Llawdriniaeth orthopedig
Llawdriniaeth Lawfeddygol | Yn argymell dychwelyd i gyflogaeth nad yw’n waith llaw | Yn argymell dychwelyd i gyflogaeth gwaith llaw |
Cyngor arall |
---|---|---|---|
Clun newydd | 6 wythnos | 3-6 mis | 6-8 wythnos cyn gyrru 3 mis cyn hedfan |
Arthrosgopi pen-glin | 1-2 wythnos | 3-4 wythnos | 2 wythnos cyn eistedd am gyfnod hir |
Adluniad ACL | 3-9 mis | Yn dibynnu ar y llwyth gwaith | |
Meniscectomi rhannol | 1-2 wythnos | 2 wythnos | |
Pen-glin newydd cyfan | 6 wythnos | 12 wythnos |
Mae amser adfer yn dibynnu ar: Adennill y cryfder a'r symudedd yn y goes i allu defnyddio cludiant cyhoeddus neu yrru i gyrraedd y gwaith. Weithiau mae pobl sydd wedi cael pen-glin newydd yn canfod yn y tymor hir, bod angen adleoli eu rôl i waith sy'n llai anodd os ydynt yn gwneud gwaith arbennig o drwm Cyngor gyrru penodol: Fel rheol, mae'n fwy diogel osgoi gyrru am 8 wythnos ar ôl cael pen-glin newydd. |
Trwsio tendon Achilles | 3-6 mis | Yn dibynnu ar y llwyth gwaith | |
Bynionectomi/ osteotomi |
6-8 wythnos | 6-12 wythnos |
Yn gynt os nad oes llawer neu ddim cerdded Cyngor gyrru penodol: 25% yn ddiogel i yrru ar ôl 2 wythnos, pob un yn ddiogel ar ôl 6 wythnos |
Tynnu ewin sy'n tyfu i'r byw | 2 wythnos | 2 wythnos | Yn hirach os yw'n cerdded yn bell |
Trychiad o aelod isaf o’r goes/braich |
6 mis | ||
Rhyddhau twnnel arddyrnol | 1-2 wythnos (Goruchwyliol, rheolaethol) | Gwaith ysgafn â llaw - gwaith clercol neu ysgrifenyddol: 2 i 4 wythnos Gwaith canolig â llaw - glanhawr, gofalwr, nyrs, gweithiwr desg talu: 4 i 6 wythnos Gwaith trwm â llaw: 6 i 10 wythnos Gwasanaethau carcharol neu achub: 6 i 10 wythnos |
Cyngor dychwelyd i'r gwaith: Gellir defnyddio'r 'Nodyn Ffitrwydd' i ofyn i'r cyflogwr ynglŷn â dychwelyd i'r gwaith ar ddyletswyddau ysgafnach i ddechrau. Mae hyn yn golygu osgoi tasgau sy'n rhoi straen ar y dwylo, er enghraifft teipio, defnyddio'r ffôn, neu godi mwy na 5kg ar y tro, ymysg pethau eraill. |
# yr arddwrn anamlycaf # yr arddwrn amlycaf # claficl |
1 wythnos 12 wythnos 6 wythnos |
12 wythnos |
|
Trychiad y fraich | Yn dibynnu ar y rôl | 3 mis | |
Dadelfeniad isacromaidd arthrosgopig ysgwydd | 2-6 wythnos | 6-12 wythnos |
Mae Byrsa yn cymryd tua chwe wythnos i ailffurfio, felly gall gweithgarwch yn ystod y cyfnod hwn fod yn boenus ac yn gyfyngedig |
Trwsio llawes troëdydd ysgwydd | 4-12 wythnos | 3-6 mis |
Dim symud am y 2-6 wythnos gyntaf, felly bydd gweithgaredd gwaith cynnar yn gyfyngedig |
Sgaffoid gostyngiad a sefydlogiad agored | 4-6 wythnos | Ar ôl yr uniad | |
Microdiscectomi | 4 wythnos | 6-12 wythnos |
Tra'n gwella, dylai'r claf osgoi eistedd mewn un lleoliad am fwy na 15-20 munud. Mae ymestyn a cherdded yn rheolaidd tra yn y gwaith yn cael ei argymell. Mae rhai pobl sydd wedi cael discectomi yn gweld bod angen eu hail-leoli mewn rôl sy'n llai anodd - yn enwedig os yw eu swydd yn gofyn am lawer o godi pethau trwm, gyrru neu sefyllfaoedd a all fynd yn dreisiol o bosibl. |
Dadgywasgu ac ymasiad asgwrn y cefn | 3-6 mis | ||
Ymasiad garddwrn anamlycaf | 1 wythnos |
Mae canlyniad ymasiad garddwrn yn dibynnu ar y rheswm dros y llawdriniaeth (ar ôl trawma disgwylir adferiad llawer cyflymach na llawdriniaeth ar gyfer arthritis gwynegol) |
|
Ymasiad garddwrn amlycaf | 4 mis |
Ar gyfer rhai gweithwyr llaw / crefftau medrus, efallai y bydd angen adleoli parhaol |
Yn ogystal â'r ffynonellau a amlinellir yn Ffigur 1, defnyddiwyd Gwybodaeth Trwyddedu Gyrwyr 15 i grynhoi'r wybodaeth uchod. Anogir meddygon teulu i gyfeirio'n uniongyrchol at hyn a'r ffynonellau rhestredig eraill (Ffigur 1).