Golwg ar ganser yng Nghymru
Datganiad gan Dr Tom Crosby, Cyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Canser Cymru
“Mae astudiaethau rhyngwladol yn dangos yn gyson fod Cymru tua gwaelod y tabl o gymaryddion rhyngwladol ar gyfer goroesi canser ac maen nhw’n dangos bod diagnosis hwyr yn ffactor achosol pwysig. Mae’r nifer uwch o lawer o gleifion sy’n cael diagnosis mewn lleoliad brys a chyfran y canserau sy’n cael eu canfod mewn cyfnodau hwyr yn awgrymu bod angen i Gymru wneud yn well o ran canfod canserau yn y cyfnodau cynharach. Drwy ddarganfod canser yn gynnar, bydd y driniaeth yn fwy tebygol o fod yn iachaol, yn llai dwys ac yn llai drud”. (1)