Epidelioleg AKI

Mae amcangyfrifon ynghylch mynychder AKI wedi esblygu ynghyd â chydnabyddiaeth i bwysigrwydd hyd yn oed mân newidiadau mewn ffwythiant arennau.  Roedd amcangyfrifon cynnar yn is oherwydd eu bod ond yn canolbwyntio ar ARF difrifol.  Gan ddefnyddio diffiniad o grynodiad creatinin serwm >500µmol/l, nododd Feest et al fynychder o 140 achos am bob miliwn o gyfanswm y boblogaeth bob blwyddyn (172 am bob miliwn yn y boblogaeth o oedolion), a bod 72% o’r cleifion dros 72 oed (6).  Gan ddefnyddio diffiniad cyffelyb, nododd Metcalfe et al fynychder o 203 o gleifion o bob miliwn o’r boblogaeth bob blwyddyn (pmp/yr) oedd yn derbyn therapi amnewid arennol ar gyfer naill ai ARF neu fethiant arennol acíwt-ar-gronig (7).

Mae diffiniad ‘newydd’ o AKI yn cynnwys anhwylderau llawer llai ar ffwythiant yr arennau.  Yn unol â hynny, gan ddefnyddio trothwy creatinin serwm is o =300µmul/l neu wrea =40mmol/l, nododd Stevens et al fynychder o 486 pmp/yr drwy adolygu canlyniadau biogemegol oedd ar gael mewn labordai yn Ysbytai Dwyrain Caint (8).  Mae hynny yn debyg i’r mynychder o 620 pmp/yr a nodwyd yn Grampian gan ddefnyddio’r un terfyn creatinin (9), a chanfu’r astudiaeth yma fynychder ARF datblygedig (cofnod cyntaf o greatinin =500µmol/l) o 102 pmp/blwyddyn.

Merch yn dal llaw dynes oedrannus

Yn olaf, gan gydnabod mai dim ond ychydig o astudiaethau seiliedig ar boblogaeth oedd wedi cael cynnal, ac nad yw’r trothwyon yma ar gyfer diagnosio ‘ARF’ yn alinio â diffiniadau presennol o AKI, nododd Ali et al (10) gleifion >15 oed yn ardal Grampian yn Yr Alban gyda creatinin serwm ‘mynegai’ o =150µmol/l (dynion) neu =130µmol/l (merched) a newidiodd wedyn i GFR er mwyn cadarnhau AKI.  Nododd y dull yma fynychder AKI o 1811 pmp/yr gyda 336 o achosion ychwanegol pmp/yr o anafiadau arennau acíwt-ar-gronig.  Nododd adolygiad o gyfnodau annewisol mewn ysbytai o bractisau  CCG Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf ar gyfer Tachwedd 2012 i Hydref 2013 662 o gleifion (776 o gyfnodau cleifion) gyda diagnosis rhyddhau o AKI o unrhyw fath ar sail cod ICD-10 o N17 (methiant arennol acíwt: 92%), N19 (Methiant arennol amhenodol: 7%) neu R34 (Anwria ac oligwria: 0.5%).  Mae gan BaNES CCG boblogaeth cleifion o tua 200,000, sydd yn rhoi mynychder AKI sydd yn debyg i amcangyfrif Ali et al (10).  Mae hynny yn golygu un claf o bob practis bob mis yn cael ei dderbyn i ysbyty.  Gan gadarnhau nad yw AKI ‘erbyn hyn’ yn gyfyngedig i feddygon gofal trydyddol, mewn dadansoddiad cohort ôl-weithredol o gleifion mewn ysbytai yn Efrog Newydd, canfu Der Mesropian et al  bod mynychder AKI a gafwyd yn y gymuned yn 3.5 gwaith yn fwy nag AKI a gafwyd mewn ysbyty (11).

Pwynt Dysgu
Mae Anaf Acíwt i Arennau yn gyffredin mewn gofal sylfaenol. Bydd nifer o achosion yn gwella, yn aml heb i neb sylwi arnynt, heb unrhyw fath o ymyrraeth benodol. Bydd gwell deilliannau yn cael eu cyflawni drwy adnabod yn well yr achosion sydd angen ymyrraeth, drwy well dealltwriaeth o AKI a mwy o ymwybyddiaeth o AKI.

