Cyngor ar sgrin haul
Ni fydd y sgrin haul yn rhoi’r amddiffyniad y mae’n ei addo os na chaiff ei roi ar y croen mewn ffordd briodol.
- Gofalwch eich bod yn rhoi digon o sgrin haul – yn aml bydd pobl yn rhoi llai o lawer na’r angen. Os ydych yn wynebu risg fawr o gael llosg haul, gofalwch eich bod yn taenu’r sgrin haul dros yr holl groen sy’n agored i’r haul. Yn achos oedolyn, mae hyn yn golygu: tua 2 lwyaid de o sgrin haul os ydych yn ei roi ar eich pen, eich breichiau a’ch gwddf yn unig; tua 2 lwyaid fwrdd a hanner os ydych yn ei roi dros eich corff i gyd, er enghraifft, wrth wisgo dillad nofio
- Taenwch y sgrin haul yn rheolaidd, gan gynnwys y cynhyrchion ‘unwaith y diwrnod’ a rhai sy’n atal dŵr. Mae rhai cynhyrchion wedi’u dyfeisio i bara’n hirach ar y croen nag eraill, ond byddwch yn ofalus rhag i’r sgrin haul gael ei rwbio, ei chwysu neu ei olchi i ffwrdd. Mae’n bwysig iawn ei roi eto ar ôl sychu’r corff â thywel. A thrwy ei roi ar y croen yn rheolaidd, byddwch yn llai tebygol o fethu rhannau o’ch corff.
- Defnyddiwch sgrin haul ynghyd â chysgodi a dillad i osgoi cael llosg haul.
- Peidiwch â chael eich temtio i aros yn hirach yn yr haul nag y byddech heb roi sgrin haul.
- Peidiwch â storio sgrin haul mewn lle poeth iawn gan fod gwres mawr yn gallu difetha’r cemegion amddiffynnol sydd ynddi.
- Cofiwch edrych ar ddyddiad dod i ben y sgrin haul. Mae oes silff o 2-3 blynedd gan y rhan fwyaf o fathau o sgrin haul. Mae’r oes silff yn cael ei dangos ar y label gan lun o bot a’r llythyren M a rhif – dyma nifer y misoedd y bydd y sgrin haul yn para ar ôl ei hagor. Gofalwch nad yw’r sgrin haul wedi mynd heibio i’w dyddiad dod i ben.
Nid yw Cancer Research UK yn cymeradwyo brandiau penodol o sgrin haul. Defnyddir yr un dulliau yn yr holl fathau o sgrin haul i bennu pa mor amddiffynnol ydyn nhw. Felly ni ellir argymell brandiau penodol.
Oherwydd hyn, mae’r brand a’r pris yn llai pwysig na phethau fel y sgoriau SPF a sêr, sy’n dangos pa faint o amddiffyniad y maent yn ei roi. (11)