Ymgynghoriad Cychwynnol
Cyn presgripsiynu POP, dylai’r clinigwr wneud yn siŵr bod y fenyw’n gymwys yn feddygol. Mae gan UKMEC feini prawf llawn ar gyfer cymhwystra meddygol,. Fel y gwelwyd uchod, ychydig iawn o risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â hwn ond fe ddylid cymryd gofal wrth roi presgripsiwn hirdymor i fenywod â CVD, neu i’r rhai â chlefyd sylweddol ar yr afu. Fel dulliau atal cenhedlu hormonaidd eraill, cynghorir yn erbyn ei roi i fenywod â chanser y fron. Dylid hefyd osgoi rhoi POP i fenywod sy'n cymryd cymhellwyr ensym yr iau.
Os nad oes unrhyw wrtharwyddion, dylid cynghori menywod ynghylch newid yn eu patrymau gwaedu a sgil-effeithiau posibl eraill. Dylid rhoi gwybod iddynt y byddant yn ffrwythloni’n sydyn eto ar ôl rhoi’r gorau i gymryd y bilsen.
Nid yw’r FSRH yn argymell BP na gwirio pwysau, ond fe all fod yn briodol yn dibynnu ar oedran y fenyw. Dylid annog sgrinio serfigol.
Mae’n rhesymol cynnig POP DSG 75μg yn gyntaf, oherwydd y cyfnod methu pilsen hirach, ond dylid trafod hynny gyda'r claf (nifer yr achosion o waedu annisgwyl yn debygol o gynyddu). Gall y presgripsiwn fod am 12 mis o’r adeg mae’n cael ei bresgripsiynu gyntaf. Yn hanesyddol, mae nifer o bresgripsiynwyr wedi rhoi 2 POP y dydd i gleifion sy’n llawer dros eu pwysau. Serch hynny, mae’r dystiolaeth i gefnogi hyn yn annigonol, ac nid yw’r FSRH yn argymell gwneud hynny.
I fenywod sy'n dechrau cymryd y bilsen o fewn 5 diwrnod cyntaf eu cylchred, nid oes angen cymryd unrhyw ragofalon ychwanegol. Ar unrhyw adeg arall, neu i fenywod sy'n newid o CHC neu ddull atal cenhedlu yn y groth, y cyngor yw defnyddio rhagofalon ychwanegol am 48 awr arall. Rhaid cynghori menywod ynglŷn â’r angen i gymryd y bilsen yr un pryd bob dydd (o fewn cyfnod o 3 awr NET/LNG, neu gyfnod o 12 awr DSG). Dylid eu cynghori ynghylch y rheolau ar gyfer methu diwrnod (gweler Blwch 5).
Blwch 5: Crynodeb o Ymgynghoriad Cychwynnol POP
Trafod yr holl ddewisiadau atal cenhedlu |
Cymhwystra meddygol |
Dylid osgoi os: · Yw’n cymryd meddyginiaeth cymell ensymau · Oes hanes o ganser y fron Dylid cymryd gofal os: · Yw arno yn yr hirdymor a hanes o CVD |
Trafod sgil-effeithiau posibl |
|
Archwiliadau angenrheidiol |
Does dim angen Ystyried y rhain os yw’n briodol:
|
Rhagofalon ychwanegol angenrheidiol |
|
Rheolau methu pilsen |
Cyfnod o 3 awr LNG/NET; cyfnod o 12 awr DSG Os yw wedi methu pilsen:
Cymryd pilsen arall os yw wedi chwydu/dolur rhydd difrifol o fewn 2 awr os methwyd mwy nag un bilsen ac SI ystyried dull atal cenhedlu brys |
Rhoi presgripsiwn |
|
*Dim ond i wir gylchredau mae’r rheol hyd at ddiwrnod 5 yn berthnasol. Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol i fenywod ar CHC. I fenywod ar CHC, rhaid cymryd rhagofalon ychwanegol am 48 awr os yw’n dechrau ei gymryd ar ddiwrnod 3 yr HFI ac yn ystod yr wythnos gyntaf o gymryd CHC. Os dechreuodd POP yn ystod wythnos 2 neu 3 nid oes angen cymryd unrhyw ragofalon ychwanegol.