Dull gwahanol o ddogfennu maint y broblem y mae AKI yn ei achosi mewn gofal sylfaenol y ystyried nifer y cleifion gyda diagnosis o AKI a roddwyd mewn gofal eilaidd, a oedd yn dioddef â nam ar ffwythiant yr arennau pan y’u derbyniwyd.  Yn astudiaeth NCEPOD 2009 (Acute kidney injury: adding insult to injury(3)) roedd gan 88% o’r cleifion nam ar ffwythiant yr arennau pan y’u derbyniwyd.  Mewn 46% o’r achosion yma roedd hwn yn ddiagnosis newydd, ac roedd gan 16% glefyd cronig ar yr arennau (CKD) a 38% glefyd yr arennau acíwt-ar-gronig.  Yn yr un modd dangosodd Selby et al (2) bod AKI a gafwyd yn y gymuned yn cyfateb i 60.9% o’r achosion a astudiwyd a bod marwoldeb o 20.6% yn perthyn i’r grŵp yma.  Yn yr astudiaeth yma roedd adferiad yn gysylltiedig â cham AKI (Cam 1 80%, Cam 2 69.9% a Cham 3 58.8%) ac roedd marwoldeb yn cynyddu’n arwyddocaol ar bob cam o AKI (Cam 1 16.3%, Cam 2 33.00%, Cam 3 36.10%).  

Mae’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn gwasanaethu poblogaeth o tua tair miliwn, ac mae’r BIau yn amrywio o ran maint o ychydig llai na 140,000 o gleifion cofrestredig i tua 640,000, gyda phoblogaeth gymedrig o tua 475,000.  Mae meintiau rhestrau yn amrywio o 700-4000 am bob meddyg teulu cywerth ag amser llawn, ac mae 80% o feintiau rhestrau rhwng 1200 a 2000.  Mae Swyddfa Economeg Iechyd wedi cofnodi mai maint restr cyfartalog meddygon teulu yng Nghymru yn 2012 oedd 1575 (12).  Felly, ar sail yr amcangyfrifon ynghylch mynychder AKI sydd yn defnyddio terfyn creatinin serwm sydd yn berthnasol i ddiffiniadau presennol, byddai’r meddyg teulu nodweddiadol yng Nghymru yn anfon 3 claf y flwyddyn gyda AKI i ysbyty.  Mae’n bwysig nodi bod hyn mae’n debyg yn tanamcanu’r broblem mewn gofal sylfaenol oherwydd bod astudiaethau yn cael eu drysu gan y ffaith bod nifer o gleifion sydd yn mynychu meddygfeydd sydd yn wynebu risg o AKI heb gael gwiriad creatinin sermwn, fel y nododd Khan et al (9).

Amcangyfrifwyd y gellir creu gostyngiad bychan (5%) ym mynychder AKI, ac y byddai Ysbyty Gyffredinol Caerlŷr, sydd yn gwasanaethu poblogaeth o tua 330,000 yn arbed £200,000 y mis (13).  O ystyried bod poblogaeth cyfartalog Byrddau Iechyd Cymru un a hanner gwaith yn fwy na hynny, mae’r arbedion posibl o ganlyniad i well rheolaeth ar AKI yng Nghymru yn arwyddocaol.

Mae’r data yma yn benodol yn pwysleisio pwysigrwydd adnabod a thrin AKI mewn gofal sylfaenol er mwyn gallu lleihau effaith AKI.  Pwysleisiodd Ftouh et al (14) gyngor NICE ym mis Awst 2013 (5), gan gydnabod bod gan feddygon teulu rôl allweddol o ran taclo’r 10,000+ o farwolaethau y gellid eu hatal bob blwyddyn.

  • Mae mynychder AKI yn amrywio yn ddibynnol ar y paramedrau a ddefnyddir i’w ddiffinio.
  • Mae defnyddio lefelau diagnostig priodol o eGFR yn awgrymu mynychder AKI o un claf ar gyfer pob practis meddyg teulu bob mis.
  • Gall AKI fod yn hyd at 3.5 mwy mynych yn y gymuned nag mewn ysbytai.
  • Mae gan feddygon teulu rôl allweddol o ran taclo’r 10,000+ o farwolaethau y gellid eu hatal bob blwyddyn.

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau