Opsiynau rheoli parhad
Llawdriniaeth ar arwyneb y croen
Mae hyn yn cynnwys eillio, ciwretio, ac electroserio. Triniaethau cyflym yw’r rhain lle bydd angen anesthetig lleol ond lle na fydd angen pwythau. Mae’r llawdriniaethau hyn yn addas ar gyfer BCC aunodylaidd neu arwynebol bach sydd wedi’u diffinio’n glir ac sydd ar y bongorff neu’r breichiau neu goesau. Gadewir y clwyfau i wella drwy wella eilaidd. Wedyn rhoddir dresin llaith a bydd hynny’n arwain yn aml at ei wella o fewn ychydig wythnosau. Gall ansawdd y graith fod yn amrywiol.
Cryotherapi
Mae cryotherapi yn driniaeth arwynebol lle defnyddir nitrogen hylifol i rewi. Mae’n addas i drin BCC auarwynebol sy’n effeithio ar y bongorff a’r breichiau a choesau. Mae techneg rhewi a dadmer dwbl yn cael ei argymell. Y canlyniadau cosmetig yw pothell sy’n ffurfio crawen ac yn gwella o fewn nifer o wythnosau gan adael man gwyn parhaol ar ei hôl yn aml.
Therapi ffotodynamig
Mae therapi ffotodynamig yn dechneg sy’n trin BCC â chemegyn ffotosensiteiddio ac wedyn yn eu rhoi mewn golau rai oriau yn ddiweddarach. Ymysg y ffotosensiteiddwyr argroenol a ddefnyddir y mae eli asid aminolefwlinig ac eli methyl aminolefwlinad. Mae therapi ffotodynamig yn fwy addas i drin BCC arwynebol bach sy’n isel eu risg. Mae’n llai addas ar gyfer trin briwiau ar y croen lle mae risg fawr y byddant yn ailddigwydd. Ar ôl y driniaeth gyntaf, ceir adwaith llidiol sy’n para 3-4 diwrnod. Ailadroddir y driniaeth wedyn ymhen saith diwrnod. Mae’n cael ei ffafrio oherwydd ei ganlyniadau cosmetig rhagorol.
Eli Imiquimod
Mae’r eli argroenol hwn yn addas i drin BCC arwynebol sydd â diamedr o lai na 2cm. Yr argymhelliad yw ei roi 3-5 gwaith yr wythnos am 6-16 wythnos. Ceir llid newidiol o ganlyniad sy’n cyrraedd ei anterth fel arfer ymhen 3 wythnos. Ceir creithiau bach iawn yn aml.
Eli Fflworowracil
Eli argroenol sytotocsig yw hwn a ddefnyddir i drin BCC arwynebol bach. Mae angen ei roi ddwywaith y dydd dros gyfnod o 6-12 wythnos. Yn aml ceir adweithiau llidiol a chyfraddau ailddigwydd uchel.
Radiotherapi
Gellir defnyddio radiotherapi i drin BCC cynradd neu fel triniaeth atodol os yw’r ymylon yn anghyflawn. Nid hwn fydd y dewis cyntaf ar gyfer triniaeth gan mwyaf ac mae’n cael ei gadw wrth gefn rhag ofn na fydd llawdriniaeth yn addas. Tueddir i’w osgoi ar gyfer cleifion iau, yn enwedig os yw eu BCC yn gysylltiedig â rhagdueddiad genetig. Mae risg yn codi o ran radiodermatitis, ailddigwydd yn hwyr mewn oes a thiwmorau newydd. Gall achosi creithiau hefyd. (3)