Rhestr o Dermau
Gall defnyddwyr gyfeirio at enw generig neu enw brand y Cyffuriau sy'n Gwella Perfformiad a Delwedd. Ond, mae rhywfaint o iaith gyffredin yn cael ei defnyddio hefyd:
Anabolics/Gêr/Roids/Jiws/Stac – enwau eraill ar Gyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd, steroidau anabolig fel arfer
Cylch / ‘Cycling’ / Stacio / Pyramid / Rhedeg - fel arfer, mae Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd yn dueddol o gael eu defnyddio mewn “cylch”. Cymryd dos llawer uwch na’r dos ffarmacolegol am gyfnod penodol o wythnosau cyn cael seibiant o Gyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd. Credir bod hyn yn gallu rhoi “adferiad” i'r echelin bitẅidol hypothalamig (HPA). (Gweler PCT yn y bennod nesaf 'Ffurfiau a Mathau’).
‘Blast’ a ‘Cruise’ – Cylch cymryd dos uchel ac wedyn cymryd dos is, mwy ffisiolegol o destosteron yn y cyfnod “ddim yn y cylch” er mwyn lliniaru’r sgil effeithiau wrth beidio â defnyddio, fel hwyliau isel, colli libido, trafferthion codiad (ED) a dirywiad mewn perfformiad athletaidd. Mae hyn, i bob pwrpas, yn golygu peidio cael cyfnod o seibiant rhag cymryd testosteron sy’n cael ei gynhyrchu y tu allan i’r corff.
Swmpuso – magu pwysau. Màs y cyhyrau, fel arfer.
Swmp/ Swmpuso Glân – magu mas y cyhyrau, heb unrhyw gynnydd mewn braster
Swmp/ Swmpuso Budr – magu pwysau, yn ddelfrydol cyhyrau, ond mae cynnydd mewn braster yn sgil effaith derbyniol
Torri – Y broses o leihau braster y corff, weithiau wrth baratoi ar gyfer cystadleuaeth neu ddigwyddiad penodol. Er mwyn edrych mor denau ag y bo modd.