Beth i’w wneud pan nad yw wlseriad gwythiennol ar y goes yn gwella

  • Os nad oes gwelliant ym maint iachau clwyfau / briwiau mewn 4 wythnos, ailedrych ar yr asesiad i sicrhau bod diagnosis o VLU yn gywir.
  • Cymerwch fiopsi os amheuir achoseg (hunanimiwn) arall neu falaenedd, neu os nad yw’n gwella ar ôl 4-6 wythnos.
  • A yw’r croen amgylchynol o ansawdd rhesymol - a driniwyd unrhyw eczema gwythiennol yn ddigonol?
  • A yw’r driniaeth yn gywir? Os nad ydych yn sicr, atgyweiriwch at arbenigwr yn arbennig os nad ydych yn sicr o’r achoseg neu ynghylch wlserau coes anarferol nad ydynt yn  gwella. Mae’n bwysig bod yr HCP yn gallu cydnabod pan fo rheoli unigolyn y tu hwnt i’w gymhwysedd, a’u bod yn atgyfeirio at wasanaeth arbenigol (e.e. gwasanaeth VLU arbenigol, hyfywedd meinwe, gwasanaeth fasgwlar, dermatoleg, diabetes neu gardioleg).
  •  

    Datganiad EWMA 5.4. b: Argymhellir clinigau wlserau coes arbenigol fel y gwasanaeth gorau ar gyfer trin VLU mewn gofal sylfaenol

  • Mae yna enghreifftiau rhagorol o glinigau iachâd clwyfau dan arweiniad Nyrs Ymarfer yng Nghwmbrân a Chaerffili a dylid ailadrodd y gwasanaethau hyn mewn meysydd eraill i sicrhau asesiad a rheolaeth friwiau coes gwythiennol yn llwyddiannus, sy'n cynnwys cyfraddau iachâd gwell a gostyngiad yng nghost trin briwiau coes gwythiennol. (Young 2019)
  •  

    Darllen ychwanegol:

  • Young T (2019) Menter i wella effeithiolrwydd iachâd clwyfau o fewn meddygfeydd teulu Wounds UK, 15 (1), 27-33
  •  

    Mae Sefydliad Clwb Coesau Lindsay yn hyrwyddo ac yn cefnogi triniaeth yn y gymuned, hybu iechyd ac addysg i bobl â briwiau  coesau. Gellir gweld cyfeirlyfr o Glybiau Coesau gan gynnwys sawl un yng Nghymru yn https://www.legclub.org/leg-club-directory/search/United-Kingdom

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau