Adolygiad dilynol
Dylid cynghori menywod i geisio cymorth meddygol ar unrhyw adeg os ydynt yn datblygu symptomau o haint pelfig, poen, gwaedu annormal, misglwyf hwyr (Cu-IUD), llinynnau na ellir eu teimlo neu’n gallu teimlo coesyn yr IUC. I'r menywod sy'n gwaedu’n annisgwyl gyda LNG-IUS, ac sy'n gymwys yn feddygol, gallant roi cynnig ar COC am 3 mis. Argymhellir NSAIDs ar gyfer gwaedu trwm neu boenus yn gysylltiedig â Cu-IUD. Os yw'r llinynnau’n cael eu colli, dylid sicrhau nad yw’r fenyw’n feichiog yn y lle cyntaf, a chynghorir defnyddio rhagofalon ychwanegol. Os yw’r fenyw’n feichiog, dylid trefnu uwchsain ar frys i sicrhau nad yw’n ectopig ac, os yw yn y groth, dylid gwneud trefniadau i dynnu’r coil yn ystod y 12 wythnos gyntaf; dylid cyfeirio achosion o feichiogrwydd ectopig yn uniongyrchol at ofal eilaidd. Os nad yw'r fenyw’n feichiog, ond bod y llinynnau ar goll, dylid gwneud cais am uwchsain i ddod o hyd i’r ddyfais. Os yw o fewn ceudod y groth, gellir gadael y ddyfais lle mae nes bydd hi’n amser ei dynnu/newid. Os yw'r ddyfais wedi rhwygo’r groth, dylid cyfeirio’r fenyw at ofal eilaidd. Os yw'r fenyw’n datblygu PID, dylid rhoi gwrthfiotigau iddi yn unol â’r canllawiau lleol/FSRH cyfredol. Nid oes angen tynnu'r IUC fel mater o drefn mewn menywod â PID ond fe ddylid ei dynnu os nad yw’n ymateb i driniaeth (oddeutu 72 awr).