Adroddiad achos

Weithiau gellir defnyddio achos unigol i ddangos eich ymddygiad rhagnodi. Efallai y byddwch yn dewis amlygu achos sydd wedi dangos pwynt dysgu i chi eich hun. Mae templed ar gael yma

Enghraifft
Disgrifiwch yr achos a’r materion ynghylch rhagnodi:

Mae’r claf yn ddyn 69 oed â diabetes ers amser maith (math 2 angen inswlin) PH o MI yn 1990. Mae’n byw gyda’i wraig ac yn gallu chwarae 9 twll o golff fel arfer, erioed wedi ysmygu, BMI 36. Meddyginiaeth cyn Chwefror 2014 – Aspirin 75mg od, Ramipril 10mg od, Furosemide 40mg od, Isosorbide Mononitrate 20mg bd, Orlistat tds, Atorvastatin 20mg od, Insulin glargine 90 uned, Novorapid penfil 29 uned, Metformin 850mg bd, Doxazosin 4mg od. Mae’n enghraifft o bolyfferylliaeth ond mae ei bwysau gwaed yn cael ei reoli’n dda ac mae’n gymharol iach. Ecocardiogram diweddar yn normal.

Chwefror 2014 - yn cyflwyno yn fyw ei wynt a chwydd yn ei ffêr. Canfuwyd cyfradd AF 120 ac arwyddion a symptomau LVF. Rhoddais diagnosis o fethiant AF eilaidd i gyflym a chychwyn atalydd beta i reoli cyfradd a chynyddu ei ddiwretigion, ar y pwynt yma gofynnais hefyd am farn gardiolegol ychwanegol parthed y posibilrwydd o cardiofersiwn.

Pa gamau a gymerwyd gennych a pham?

Chwefror - Mehefin 2014 Adolygwyd y claf yn rheolaidd - AF gyda chyfradd o 80-100, SOB llonydd, trafodaeth parthed warffarin o ystyried oed y claf, MI a Diabetes blaenorol - y claf ar y cychwyn yn ansicr, rhoddwyd taflen ar warffarin mewn AF - maen penderfynu bwrw ymlaen. Defnyddiwyd warffarin yn unol â phrotocol y practis, dim digwyddiadau. Nid oedd yn ymddangos ei fod yn goddef yr atalydd beta, felly yn dilyn trafodaeth gyda’r ymgynghorydd cardioleg ac wrth ddisgwyl am ei apwyntiad gyda chardioleg rwyf wedi dechrau Sotolol.

Mehefin 2014 - mae’n mynd yn breifat i weld cardiolegydd sydd yn trefnu eco, mae hynny yn dangos lvf difrifol gyda segment anterior anghinetig mawr oedd yn gyson â MI newydd, dechreuwyd spironolactone a bumetanide a newidiwyd y sotolol i amiodarone, gwelwyd gwelliant yn ei anadlu.

Pwyntiau dysgu a nodwyd:

Mae’r achos yma yn dangos nifer o bwyntiau:-

  • Adnabyddais yr AF yn gywir
  • Roedd y dewis o driniaethau ar gyfer yr AF yn briodol
  • Defnydd priodol o wrthgeulo - protocol y practis ar gael
  • Methais ag adnabod yr MI - nid yw’r ecg cychwynnol a gymerwyd yn y practis yn dangos newidiadau (ar wahân i AF) a nododd y cardiolegydd cyn yr eco “mae’r eco yn dangos AF”, ar ôl yr eco edrychodd ar yr ecg ac nid yw’n dal yn dangos ischaemia
  • Ar hyn o bryd mae’r claf yma yn cymryd y feddyginiaeth “tystiolaeth orau”

Yn ystod y flwyddyn nesaf byddaf yn adolygu sut y dehonglir ECGau


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau