Canllawiau atgyfeirio a chrynodeb

Canllawiau atgyfeirio

Os diagnosir AKI gall fod yn bwysig penderfynu  a yw rheoli mewn gofal sylfaenol yn briodol, ac os bydd angen atgyfeirio, at ba dîm.

Mae NICE yn argymell defnyddio dosbarthiad KDIGO o AKICR2:

  • AKI 1: Cynnydd mewn creatinin o =26.5 µmol/l NEU 1.5-1.9 gwaith gymaint â’r waelodlin
  • AKI 2: Cynnydd mewn creatinin o 2.0-2.9 gwaith gymaint â’r waelodlin
  • AKI 3: Cynnydd mewn creatinin o 3 gwaith gymaint âr waelodlin neu fwy NEU gynnydd mewn creatinin o =353µmol/l.  

Mae hyn yn ganllaw ar gyfer atgyfeirio oherwydd gellir rheoli cleifion ag AKI 1 yn ddiogel yn y gymuned yn aml, ond bydd angen dilyniant agos ac ailadrodd  prawf creatinin yn gynnar a monitro potasiwm.  Mae derbyn i feddygaeth gyffredinol yn briodol i nifer o gleifion ag AKI 2 oherwydd mae’n debyg y bydd angen amnewid hylif mewnwythiennol, ac mae’n debyg y bydd angen i’r claf gael triniaeth i’r achos tanategol fel claf mewnol.   Hefyd, mae derbyn i ysbyty yn hwyluso monitro ffwythiant arennol yn fanwl.  Ond, oherwydd bod y broses reoli yn golygu bod angen trin y clefyd tanategol yn bennaf, a dim mewnbwn neffroleg arbenigol, yn amlach na pheidio ni fydd angen atgyfeirio’n uniongyrchol i’r uned arennol.  

Yn olaf, ac yn unol â chanllawiau KDIGO ar AKI, mae Canllawiau Clinigol AKI NICE (CG169) yn awgrymu trafod rheoli KI gyda neffrolegydd neu neffrolegydd pediatrig cyn gynted â phosibl ac o fewn 24 awr o ganfod yr achos pan fo un neu ragor o’r canlynol yn bresennol:

  • Diagnosis posibl allai fod angen triniaeth arbenigol (er enghraifft fasgwlitis, glomerwloneffritis, neffritis twbwlofewnsitiol neu myeloma)
  • AKI heb unrhyw achos amlwg
  • Ymateb annigonol i driniaeth
  • Cymhlethdodau cysylltiedig ag AKI
  • AKI Cam 3
  • Trawsblaniad arennol
  • CKD cam 4 neu 5

Mae glomerwloneffritis, fasgwlitis, neffritis mewnsitiol a pwrpwra thrombocytopenig thrombotig/syndrom wraemig haemolytig (TTP/HUS) yn ddiagnosisau ‘na ddylid eu colli’.  Bydd y diagnosisau yma yn cael eu hawgrymu gan yr hanes a chanfyddiadau’r archwiliad a byddant bob amser yn gysylltiedig â phrawf dŵr annormal.  Felly, mae prawf torchbren o’r dŵr yn fandadol mewn cleifion allai fod ag AKI o ganlyniad i glefyd arennol intrinsig, a bydd canfod haematwria a/neu  proteinwria yn golygu y bydd angen trafodaeth gyda neffrolegydd o fewn 24 awr.  

Mewn cleifion yr amheuir mai rwystr yn allanfa’r bledren yw prif achos AKI, efallai y bydd atgyfeirio’n uniongyrchol at wroleg yn briodol, yn ddibynnol ar difrifoldeb yr AKI.

Rheolau dyddiau salwch

Awgrymwyd bod defnyddio ‘Rheolau dyddiau salwch’ ar gyfer cleifion sydd yn wynebu risg o AKI yn greiddiol i leihau mynychder AKI (58, 87).  Agwedd bwysicaf y rheolau hyn yw hysbysu cleifion sydd yn wynebu risg am yr angen i fynd i’r feddygfa os nad ydynt yn teimlo’n dda.  

elderly lady with breathing tube in hospital bed

Crynodeb
Efallai mai’r neges bwysicaf yw ‘Meddwl am yr Arennau’ fel yr anogwyd yn ddiweddar yn achos diabetes.  Mae hynny yn golygu bod angen adnabod y cleifion sydd yn wynebu risg a phennu trothwy isel ar gyfer mesur creatinin serwm a stopio meddyginiaethau allai waethygu AKI.  Hefyd mae’n bwysig bod y claf yn cael ei addysgu am risgiau AKI ac y dywedir wrthynt y dylent fynd i’r feddygfa os bydd unrhyw sbardunau AKI cyfarwydd yn digwydd.
Rhestr wirio mewn ymgynghoriad

  • Adnabod y claf sydd yn wynebu risg
  • Adnabod sbardunau clinigol AKI
  • Bod yn ymwybodol o hanes sydd yn awgrymu clefyd neu rwystr arennol intrinsig
  • Os amheuir AKI:
    • Asesu am a chywiro hypofolaemia (efallai bydd angen derbyn i ysbyty)
    • Diystyru haint
    • Nodi a stopio meddyginiaethau neffrowenwynig
    • Nodi a stopi meddyginiaethau allai gronni mewn AKI
    • Gwirio creatinin plasma/serwm
    • Gwneud prawf dŵr
  • Atgyfeirio pan fo’n briodol

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau