Rheoli AKI

Mae adnabod y claf sydd yn wynebu risg, sydd yn annatod yn cynnwys asesu cydafiacheddau, yn tanategu’r gofal gorau mewn perthynas ag AKI.  Yna mae yna bedair colofn sydd yn gysylltiedig â’i reoli:

  • Diystyru clefyd a rhwystr arennol intristig
  • Adnabod a thrin y clefyd sydd yn ei achosi (sepsis yn amlach na phridio)
  • Asesu a chywiro statws swm
  • Stopio meddyginiaethau allai waethygu AKI (ACEI/ARB, atalyddion NSAID/COX-2 neu diwretig dolen yn amlach na pheidio) neu sydd yn cronni i lefelau gwenwynig mewn AKI (metfformin yn bwysicach na dim).  Hefyd dylid stopio diwretigion prinhau potasiwm, o ystyried y risg o hypercalaemia.

Dylid trin hyd yn oed salwch ‘ysgafn’ yn y cleifion yma sydd yn wynebu risg o ddifri.  Os caiff ei adnabod, gall rheoli cynnar gynnwys trin haint tanategol a rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaethau megis ACEI/ARB dros dro.  Fel hyn gellir rhwystro llawer o AKI sylweddol.  

Amlygodd astudiaeth NCEPOD 2009 i AKI (3) mai diffygion o ran asesu cydafiachedd, asesu statws hylif ac asesu meddyginiaethau oedd yn cyfranogi fwyaf at ofal gwael.  

Asesu cydafiachedd

Bydd cydafiachedd yn cael ei asesu fel rhan o’r broses o adnabod y claf sydd yn wynebu risg.  Mewn perthynas ag AKI yn benodol, bydd unrhyw gyflwr sydd yn lleihau darlifiad glomerwlaidd, naill ai oherwydd llai o allbwn cardiaidd, hypofolaemia neu glefyd fasgwlaidd, yn cadarnhau’r risg o AKI.  Diabetes math 2 a methiant fentriglaidd chwith yw’r cyflyrau mwyaf cyffredin a welir mewn gofal sylfaenol.

Pen pigiad inswlin a glucometer

Trin sepsis mewn cleifion sydd yn wynebu risg o AKI

Nid rhoi gwybodaeth am drin cyflyrau tanategol yw ffocws y ddogfen hon, ond mae’n bwysig amlygu sepsis fel sbardun AKI yn aml.  Nid oes raid i haint effeithio ar y llwybr wrinadd, oherwydd mae niwmonia ‘nad yw’n ddifrifol’ er enghraifft yn cael ei nodi’n glir fel sbardun (34).  Mae’n bwysig pwysleisio y gall salwch acíwt fyddai’n cael ei ystyried fel salwch ysgafn mewn claf nad yw’n wynebu risg o AKI, fod yn dal yn ddigonol i ysgogi dirywiad acíwt i ffwythiant yr arennau mewn claf sydd yn wynebu risg.

Mae gwybodaeth fanwl ar ragnodi gwrthfiotigau mewn perthynas â methiant arennol ar gael yn BNF (55).  Bydd canllawiau lleol hefyd yn dylanwadu ar ragnodi, ond dylid ystyried rhai egwyddorion cyffredinol sydd yn berthnasol i gleifion ag AKI.  Ni fydd gwrthfiotigau gwythiennol a ddefnyddir mewn gofal eilaidd (e.e. aminoglycosidau) yn cael eu hystyried yma.  O blith y nifer fawr o wrthfiotigau sydd ar gael i’w defnyddio mewn gofal sylfaenol, dim ond trimethoprim, tetracyclinau a nitroffwrantoin sydd ag effeithiau sydd yn achosi pryder penodol mewn perthynas ag AKI.  

Mae BNF yn argymell osgoi nitroffwrantoin os bydd eGFR yn <60ml/min/1.73m2 ac y dylid osgoi tatracyclinau (ac eithrio docsycyclin a minocyclin) mewn achosion o nam arennol.  Mae trimethoprim yn wrthfiotig defnyddiol, yn benodol oherwydd nifer isel yr achosion o ddolur rhydd C.diffisil.  Er ei fod yn ddiogel yn y rhan fwyaf o gleifion mewn dos lawn i lawr i eGFR o  30ml/min/1.73m2, gall y cynnydd anochel mewn creatinin serwm ar ôl ei ragnodi achosi dryswch diagnostig (48) a gellir gweld hyperfalaemia sylweddol mewn hyd at 6% o gleifion.  Er hynny, gellir ei ddefnyddio yn ddiogel mewn cleifion sydd a mân namau ar ffwythiant yr arennau neu sy’n wynebu risg o AKI.  Ond, dylid ei osgoi mewn cleifion sydd ag AKI.  Mae trimethoprim hefyd, mewn achosion prin, yn gysylltiedig â neffritis mewnsitiol.  Mae ystyriaethau cyffelyb yn gymwys i co-trimocsasol.

Yn gyffredinol mae penisilinau a ceffalosporinau yn ddiogel ar gyfer AKI.  Er ei fod yn cael ei glirio gan yr arennau, mae’r ffenestr therapiwtig yn un fawr, ac oherwydd hynny yn anaml y mae’r crynodiadau serwm uwch mewn cleifion â nam arennol yn glinigol arwyddocaol.  Efallai y bydd angen lleihau’r dos o gyffuriau unigol.  Mae trimethoprim hefyd, mewn achosion prin, yn gysylltiedig â neffritis mewnsitiol.

Yn gyffredinol mae Cwinolonau yn ddiogel ond efallai y bydd angen lleihau’r dos os bydd GFR yn <60ml/min/1.73m2.  

Yn gyffredinol mae macrolidau yn ddiogel er bod erythromycin wedi bod yn gysylltiedig â cholli clyw y gellir ei adfer mewn cleifion â nam difrifol ar yr arennau.   Gellir defnyddio dos llawn o Asithromycin ar gyfer pob lefel o ffwythiant yr arennau.

Asesu statws hylif

Gall asesu statws hylif yn glinigol fod yn anodd.  Yn bwysicach na dim mae’n bwysig adnabod pan fo claf sydd yn wynebu risg yn wynebu risg hefyd o ddatblygu hypofolaemia.  O ystyried sensitifrwydd gwael asesiadau clinigol ar gyfer hypofolameia, dylai meddygon gael trothwy isel ar gyfer mesur crynodiadau creatinin serwm.  Hefyd, os bydd gan glaf sydd yn wynebu risg arwyddion o hypofolaemia, mae’n debygol iawn y byddant wedi datblygu AKI ac mae’n rhaid mesur crynodiad creatinin serwm ac adolygu’n gynnar.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau