Manteision, Sgil-effeithiau & Risgiau

Manteision

Gall DSG POP leihau crampiau mislifol a phoen yng nghanol y gylchred, yn ogystal â helpu â phoen pelfig sy'n gysylltiedig ag endometriosis.  Gallai DSG POP helpu i leihau nifer a dwyster ymosodiadau meigryn. 

Yn wahanol i rai mathau eraill o ddulliau atal cenhedlu, nid oes oedi cyn ffrwythloni eto ar ôl rhoi’r gorau i gymryd POP (17 diwrnod ar gyfartaledd tan ofylu ar ôl rhoi’r gorau i gymryd DSG).

 

Risgiau

Fel CHC, gallai cymhellwyr ensymau effeithio ar fetaboledd POP ac felly ni ddylid ei gyd-bresgripsiynu (gweler Blwch 3).

Mae llond llaw o gyflyrau meddygol eraill sy'n cyfyngu ar ddefnyddio POP (gweler UKMEC ar wefan FSRH i gael y manylion llawn).  Nid oes cysylltiad wedi’i brofi rhwng defnyddio POP a risg uwch o ganser y fron (er bod y dystiolaeth sydd ar gael yn gyfyngedig).  Mae’n debygol bod unrhyw risg yn isel ac y byddai’n gostwng ymhen amser ar ôl rhoi’r gorau i’w gymryd.  Fe ymddengys ei fod yn gymharol ddiogel i ferched â ffactorau risg cardiofasgwlaidd a gallai fod yn briodol i ferched â chlefyd y galon.  Ni phrofwyd ei fod yn cynyddu’r risg o VTE, ond mae’r data yn gyfyngedig.  Yn yr un modd â choiliau, mae’r risg o feichiogrwydd ectopig fymryn yn uwch wrth gymryd POP (tua 1 o bob 10 achos o feichiogrwydd ar POP).  Fe ymddengys bod POP yn cynyddu’r nifer o achosion o godennau ofarïaidd anfalaen ond nid oes tystiolaeth i ddangos ei fod yn cynyddu risg menyw o gael canser yr ofari.

 Blociau’n sillafu Risg

Sgil-effeithiau

Mae newid mewn patrymau gwaedu yn gyffredin ar y POP.  Mae gwaedu annisgwyl yn tueddu i ostwng dros amser.  Ar ôl 1 flwyddyn o ddefnydd parhaus, bydd oddeutu 50% o ddefnyddwyr DSG yn cael amenorrhea/sbotio o bryd i’w gilydd.  Ac efallai y bydd 20% yn gwaedu am gyfnod estynedig (>14 diwrnod). Mae’n ymddangos bod POPau sy'n cynnwys LNG neu NET yn cael effaith lai ar waedu annisgwyl.  Mae gwaedu’n aml ac yn afreolaidd yn gyffredin, ond mae gwaedu am gyfnod estynedig ac amenorrhea yn llai tebygol.

Mae'r sgil-effeithiau eraill yr adroddwyd amdanynt yn cynnwys newidiadau mewn hwyliau (ni chanfuwyd cysylltiad achosol yn yr astudiaethau), a libido is (adroddwyd mewn SPCau fel <1/100).  Nid oes tystiolaeth i awgrymu ei fod yn arwain at ennill pwysau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau