Ynglŷn â'r adnodd hwn
Cynlluniwyd yr adnodd hwn fel offeryn dysgu ac ymarfer cyfeirio. Defnyddiwyd y prif ffynonellau tystiolaeth i dynnu sylw at y negeseuon lefel uchel sylfaenol. Yn ogystal, mae toreth o adnoddau'n bodoli i gefnogi meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ym maes 'Gwaith ac Iechyd’. Fodd bynnag, gall fod yn anodd gwybod sut i gael gafael arnynt. Nod yr adnodd hwn felly yw amlygu'r prif adnoddau defnyddiol, a’r gobaith yw y bydd hyn yn ysgogi ymchwilio pellach iddynt. Dangosir yr adnoddau hyn yn Ffigur 1.
Ffigur 1: Adnoddau 'Gwaith ac Iechyd' sy'n ymwneud â dychwelyd i'r gwaith yn dilyn Llawdriniaethau Llawfeddygol
Ffynhonnell |
---|
Cymru Iach ar Waith7 |
Working Fit8 |
Coleg Brenhinol y Llawfeddygon9 |
Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr10 |
Defnyddiwyd yr adnoddau hyn hefyd i grynhoi'r wybodaeth am 'Llawdriniaethau Llawfeddygol Cyffredin - Amseroedd Adfer a Materion Cysylltiedig i'w Hystyried’. Cyfeiriwch at yr adran Cyfeiriadau am ragor o ffynonellau gwybodaeth.