Manteision, Sgil-effeithiau & Risgiau
Manteision
Gallai POIm leihau poen crampiau mislifol ac ofyliadol mewn rhai menywod. Hefyd, mae rhywfaint o dystiolaeth wan y gall helpu ag endometriosis.
Risgiau
O’r dystiolaeth sydd ar gael dim ond ychydig, neu ddim, y mae'r risg o VTE, strôc neu MI yn cynyddu gyda POIm. Nid oes digon o dystiolaeth i ddweud a yw’n cael effaith andwyol ar BMD ar hyn o bryd. Fel sy’n wir gyda phob dull atal cenhedlu progestin yn unig, gallai POIm gynyddu nifer yr achosion o ganser y fron. Serch hynny, mae unrhyw risg uwch yn debygol o fod yn fychan a diflannu gydag amser ar ôl rhoi’r gorau i’w gymryd.
Fel nifer o ddulliau atal cenhedlu hormonaidd eraill, o bosibl gallai effeithiolrwydd POIm gael ei leihau mewn menywod sy'n cymryd cyffuriau cymell ensymau.
Nid oes risg uwch o feichiogrwydd mewn menywod sy’n pwyso hyd at 149kg ac, er gwaethaf y ffaith bod lefelau ENG yn gostwng gydag amser, nid oes tystiolaeth i gefnogi newid POIm yn gynharach na 3 blynedd i’r menywod hyn. Nid oes digon o dystiolaeth ar gyfer menywod sy'n drymach na 149kg.
Sgil-effeithiau
Mae’n gyffredin gyda POIm i waedu’n annisgwyl ac, yn wahanol i ddulliau atal cenhedlu eraill, nid yw’n debygol o newid yn sylweddol dros amser. Mae astudiaethau’n dangos mai dim ond chwarter o fenywod fydd yn parhau i waedu'n rheolaidd. Efallai y bydd y lleill yn cael amenorrhea (un rhan o bump), gwaedu’n anaml (traean), neu waedu’n aml/am gyfnod estynedig (chwarter). Mae’n rheswm cyffredin dros dynnu’r impiad.
Mae'r sgil-effeithiau eraill yr adroddwyd amdanynt yn cynnwys cur pen, acne (rhai’n gwaethygu tra bo eraill yn gwella), newid mewn hwyliau, libido is ac ennill pwysau, er nad oes tystiolaeth gref o berthynas achosol gydag unrhyw un ohonynt.
Mae rhai wedi adrodd am grebachiad croen a newid mewn teimlad yn ymyl y lle’r rhoddwyd yr impiad.