Llawdriniaethau Llawfeddygol Cyffredin – Amseroedd Adfer a Materion Cysylltiedig i'w Hystyried

Cyfarpar llawfeddygol

Mae Ffigur 5 a 6 yn tynnu sylw at y pwyntiau amlycaf a ddarperir gan y 3 brif wefan (a restrwyd gynt yn Ffigur 1), ar adferiad ar ôl llawdriniaethau llawfeddygol cyffredin. Mae'r ddamcaniaeth ynghylch bod heb waith ac iechyd/afiechyd a amlinellwyd uchod yn berthnasol i gleifion sy'n gwella o driniaethau llawfeddygol. Ni ddylid bellach argymell amser adfer hirfaith i ffwrdd o'r gwaith, gan y gall hyn arwain at ddatgyflyru sylweddol, gan ei gwneud yn anoddach i'r claf setlo'n ôl i waith arferol a gall hyd yn oed arwain at ddiweithdra. Mae'r amseroedd adfer yn gyffredinol yn cynrychioli'r amseroedd hiraf sy'n debygol o fod eu hangen gan y bydd llawer o gleifion yn saff i ddychwelyd i'r gwaith yn gynt. Y Prif amodau8 i hyn yw:

Technegau llawfeddygol gwahanol

Mae yna wahaniaethau rhwng technegau llawfeddygol, felly gall llawfeddygon unigol argymell cyfnodau gwahanol i ffwrdd o'r gwaith.

Cymhlethdodau sylweddol

Byddai ond disgwyl i gleifion gymryd mwy o amser i wella na'r amseroedd a argymhellir yn Ffigur 6 isod, os oes cymhlethdodau sylweddol yn y llawdriniaeth. Mae haint cynnar mewn clwyfau a gaiff ei thrin yn brydlon gyda gwrthfiotigau yn annhebygol o oedi trefn dychwelyd i'r gwaith. Mae cymhlethdod fel clwyfau’n dadelfennu yn debygol o oedi dychwelyd.

Cymhelliad y claf

Disgwylir i gleifion a gaiff eu cymell i lynu wrth raglen adsefydlu gynhwysfawr ddychwelyd yn gynharach. Nid oes angen i gleifion aros nes eu bod yn rhydd o symptomau ac yn 100% ffit cyn ailddechrau gweithio. Mae hyn yn arbennig o wir am swyddi sy'n golygu gwaith swyddfa yn bennaf. Dylid eu hysbysu bod rhywfaint o anghysur cychwynnol i'w ddisgwyl.

Ffitrwydd corfforol cyn/ar ôl llawdriniaeth

Mae ffitrwydd corfforol yn chwarae rhan bwysig o ran cyflymder adferiad ar ôl llawdriniaeth, a gall gorffwys am gyfnod rhy hir arwain at ddatgyflyru corfforol sylweddol ynghyd â magu pwysau. Dylai cleifion sy'n teimlo na allant ddychwelyd i'r gwaith barhau i gael eu hannog i ymarfer bob dydd i wella eu ffitrwydd ac osgoi magu pwysau. Mae cerdded yn ddiogel ar ôl y rhan fwyaf o lawdriniaethau, ac i'r rhai sy'n ansicr o faint i gerdded, bydd prynu pedomedr rhad yn eu helpu i fonitro eu gweithgaredd a'u hadferiad.

Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol

Os nad ydych yn siŵr o lefel y risg sy'n gysylltiedig â dychwelyd i'r gwaith, a/neu natur gwaith y claf, gellir defnyddio'r 'Nodyn Ffitrwydd' 6 i argymell bod y cyflogwr yn cyfeirio at Iechyd Galwedigaethol (os yw ar gael).

Ffigur 5: Cyngor ar Yrru a Theithio yn dilyn pob Llawdriniaeth Lawfeddygol

Gyrru

Mae'n ofynnol i rai cleifion ymgymryd â gyrru fel rhan fach, sylweddol neu gyfan o'u swyddi. Dylai'r cleifion hyn hysbysu eu cwmni yswiriant ynglŷn â'u llawdriniaeth cyn gyrru. Ni ddylai cleifion yrru am 24 awr ar ôl anesthetig cyffredinol a nes bod effeithiau tawelyddol meddyginiaeth lleddfu poen wedi mynd. Ni fydd rhai cwmnïau'n yswirio gyrwyr am nifer o wythnosau ar ôl llawdriniaeth, felly mae'n bwysig bod y claf yn gwirio beth mae ei bolisi yn ei ddweud.

Dylai'r claf fod yn gyfforddus yn y safle gyrru a chyn gyrru dylai'r claf fod:

  • yn rhydd rhag effeithiau tawelyddol unrhyw boenladdwyr
  • yn gallu defnyddio'r cyfarpar rheoli'n rhwydd
  • yn gallu gwisgo'r gwregys diogelwch yn gyfforddus
  • yn rhydd i fedru stopio'r cerbyd ar frys
  • yn gallu edrych dros ei ysgwydd yn gyfforddus wth symud.

Dylai cleifion ymarfer y symudiadau sylfaenol sydd eu hangen i yrru'n ddiogel. Dylent wneud hyn mewn lle diogel heb roi'r allwedd danio yn nhwll y swîts tanio. Mae'n ddoeth peidio ag ailddechrau gyrru gyda thaith hir.

Cyngor ar Deithio

Mae'n ofynnol i rai cleifion deithio pellteroedd hir neu dramor at ddibenion busnes. Dylai'r claf ystyried ei lefelau cysur os yw'n ofynnol iddo wisgo gwregys diogelwch. Os bydd y claf yn teithio'n fuan ar ôl ei lawdriniaeth, dylid ystyried y risg o thrombosis gwythïen-ddofn (DVT), ar gyfer siwrneiau sy'n para mwy na 4 awr. Os yw'n teithio dramor, dylai'r claf ystyried a fyddai'n cael gofal meddygol priodol, pe bai'n dioddef unrhyw gymhlethdodau ar ôl y llawdriniaeth. Dylai'r claf sicrhau bod ganddo yswiriant teithio priodol i dalu am ofal meddygol angenrheidiol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau