg, mae’r defnydd yn dal yn uchel, yn enwedig ymysg menywod sy’n meddwl bod ganddynt lai o nodweddion gwrywaidd.

Honnir bod Steroidau Anabolig Androgenig yn cael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o fuddion, ac mae’r tabl isod yn egluro sut y credir bod hyn yn digwydd(1)

 

1.Effaith ar feinwe'r cyhyrau 

Cynyddu màs y cyhyrau sydd heb lawer o fraster a synthesis cyhyrau

2.Effaith ar Dderbynyddion 

Cynnydd yn y derbynyddion androgen

3.Effeithiau gwrth-gatabolig 

Credir bod hyn yn deillio wrth i androgen lynu wrth dderbynyddion glwcocorticoid

4.Hormon Twf yn cael ei secretu 

Credir bod ysgogi secretiad yr hormon twf (a achosir gan yr androgen) yn ychwanegu at effaith anabolig testosteron

5. Effeithiau ychwanegol gyda hyfforddiant 

Roedd ymarfer corff a chymryd atchwanegiad (supplement) testosteron yn dangos yn glir bod effeithiau testosteron ac ymarfer ymwrthiant yn ychwanegol, o’u cymharu ag ymarfer corff neu destosteron yn unig.

6.Effeithiau CNS

Roedd astudiaethau’n dangos bod ymatebwyr wedi sôn am well ewfforia, mwy o egni, a mwy o gynnwrf rhywiol wrth ddefnyddio AAS

Hormon Twf Dynol

Er bod y dystiolaeth sy’n cefnogi’r defnydd yn gymysg braidd, mae Hormon Twf Dynol wedi bod yn boblogaidd iawn ym maes chwaraeon.  Dros y blynyddoedd diwethaf, mae hyn wedi bod ar gael yn fwy eang drwy dechnoleg ailgyfuno.   Y tu allan i’r DU, mae Hormon Twf Dynol yn cael ei roi ar bresgripsiwn at ddibenion byw’n hirach neu wella anafiadau, ond unwaith eto, ychydig o dystiolaeth sydd i gefnogi’r defnydd hwn.

Mae astudiaethau wedi dangos mwy o brotein corff cyfan a mwy o synthesis proteinau yn y cyhyrau, llai o ddirywiad yn y cyhyrau drwy gyflwyno IGF-1 a hefyd lipolysis 2-3 awr ar ôl y pigiad. (2)

Un o’r eitemau drutach mewn cylch IPED.  Gall pobl wario sawl can punt y mis ar Hormon Twf Dynol sydd wedi'i ailgyfuno.

Atalyddion Aromatas

Anastrozole (Arimidex) / Exemestane (Aromasin) / Letrozole (Femara)

Mae atalyddion aromatas (AI), sy’n cael eu defnyddio’n draddodiadol mewn cyflyrau fel canser y fron, yn lleihau’r broses o drosi testosteron i oestrogen.  Yn aml iawn, fe’u defnyddir fel atchwanegiad ar ffurf IPED wrth gymryd steroidau anabolig. Y bwriad wrth eu cymryd yw lleihau crynodiadau uchel o oestrogen sy’n deillio o aromateiddio testosteron endogenig. 

Mae atalyddion aromatas yn aml yn cael eu cymryd gyda’r bwriad o atal gynecomastia (datblygu meinwe’r fron) ymysg dynion sy’n defnyddio IPED.  Ychydig o dystiolaeth sydd ar gael o’u defnydd.  Mae datblygu gynecomastia yn ymddangos yn fwy cymhleth na dim ond crynodiadau uwch o estrogen, gan nad yw rhai defnyddwyr byth yn datblygu gynecomastia, er gwaetha’r defnydd helaeth o destosteron ar ffurf pigiad.  Mae dwy astudiaeth achos wedi dangos, ar ôl rhoi’r gorau i therapi amnewid testosteron, fod claf a oedd wedi dechrau ar atalydd aromatase am sawl wythnos cyn ailddechrau therapi amnewid testosteron(3)   yn llai tebygol o ddatblygu gynaecomastia. Er hyn, mae astudiaethau pellach wedi dangos nad yw atalyddion aromatase, ar eu pen eu hunain, yn atal gynecomastia, yn enwedig mewn dynion iau a allai fod â thueddiad yng nghyfnod y glasoed i ddatblygu gynecomastia.(4)

Dylid nodi bod atalyddion aromatas yn amrywio o ran cryfder ac mae Letrozole yn llawer mwy pwerus nag Anastrazole. Gallai atal aromateiddio dwys o’r fath arwain at lefel isel iawn o oestrogenau, ac mae hyn yn gallu effeithio ar ansawdd esgyrn, effeithio ar iechyd cardiofasgwlaidd a gweithredoedd rhywiol.(5)

Triiodothyronine (T3)

Yn hanesyddol, mae’r hormon thyroid hwn wedi'i ddefnyddio fel meddyginiaeth colli pwysau. Mae’n cynyddu’r gyfradd metabolaeth waelodol, yn rhannol drwy gynyddu cyfradd y galon a grym cyfangiadau, ymysg prosesau biocemegol eraill.(6) Caiff ei ddefnyddio gan ddefnyddwyr IPED i fetaboleiddio braster.  Mae sgil effeithiau yn debyg i rai thyrotocsicosis: cryndod, methu dioddef gwres, gwallt yn teneuo, gorbryder, crychguriadau’r galon. 

Clenbuterol

Mae hwn yn feddyginiaeth filfeddygol sy’n fwy a mwy poblogaidd, ac mae’n dal wedi’i thrwyddedu y tu allan i’r DU i’w defnyddio gan bobl.  Gweithydd beta pwerus, yn yr un teulu â salbutamol.  Mae’r cyffur hwn wedi dod yn fwy poblogaidd - honnir bod ganddo briodweddau anabolig a lipolytig.  Hynny yw, mae’n magu cyhyrau ac yn llosgi braster.  Yn ogystal â hyn, efallai y bydd yn gallu gwella perfformiad mewn chwaraeon.(7)

Mae colli braster yn debygol o ddigwydd o ganlyniad i fwy o weithredu metabolig gwaelodol yn sgil cynnydd yn y gyfradd anadlu a’r gyfradd gardiaidd. Ond, nid yw’r mecanwaith ar gyfer gordyfiant y cyhyrau (hypertroffedd) yn glir.  Mae astudiaethau’n awgrymu bod effaith atal gyflym, uniongyrchol efallai, ar ddirywiad y protein. Felly, gall effaith hybu twf Clenbuterol fod yn benodol i gyhyrau gan weithio mewn ffordd wahanol, felly mae’n wrth-gatabolig, yn hytrach nag anabolig ei natur.(8)

Mae’r sgil effeithiau’n cynnwys anadlu cyflym (tachypnoea), hypokalaemia, hyperglycaemia, newidiadau ST ar electrocardiogram, lefel uwch o troponin, lefel uwch o cinas creatinin (CK), crychguriadau’r galon, poen yn y frest, a chryndod. Cofnodwyd achosion o anafiadau myocardaidd gyda’r cyffur hwn. (7)

Secretyddion Hormon Twf Dynol (HGH) neu “Peptidau”

HGH - darn 176-191, 191aa (llawer)

Mae’r rhain yn beptidau synthetig biolegol weithredol sy’n gysylltiedig yn strwythurol â rhan o fewn hormon twf dynol.  Mae rhai astudiaethau’n dangos rôl y cyfansoddion hyn o ran codi lefelau Hormon Twf.(9) Ond, oherwydd mai defnydd cymharol o hwn sy’n dod i’r amlwg, mae angen data tymor hir ar ddiogelwch ac effeithiolrwydd, gan gynnwys marwolaethau ac achosion o ganser. (10)

Inswlin

Mae hwn yn gyffur anabolig cryf ar gyfer meinwe’r cyhyrau a braster.  Mae’n lleihau cyfradd lipolysis mewn meinwe brasterog, yn ysgogi synthesis asid brasterog mewn meinweoedd, ac yn cynyddu faint o driglyseridau sy’n cael eu symud o’r gwaed i’r meinwe brasterog.  Yn ogystal â hyn, mae’n cynyddu faint o asidau amino sy’n cael eu cludo i feinweoedd ac mae’n lleihau cyfradd y dirywiad mewn proteinau yn y cyhyrau. (11)

