Diffyg gwythiennol cronig

Mae gwythiennau yn rhan isaf y goes wedi eu rhannu yn wythiennau arwynebol a gwythiennau dwfn ac mae’r rhain wedi eu cysylltu gan wythiennau trydyllu. Mae’r gwythiennu dwfn yn bodoli rhwng y grwpiau cyhyrau ac maent yn gyfrifol am gario y rhan fwyaf o’r gwaed sydd yn gadael y goes. Mae falfiau yn y gwythiennau trydyllu arwynebol a’r gwythiennau dwfn, ac mae’r rhain yn sicrhau bod gwaed yn llifo i un cyfeiriad yn unig. Mae diffyg gwythiennol cronig yn digwydd  pan nad yw’r falfiau yn gweithio’n iawn ac yr effeithir ar ddraeniad gwythiennol. Gall y methiant falf hwn ddigwydd o ganlyniad i drawma, gwythiennau faricos neu thrombosis sy'n caniatáu i'r gwaed lifo'n ôl o'r gwythiennau dwfn i'r gwythiennau arwynebol. Gall gordewdra, ffyrdd o fyw eisteddog neu feichiogrwydd amharu ar lif gwythiennol a bydd hynny yn arwain at ôl-bwysau a methiant yn y falfiau o ganlyniad i hynny. Mae’r methiant yn y falfiau yn atal gostyngiad mewn pwysedd gwythiennol sydd fel arfer yn digwydd yn ystod ymarfer corff sydd yn arwain at bwysedd gwaed uchel.

Mae gorbwysedd gwythiennol cronig yn achosi annormaleddau yn y capilarïau yn y goes sy'n eu gwneud yn fwy athraidd.  Mae hynny yn galluogi i hylifau, proteinau a chelloedd gwaed i lifo i’r meinwe. Hefyd gall pwysedd gwaed uchel gwythiennol fod yn gysylltiedig ag ymateb llidus cynyddol, newidiadau i strwythur y gwaedlestriad micro a llai o ocsigeniad croen a meinwe. Mae wlseriad gwythiennol yn digwydd pan effeithir ar y falfiau ac mae pwmp cyhyr croth y goes yn ddiffygiol o ran hwyluso llif gwaed i’r galon. Os na fydd hyn yn cael ei reoli, mae pwysau gwaed uchel gwythiennol yn cynyddu yn rhan isaf y goes o ganlyniad i  statis gwythiennol parhaus sydd yn gwaethygu.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau