‘Adweithiau fasgwlaidd’ mewnarennol
Ffisioleg a ffarmacoleg
Mae’r ‘pwysedd cychwynnol’ yn cael ei bennu gan lif y gwaed i’r arennau, ac yn bwysicaf oll i’r rhydwelïynnau glomerwlaidd afferol, fel y trafodwyd hynny yn yr adran flaenorol. Yna bydd awtoreoleiddio glomerwlaidd yn ddylanwadol er mwyn sicrhau bod y pwysedd yn y twffyn glomerwlaidd o fewn yr ystod optimol fel y gall hidlo ddigwydd.
Gellir cynnal y llif i’r ‘twffyn’ glomerwlaidd (a phwysedd yn y twffyn o ganlyniad i hynny) yn wyneb gostyngiad yn llif y gwaed i’r arennau drwy ymagor y rhydwelïynnau glomerwlaidd afferol. Bydd cynnydd yn y gwrthiant ymadawol hefyd yn cynnal pwysedd darlifo yn y twffyn glomerwlaidd, yn wyneb gostyngiad mewn llif. Mae darwasgiad rhedwelïol afferol yma yn cael ei gyfryngu gan gynhyrchu angiotensin II. Gellir meddwl am hynny fel ‘effaith pibell ddŵr’: Gellir cynyddu pwysedd yn y bibell drwy agor y tap, neu gau pen y bibell yn rhannol.
Yn gyffredinol mae’r adweithiau hynny yn gweithredu er mwyn cynnal y pwysedd darlifo yn y glomerwlws ar lefel optimol, gan ddigolledu am newidiadau yn y llif gwaed arennol. Felly, mewn aren arferol, gall newidiadau i statws swm mewnfasgwlaidd effeithio ar y llif gwaed arennol, ond heb effeithio dim ar bwysedd darlifo glomerwlaidd oherwydd yr adweithiau yma. Mae awtoreoleiddio hefyd yn digwydd yn y cylchrediadau serebral a choronaidd; meinwe eraill sydd yn benodol ddibynnol ar gynnal darlifiad.
Gellir crynhoi hyn fel a ganlyn:
- Mae Cyflymder Hidlo Glomerwlaidd yn cael ei bennu gan bwysedd yn y capilarïau glomerwlaidd (Pwysedd Darlifo Glomerwlaidd)
- Mae Pwysedd Darlifo Glomerwlaidd yn cael ei bennu gan lif y gwaed i’r glomerwlws a’r gwrthiant ymadawol i’r llif (Gwrthiant Rhedwelïol Efferol).
- mae llif y gwaed i’r glomerwlws yn cael ei bennu gan lif gwaed arennol cyffredinol a’r ansawdd yn y rhydwelïynnau afferol sydd yn cyflenwi’r glomerwlws.
- Mae’r gwrthiant ymadawol yn cael ei bennu gan yr ansawdd yn y rhydwelïynnau efferol sydd yn draenio’r glomerwlws.
- Mae ymagoriad rhedwelïol afferol (cynyddu llif) yn cael ei gyfryngu gan prostaglandin E2.
- Mae darwasgiad rhedwelïol efferol (cynyddu pwysedd) yn cael ei gyfryngu gan angiotensin II.