Mewn chwaraeon, yn enwedig codi pwysau a magu cyhyrau’r corff, y bwriad wrth roi inswlin sy’n gweithio dros dro gyda charbohydradau dros dro yn rheolaidd yw cynyddu swmp y cyhyrau drwy leihau dirywiad yn y proteinau a chynyddu faint o glycogen sy’n cael ei storio ar gyfer perfformiad.   Gyda chleifion â diabetes sy’n cael eu trin ag inswlin, gwelwyd cynnydd ym mas y corff heb lawer o fraster o’i gymharu â dulliau rheoli cyfatebol.  (12)

 

Cyffuriau Cysylltiedig
Isotretinoin/Differin/Adapalene

Drwy’r geg neu ar y croen – yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael â sgil effeithiau dermatolegol acne a ddaw wrth ddefnyddio steroidau anabolig.

Sildenafil/Tadalafil

Drwy’r geg – yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael â thrafferthion codiad yn ystod neu ar ôl beicio

Modafinil

Drwy’r geg – yn cael ei ddefnyddio fel ysgogydd i wella perfformiad wrth ymarfer corff, mynd i’r afael â blinder fel cyffur nootropig, neu fynd i’r afael â'r cyflwr dal anadl wrth gysgu mewn unigolion sydd â llawer iawn o gyhyrau

Di-nitro-ffenol (DNP)

Drwy'r geg - yn cael ei ddefnyddio i “losgi braster”.  Mae’r sylwedd yn wenwynig iawn (yn ôl Toxbase)

Cyffuriau Incretin Mimetig (ee, Semaglutide/Liraglutide)

Drwy bigiad - yn cael eu defnyddio i atal chwant bwyd at ddibenion colli braster

EPO (erythropoietin)

Drwy bigiad

Wedi'i ddatblygu gyntaf ar gyfer cleifion ag anaemia a chlefyd cronig ar yr arennau. Mae’n bodoli’n ffisiolegol i gynyddu nifer y celloedd gwaed coch sy’n cael eu cynhyrchu gan y mêr esgyrn pan fydd crynodiad ocsigen mewn meinweoedd yn gostwng(13). Mae’r gostyngiad hwn mewn crynodiad ocsigen yn cael ei adnabod drwy Ffactorau a achosir gan Ddiffyg Ocsigen (HIF) sy’n glynu wrth yr EPO i’w ysgogi(14). Mae’r sylw mwyaf i ddefnyddio EPO mewn cyd-destun chwaraeon i’w weld mewn sgandalau beicio. Mae EPO yn ddewis mwy cyffredin mewn chwaraeon gyda lefel aerobeg uwch (ee, rhedeg pellteroedd hir, beicio, sgïo traws gwlad, ayb.)(15)

Mae dwbl y risg yn gysylltiedig â defnyddio EPO; effeithiau dosau uwch o EPO na’r hyn a welir yn y corff, a’r risgiau sy’n gysylltiedig â phigiadau a defnyddio nodwyddau.

Dyma’r risgiau cyffredin(16):

  • Pwysedd gwaed uchel
  • Emboledd yn yr ysgyfaint
  • Cnawdnychiant myocardaidd
  • Strôc
Ysgogyddion

Ysgogyddion yw rhai o’r technegau hynaf a ddefnyddir i gael mantais gystadleuol mewn chwaraeon. Er bod y categori’n eithaf eang ar gyfer yr hyn sy’n cael ei ystyried yn ysgogydd, mae cyffuriau cyffredin sy’n cael eu defnyddio yng nghyd-destun cymryd cyffuriau gwaharddedig yn cynnwys

Amffetamin/Decsamffetamin/Methamffetamin/Cocên/Ephedrine

Gall y cyffuriau hyn gael sawl effaith, ond maent yn ysgogi’r system nerfol ganolog mewn tair prif ffordd (17)

  1. Cynyddu proses rhyddhau rhai niwrodrosglwyddwyr ee, dopamin, noradrenalin a serotonin
  2. Ysgogi niwronau ôl-synaptig yn uniongyrchol
  3. Atal niwrodrosglwyddydd rhag cael ei amsugno eto

Y theori sy’n sail i gymryd ysgogyddion yw eu bod yn gwneud rhywun yn fwy ymosodol, effro a chystadleuol, a’u bod wedi cael eu defnyddio mewn cystadlaethau a hyfforddiant i sicrhau’r ymdrech a’r arddwysedd mwyaf. Gallant hefyd gynyddu cryfder a gwytnwch y cyhyrau(18). Mae’r tabl isod yn egluro sgil effeithiau posib yr ysgogyddion hyn, os ydynt yn anghyfarwydd.

