Diagnosis gwahanol

Fel arfer canfyddir wlserau rhedwelïol ar fysedd traed, traed, rhan ochrog neu ran bretibiaidd rhan isaf y goes.  Fel arfer mae’r briw wedi ei wthio allan ac wedi ei ddiffinio’n amlwg. Gall fod yn boenus iawn, yn fychan a dwfn gyda lefelau archwys isel neu’n sych a hefyd gall madredd fod yn bresennol. Fel arfer mae yna guriad gwan yn y droed neu ddim o gwbl. Gall y croen o'i amgylch fod yn sych ac yn sgleiniog. Mae’r rhain yn cyfateb i 10% o wlserau.

Wlserau troed diabetig.

Mae'r rhain i'w cael fel rheol ar fannau sy'n dwyn pwysau, fel gwadnau traed ac ymylon y traed, yn aml ar y pen metatarsal cyntaf neu'r pumed. Efallai na fydd yr wlser yn boenus os collir synhwyrau o ganlyniad i niwrotherapi. Bydd dyfnder yr wlser yn amrywio, er y gall gynnwys gewynnau neu esgyrn, ac efallai bod sinws yn bresennol. Bydd y droed niwropathig yn gynnes i’w chyffwrdd, ac yn aml mae caledion yn bresennol. Gall y droed niwroischaemig fod yn oer i’w chyffwrdd ac ni fydd unrhyw guriadau pwls.

Achoseg cymysg. Mae hwn yn wlser gwythiennol ar y goes gyda chlefyd rhedwelïol yn y goes. Bydd gan y claf ABPI isel a bydd yn arddangos cymysgedd o arwyddion a symptomau. Mae’r rhain yn cyfateb i 20% o holl wlserau coesau.

Fasgwlitis. Mae hwn yn gyflwr awto-imiwn sydd yn achosi i bibellau gwaed iach chwyddo a chulhau, a gall cyffuriau ei achosi hefyd. Mae Lupus Erythematosus, syndrom Sjogren’s, arteritis nodaidd neu Granulomatosis Wegener yn enghreifftiau. 

Achosion eraill. Mae clefydau Metabolig, Haematolegol, Neoplasia, Heintus, clefydau croen wlseraidd, clefydau genetaidd hefyd yn gallu achosi wlseriad ar y goes yn ogystal â chyffuriau.

Darllen ychwanegol:

Fasgwlitis.

Wlseriad gwythiennol ar y goes

Wlserau Coes 

Crynodeb gwybodaeth glinigol NICE ar friwiau coes gwythiennol

Briwiau traed Diabetig

Cellulitus

Ecsema gwythiennol

 

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau