Clefyd Bowen
Mae clefyd Bowen yn fath o SCC sefydlog. Mae’n digwydd ar ffurf placiau cochlyd caledennol iawn wedi’u diffinio’n glir sydd ag ymylon afreolaidd. Ei nodwedd histolegol yw dysplasia epidermol trwch llawn. Mae’n digwydd yn amlach mewn menywod a rhai yn eu saith degau. Mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau’n nodi bod SCC sefydlog yn digwydd yn bennaf ar leoliadau sy’n agored i’r haul, ac mae astudiaethau mwy diweddar yn awgrymu mai’r lleoliad mwyaf cyffredin yw’r pen a’r gwddf. Fodd bynnag, mae’n ymddangos ei fod yn effeithio ar goesau mewn menywod yn fwy nag mewn dynion. Rhai amrywiadau llai cyffredin yw SCC sefydlog pigmentog, cledrol, dafadennog, tanewinol, o gwmpas yr ewin, ar yr organau cenhedlu, ac o gwmpas yr anws.
Diagnosis
Os oes unrhyw ansicrwydd ynghylch y diagnosis, neu os oes angen cadarnhad cyn dechrau triniaeth o fath penodol, dylid gwneud biopsi drwy dyllu. Mae hyn yn fwy addas na biopsi ciwretio, gan fod modd gweld holl drwch yr epidermis a’r dermis i ganfod a oes unrhyw afiechyd ymledol sy’n SCC croenol.
Risg sy’n gysylltiedig â chlefyd Bowen
Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod 30–50% o gleifion sydd â chlefyd Bowen un ai wedi cael NMSC yn barod neu eu bod yn datblygu NMSC arall wedyn. BCC fydd y rhain gan mwyaf. Credir bod hyn yn gysylltiedig ag achos cyffredin sy’n ymwneud â golau’r haul. Yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o astudiaethau wedi dangos bod risg o 3-5% i glefyd Bowen ymledu.
Rheoli
Mae’r opsiynau triniaeth yn cynnwys 5-fflwrowracil argroenol, imiquimod argroenol, cryotherapi,ciwretio, llawdriniaeth i’w dynnu allan, therapi ffotodynamig, radiotherapi a thriniaeth laser. Bydd y dewis o driniaeth yn dibynnu ar y maint a’r lleoliad anatomegol.
Mae Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain wedi adrodd ar yr anawsterau a gafwyd wrth werthuso astudiaethau sy’n ymwneud â thrin clefyd Bowen. Mae hyn yn ymwneud yn rhannol â chasglu data gan fod achosion lle mae triniaeth wedi’i rhoi heb wneud biopsi fel ei bod yn anodd cymharu moddau triniaeth. Yn ogystal â hyn, mae gwahaniaethau rhwng lleoliadau anatomegol yn effeithio ar y gallu i gwblhau triniaeth, felly ceir tuedd wrth ddethol yn aml mewn perthynas â rhai mathau o driniaeth.
Felly er mwyn trin clefyd Bowen yn effeithiol rhaid cael dealltwriaeth o leoliadau anatomegol, y gwahanol driniaethau a’r tebygolrwydd o glirio’r clefyd ochr yn ochr â chwnsela cleifion. (15)