 

Amffetaminau

Cocên

Ephedrine

Dryswch/Deliriwm

Aflonyddwch meddwl/Tymer flin

Cur pen

Chwysu

Marwolaeth y Galon Sydyn

Penysgafnder

Crychguriadau’r galon

Trawiadau/Ffitiau

Tymer flin

Pwysedd gwaed uchel

Ataliad resbiradol (anadlu)

Gorbryder

Curiad calon cyflym (Tacycardia)

Ataliad y galon

Cryndod

Cryndod

 

Anawsterau anadlu

Poen yn y Cyhyrau/Cymalau

 

Confylsiynau

Ataliad y galon

 

Arhythmia

 
Therapi Ôl-gylch (PCT)

Fel arfer, mae therapi ôl-gylch yn cynnwys cyffur neu gyfres o gyffuriau sy’n cael eu defnyddio gyda’r gred y bydd yn adfer swyddogaeth arferol yr HPA (neu gyflymu’r broses adfer) ar ôl ataliad yr HPA yn sgil defnyddio testosterone mewndarddol (endogenous).

Gonadotroffin Corionig Dynol (hCG)

Mae astudiaethau wedi dangos cynnydd ym maint y ceilliau a lefel y testosteron a gynhyrchir mewn dynion cyn cyfnod y glasoed.(19,20) Mae astudiaethau eraill wedi dangos pa mor effeithiol yw defnyddio hCG mewn hypogonadiaeth steroid anabolig wrth adfer gweithrediad cell Leydig, hyd yn oed ar ôl defnyddio steroidau anabolig am gyfnod hir (21, 22, 23).  Mae tystiolaeth yn dangos hefyd fod modd ei ddefnyddio i wella tanffrwythlondeb ar ôl cyfnod hir o atal gyda steroidau anabolig.(24)

Felly, mae ei ddefnyddio i wella ar ôl defnydd helaeth o’r AAS yn addawol. Ond, er ei bod yn bosib bod defnyddwyr IPED yn defnyddio hyn, nid ydym ni fel clinig yn ymwybodol, ar hyn o bryd, o leoliad clinigol lle mae hyn yn cael ei gynnig i ddefnyddwyr IPED.

Tamoxifen

Defnyddir hwn yn ystod cylch neu yn ystod therapi ôl-gylch, yn draddodiadol i atal gynecomastia(25) sydd i’w weld, o bosib, wrth aromateiddio’r testosteron a chynnydd cyfatebol mewn oestrogen.  Fodd bynnag, ychydig o dystiolaeth sydd ar gael. Mae rhai astudiaethau achos yn dangos ei fod yn effeithiol o ran lleihau gynecomastia (26), ond mae rhai astudiaethau’n awgrymu nad yw gystal o’i gymharu ag atalyddion aromatas ar gyfer gwneud hyn.

Dylid nodi bod defnyddio hwn yn gallu achosi niwed i’r iau/afu(27) yn y tymor hwy, ac felly dylid cynghori cleifion am hyn.

Clomiphene

Defnyddir hwn yn eang at ddibenion adfer swyddogaeth cynhyrchu testosteron arferol. Mae astudiaethau’n dangos cynnydd yn lefelau LH, FSH, a lefelau cyfanswm y testosteron a thestosteron rhydd mewn ymateb i sitrad clomiphene(28). Mae hyn yn egluro’r sail resymegol dros pam mae llawer o ddefnyddwyr IPED yn cymryd hwn yn ystod y cyfnod adfer.  Gall y rheini sy’n defnyddio AAS am fwy na blwyddyn elwa o driniaeth tymor byr gyda Clomiphene(29).

Mae’r dystiolaeth ynghylch rhoi'r gorau i ddefnyddio AAS yn effeithiol ac yn ddiogel, a rheoli’r broses honno, yn dal yn wael. Adeg cyhoeddi hwn, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau consensws na fframwaith ar gyfer ymdrin ag adferiad meddygol, hynny yw, heb fod yn seicolegol.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau