Datblygiadau yn y practis

Os oes newidiadau yn cael eu gwneud i ffabrig neu strwythur y practis sydd yn effeithio ar eich datblygiad personol, efallai y byddwch yn dymuno eu hamlygu drwy ddefnyddio’r templed yma.

Enghraifft:

Natur y newid Uwch bartner yn ymddeol
Sut fydd hynny yn effeithio ar y practis a/neu fi? Bydd yr uwch bartner yn ymddeol ymhen 6 mis - mae hi wedi arwain o ran delio â chyfrifon y practis am y 12 mlynedd diwethaf. Mae hi hefyd yn un o 2 o bobl yn unig yn y practis sydd ar hyn o bryd yn gosod IUD. Hi sydd yn cynnal yr adolygiadau diabetig blynyddol. Nid yw recriwtio yn broblem oherwydd bod gennym locwm hirdymor fydd yn camu i’r adwy, ond mae hynny yn golygu mai fi fydd yr unig bartner fydd yn gosod IUD a bydd angen i rywun gymryd cyfrifoldeb am y clinig diabetig a’r cyfrifon.
Materion datblygiad personol Rwyf wedi cael fy mhenodi fel y person fydd yn delio â’r cyfrifydd. Mae hynny yn achosi ychydig o bryder i mi oherwydd rwyf yn cael anhawster deall y cyfrifon ar hyn o bryd. Mae rheolwr y practis yn eu deall yn well na fi - mae’n rhywbeth y bydd angen i mi ei ddysgu.
Sut wyf yn teimlo ynghylch newidiadau arfaethedig (neu a gwblhawyd) Mae’n chwith gen i weld fy nghydweithiwr yn ymddeol, mae hi wedi addo llenwi swyddi locwm am o leiaf y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn gadael rhai problemau yn y practis, ond rydym yn cynllunio ymlaen llaw, ac fe ddylai fod yn eithaf didrafferth. Nid wyf yn rhagweld problem mai fi fydd yr unig feddyg fydd yn gosod IUD, a bydd hynny yn golygu y byddaf yn cael mwy o brofiad mewn gwirionedd. Diolch byth nad fi fydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ofal diabetig!

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau