Ffactorau sy'n Effeithio ar Adferiad

Dylai'r claf/gweithiwr, y meddyg teulu a'r cyflogwr benderfynu ar y cyd pa mor fuan y gall claf ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn llawdriniaeth. Wrth wneud penderfyniad o'r fath, gallai fod yn ddefnyddiol ystyried y canlynol:

  • Barn glinigol y meddyg teulu ei hun yng ngoleuni amgylchiadau'r claf (sut mae'n gwella, sut mae'n ymateb i lawdriniaeth, y math o swydd y mae'n ei gwneud, unrhyw amgylchiadau personol perthnasol)13y canllawiau clinigol cyfredol sydd ar gael (gweler yr adran 'Helpu claf i baratoi ar gyfer dychwelyd i'r gwaith' - Ffigur 7) a'r ffactorau risg ar gyfer cronigrwydd a nodir yn Ffigur 3 isod.
  • Polisïau a gweithdrefnau'r cyflogwr.

Ffigur 3: Ffactorau risg ar gyfer Cronigrwydd4    

  • Agweddau, credoau a disgwyliadau camweithredol am boen ac anabledd.
  • Agweddau, credoau a disgwyliadau amhriodol ynglŷn â gofal iechyd
  • Ansicrwydd, gorbryder, osgoi ofn
  • Iselder, gofid, hwyliau isel, emosiynau negyddol
  • Strategaethau ymdopi goddefol neu negyddol (ee catastroffeiddio)
  • Diffyg 'cymhelliant' a pharodrwydd i newid, methiant i gymryd cyfrifoldeb am adsefydlu, aros am 'ddatrysiad', diffyg ymdrech
  • Ymddygiad salwch

Isod mae'r 3 rheol euraid ar gyfer gwellhad buan yn dilyn llawdriniaeth lawfeddygol9 & 13.

  • Cadw'n Heini
  • Cynnal Trefn Ddyddiol Arferol
  • Cynnal Cyswllt Cymdeithasol â Phobl

Tair rheol euraid ar gyfer gwellhad buan

  1. Cadw'n Heini - Cynyddu'n Raddol

Menywod yn ymarfer y tu allan gyda phwysau ar gyfer breichiau

Dylai cleifion fynd ati i wneud rhai o'r pethau y byddent yn eu gwneud fel arfer, ond dylent gynyddu'n raddol. Mae rhai awgrymiadau wedi'u cynnwys yn y Traciwr Adfer cyflwr-benodol ar wefan  Coleg Brenhinol y Llawfeddygon (cliciwch ar y cyflwr priodol a dewiswch traciwr adfer). Yn amlwg, mae pawb yn gwella ar gyflymder gwahanol, felly ni fydd pob un o'r awgrymiadau'n addas i bawb. Pan fydd eich claf yn cynyddu ei weithgareddau, efallai y bydd yn teimlo'n fwy blinedig nag arfer. Os felly, dylent stopio, a gorffwys nes bod eu cryfder yn dychwelyd. 

2. Cynnal Trefn Ddyddiol Arferol

Anogwch eich cleifion i godi ar adeg arferol yn y bore, gwisgo a symud o gwmpas y tŷ. Mae blinder yn normal.

Diffodd sigaret

Peidiwch â chysgu 'mlaen: Gallan nhw orffwys nes 'mlaen bob tro. Gall aros yn y gwely achosi iselder. Os ydynt yn byw ar eu pen eu hunain, ac os nad oes ganddynt deulu na ffrindiau yn agos atynt, rhowch gyngor iddynt drefnu cefnogaeth ymlaen llaw e.e. trefnu i deulu neu ffrindiau i aros gyda nhw am y dyddiau cyntaf ar ôl y llawdriniaeth os oes modd.

Bwyta'n Iach: Bydd bwyta deiet iach yn helpu i sicrhau bod gan gorff eich claf yr holl faetholion sydd eu hangen arno i wella.

Stopio Smygu: Drwy beidio â smygu, bydd cylchrediad eich claf a'i anadl yn dechrau gwella ar unwaith, hyd yn oed os mai dim ond am yr amser adfer y bydd yn stopio.  

Beth am gyfeirio'r claf i ymgyrch Rhoi'r Gorau i Smygu Cymru14? (Rhadffôn 0800 085 2219)

3. Cynnal Cyswllt Cymdeithasol â Phobl

Gall teulu a ffrindiau helpu eich cleifion gyda dau beth pwysig:

  • Cymorth ymarferol gyda'r tasgau y gallai'r claf fod yn methu eu gwneud dros dro wrth iddo wella - megis gyrru, y siopa wythnosol, neu godi eitemau trymach.
  • Cynnal ei ysbryd - mae newydd-deb y sefyllfa'n diflannu'n fuan ac mae'n hawdd teimlo'n ynysig o fod gartref ar eich pen eich hun drwy'r dydd. Gall cael cwmni helpu eich claf i boeni llai. Rhybuddiwch eich cleifion i geisio peidio â gadael i orbryder ymwreiddio, oherwydd gall hynny’n droi’n broblem ynddi'i hun sy'n ei rwystro rhag mynd yn ôl i'w drefn arferol.

I gael rhagor o wybodaeth yn y maes hwn, ewch i'r ddolen hon.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau