Cyflwyniad

Mae arosiadau yn yr ysbyty ar gyfer y rhan fwyaf o driniaethau llawfeddygol yn tueddu i fod yn fyr, ac yn aml cyfrifoldeb y meddyg teulu yw darparu gweithgarwch dilynol ar ôl llawdriniaeth, gan gynnwys cyngor ar addasrwydd i weithio. Ehangu mae’r sylfaen dystiolaeth11 sy'n dangos bod gwaith yn gyffredinol dda i iechyd, oherwydd gall fod yn therapiwtig ac felly gall gynorthwyo gwellhad. Fodd bynnag, mae Waddell; Burton4 and Black3 yn nodi bod camsyniadau cyffredin yn dal i fodoli, ac felly bod angen mynd i'r afael â nhw. Dangosir y camsyniadau hyn a'r dadleuon cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n eu chwalu yn Ffigur 2.

Ffigur 2: Camsyniadau traddodiadol cyffredin a gwrthddadleuon cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Camsyniadau traddodiadol cyffredin     Gwrthddadleuon cyfredol yn seiliedig ar dystiolaeth
Gall gwaith fod yn niweidiol ac felly gall rwystro adferiad.  Mae gwaith yn gyffredinol yn dda ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol. Yr hiraf mae rhywun i ffwrdd o'r gwaith, y mwyaf yw'r tebygolrwydd y bydd yn profi salwch ac analluogrwydd.
Mae angen i rywun fod 100% yn ffit i fod yn y gwaith / mae angen i rywun gael ei 'wella' yn llwyr cyn dychwelyd i'r gwaith.

Gall unigolyn brofi symptomau waeth a yw'n gweithio ai peidio. Gall gwaith fod yn ffynhonnell i dynnu ei feddwl oddi ar y salwch a gall feithrin hyder drwy gyflawni a rhyngweithio’n gymdeithasol. Gall y gwaith ei hun fod yn therapiwtig a helpu adferiad. Y risgiau i iechyd o fod allan o waith; yn gyffredinol maen nhw’n gorbwyso'r risgiau o ddychwelyd i'r gwaith. I'r gwrthwyneb, mae manteision dychwelyd i'r gwaith yn gynnar yn gorbwyso'r risgiau o fod i ffwrdd o'r gwaith. Felly nid oes angen i rywun fod 100% yn ffit i fod yn y gwaith. Gwaith yw'r ffurf orau o adsefydlu.

Mae derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag iechyd yn awgrymu bod rhywun yn barhaol yn gwbl analluog i weithio.  Mae llawer o bobl â chyflyrau meddygol difrifol a/neu nam difrifol yn gweithio. Mae nifer hyd yn oed yn fwy allan o waith oherwydd cyflyrau iechyd goddrychol cymedrol o natur seicogymdeithasol yn bennaf. Yn sgil y Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Analluogrwydd i Weithio) 199412, dylai rhywun ofyn "Ydy hi’n rhesymol disgwyl i mi geisio neu fod ar gael i weithio?" ac "Alla i wneud rhywfaint o waith?”

Ffynonellau:

  • 3Black, C. (2008) Working for a Healthier Tomorrow. London: TSO; 
  • 4Waddell, G. And Burton, A. K.(2004) Concepts of Rehabilitation For the Management of Common Health Problems. London: TSO.

Yn draddodiadol, mae’n bosibl bod cyflogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol yn eu dyletswydd gofal i gleifion/gweithwyr wedi annog absenoldeb o'r gwaith er mwyn hybu adferiad. Mae'r dystiolaeth4 bellach yn dangos bod ardystio salwch yn cyfreithloni ac yn atgyfnerthu rôl salwch ac yn hyrwyddo ymddygiad salwch sy'n arwain at analluogrwydd hirdymor. Mae Waddell and Burton4 yn nodi:

“Sick certification is one of the most potent health care interventions for common health problems and, just like any other intervention, it is important to consider the indications and contra-indications, its likely impact, and its potential risks and side-effects. Doctors should always consider carefully whether advice to refrain from work represents the most appropriate clinical management and whether it is in the patient’s best long-term interests”.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau