Tynnu

Mewnblaniad wrth ymyl y fraichMae Nexplanon wedi’i drwyddedu am 3 blynedd, ac ar ôl hynny dylid ei newid os yw’r fenyw’n dymuno parhau â POIm.  Fodd bynnag, efallai y bydd menywod yn gofyn i gael ei dynnu’n fuan am resymau cynllunio teulu neu effeithiau andwyol.   Gellir rheoli gwaedu sy’n drafferthus, ymysg menywod sy'n gymwys yn feddygol, gyda 3 mis o COC.  Mae diffyg tystiolaeth ynglŷn â diogelwch ei ddefnyddio yr un pryd â POIm yn yr hirdymor.  Ymysg y dewisiadau eraill mae progestin drwy'r geg (all-drwydded) a mefenamic acid (drud, ac nid yw’n ddelfrydol yn yr hirdymor).  Os yw’r fenyw, ar ôl derbyn cyngor, yn dal i fod eisiau ei dynnu, ni ddylid oedi waeth pryd y cafodd ei roi i mewn. 

Yn yr un modd â mewnosod yr impiad, dim ond gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sydd wedi cael hyfforddiant achrededig ddylai ei dynnu (gweler uchod).  Dylai’r fenyw gael yr wybodaeth lawn am y driniaeth a chael caniatâd ganddi.  Dylid cynnal y driniaeth dan amodau di-haint, gydag anesthesia lleol priodol.  Dylid tynnu’r impiad drwy doriad yn y croen dros ben pellaf yr impiad.  Yna dylid archwilio’r gwagle i wneud yn siŵr nad oes impiad/darnau o’r impiad ar ôl yn y corff.  Os oes angen impiad arall, dylid creu lle isgroenol newydd ger y cyntaf. 

Os nad oes modd teimlo’r impiad, dylid cynghori’r fenyw i ddefnyddio rhagofalon ychwanegol a’i chyfeirio at ganolfan arbenigol i’w dynnu dan arweiniad uwchsain.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau