Atal
Datganiad EWMA 5.5. d: Mae rhaglenni gofal croen dyddiol yn hyrwyddo iechyd coesau ac yn lleihau’r risg o VLU.
Datganiad EWMA 5.5.c: Dylai'r claf ystyried ailosod hosanwaith cywasgu bob 6-12 mis / fesul argymhelliad y gwneuthurwr
Ar ôl i wlser ar y goes wella, bydd yn ailymddangos heb driniaeth barhaus. Dylid ystyried hosanwaith cywasgu fel gofal lliniarol a dyma’r brif ffordd o hyd o atal wlseriad gwythiennol mynych ar y goes. Bydd y claf angen hosanwaith cywasgu gradd meddygol gydol oes sydd yn darparu rhwng 18-40mmHg er mwyn lleihau effeithiau hirdymor clefydau gwythiennol. Dylai HCP sydd wedi ei hyfforddi’n addas asesu hynny. Hefyd, mae addysg yn allweddol o ran trin VLUau yn yr hirdymor ac mae hynny yn cynnwys buddiannau ymarfer corff er mwyn gwella pwmp cyhyr croth y goes, gofal croen dyddiol, codi’r goes pan yn eistedd a monitro blynyddol gan yr HCP.
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.