Pathoffisioleg AKI

 

Gellir meddwl am ffwythiant yr arennau fel cyflymder symudiad toddion ar draws waliau arbenigol y capilarïau yn y glomerwlws.  Mewn glomerwlws arferol, mae’r pwysedd yn y capilarïau glomerwlaidd yn pennu cyflymder hidlo (Cyflymder hidlo glomerwlaidd: GFR).  

Mae’r rhan fwyaf o achosion o AKI yn deillio o niwed fasgwlar i’r arennau sydd yn effeithio ar bwysedd darlifo.  Mae deall y pathoffisioleg sydd yn tanategu’r achosion yma yn arbennig o fuddiol oherwydd mae’n esbonion pam fod nifer o gleifion yn wynebu risg o AKI.  Mae’r ddealltwriaeth yma hefyd yn rhoi sail resymegol i ymyriadau er mwyn atal cynnydd a hwyluso adferiad.  Erbyn hyn nid yw’r pethau ddylid ac na ddylid eu gwneud mewn perthynas ag AKI yn rhestrau diystyr, ond maent yn benderfyniadau rhesymegol o ran diagnosteg a rheoli.

Pwysigrwydd cyflenwad gwaed i ffwythiant yr arennau
Yn hanesyddol ystyriwyd bod ATN ac ARF yn deillio o niwed cyn-arennol (h.y. fasgwlaidd), clefyd arennol intrinsig (yn cynnwys glomerwloneffritis, neffritis mewnstitiol a niwed gwenwynig) neu rwystr.  Mae astudiaethau mewn gofal eilaidd wedi sefydlu mai niwed fasgwlaidd yw achos mwyaf cyffredin ATN/ARF, a bod llif gwaed cyffredinol i’r arennau ac 'adweithiau’ fasgwlaidd mewnarennol yn bwysig.  Mae’r ffactorau haemoddeinamig yma yn pennu’r pwysedd yn y pibellau gwaed sydd yn ffurfio’r ‘twffyn glomerwlaidd’, sydd yn ei dro yn pennu lefel ffwythiant yr arennau: yn union fel sy’n digwydd mewn unrhyw system hidlo.  Bydd newidiadau yn y pwysedd mewnglomerwlaidd yma bob amser yn cael ei adlewyrchu yng nghyflymder yr hidlo, ac felly yn ffwythiant yr arennau.

O ystyried llif gwaed arennol ac adweithiau fasgwlaidd mewnarennol yn eu tro:

  1. Mae’r ffactorau sydd yn pennu llif gwaed arennol cyffredinol yn hunanamlwg: swm mewnfasgwlaidd, allbwn cardiaidd a iechyd y goeden rhedwelïol sydd yn cyflenwi’r arennau.  Yn eu tro, bydd cyflyrau acíwt a chronig fydd yn gysylltiedig â gostyngiad cyffredinol yn llif y gwaed arennol, ac felly allai gadarnhau’r risg o AKI, yn dod yn amlwg.  
  2. Mae’r pwysedd yn y capilarïau glomerwlaidd yn cael ei ’fireinio’ gan adweithiau sydd yn addasu ansawdd y pibellau gwaed sydd yn cyflenwi gwaed i (rhydwelïynnau afferol) ac yn draenio gwaed o’r (rhydwelïynnau efferol) glomerwlws.  Mae’r adweithiau yma yn clustogi’r pwysedd glomerwlaidd rhag newidiadau yn y llif ddaw i mewn er mwyn cynnal y pwysedd darlifo sydd yn gritigol i ffwythiant yr arennau, o fewn yr ystod angenrheidiol.  Gelwir y broses yma yn awtoreoleiddio ac fe drafodir mwy am hynny isod.

Efallai y tybir mai angina neu TIA yr arennau yw nifer o achosion o anaf acíwt i’r arennau, gyda’rr nod o atal hynny rhag datblygu i fod yn MI neu CVA.  Mae’r cyflyrau allai leihau llif gwaed arennol cyffredinol, yn acíwt neu’n gronig, yn hunanamlwg ar y cyfan: hypofolaemia, methiant fentriglaidd chwith ac atherosclerosis  yw’r rhai mwyaf cyffredin.  Mae’n bwysig ychwanegu bod stenosis rhydwelïau arennol yn achos cymharol anfynych, a bod ‘clefyd mân bibellau’ mwy cyffredin, fel y’i gwelir mewn nifer o gleifion sydd â T2DM, yn fwy cyffredin.  Bydd y glomerwlws yn aml yn gallu amddiffyn ei hun rhag niwed o’r fath, ond os effeithir ar ffwythiant yr adweithiau hunanreoleiddio, bydd effaith unrhyw ostyngiad mewn llif gwaed arennol yn llawer mwy sylweddol.

Pwynt Dysgu
Efallai y tybir bod anaf acíwt i’r arennau, mewn nifer o achosion yn debyg i angina neu TIA sydd yn effeithio ar yr arennau. Mae ymyrraeth gynnar yn ei atal rhag datblygu i fod yn anaf mwy difrifol i’r arennau.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau