Problemau'r Geg a Deintyddol

 

  1. a) Cwymp y genau a syndrom Satchmo.

Defnyddir y term cwymp y genau neu "embouchure collapse" i ddisgrifio grŵp o gyflyrau sy'n arwain at gamweithrediad y genau (trefniant pwrpasol o gyhyrau'r wyneb sydd ei angen i wneud sŵn gydag offeryn pres neu chwyth).

  1. i) Dystonia ffocal.

Er nad dyma'r achos mwyaf cyffredin o gwymp y genau, nid oes unrhyw driniaeth benodol i ddystonia ffocal sy'n effeithio ar y geg, ac mae'n aml yn lladd gyrfa cerddorion. Gall ymddangos gyda symptomau ysgafn iawn i ddechrau, gydag anhawster chwarae darnau uchel neu swnllyd, neu'n methu chwarae o gwbl.

  1. ii) Syndrom gorddefnyddio'r genau

Mae hwn yn gyffredin ymysg offerynwyr pres, ac mae’n aml yn dechrau gyda'r gwefusau'n chwyddo ar ôl cyfnod hir o chwarae. Os na fydd y perfformiwr yn gorffwys digon a’i fod yn dal ati i berfformio neu ymarfer, gallai'r genau gwympo. Gellir osgoi'r cyflwr hwn gyda digon o orffwys ac ymarferion cynhesu priodol cyn chwarae.

  1. iii) Pwysedd ceg offeryn

Mae trwmpedwyr a chanwyr corn yn enwedig yn canu offerynnau â darnau ceg bach, gan arwain at gynnydd yn y pwysedd sy'n gysylltiedig â chanu'r offeryn hwnnw. Gall techneg chwarae dda helpu i leddfu hyn.

  1. iv) Syndrom Satchmo

Rhwygo'r cyhyr orbicularis orius yw hyn, sy'n digwydd ymhlith trwmpedwyr yn arbennig, ac mae wedi'i enwi ar ôl Louis Armstrong a ddioddefodd o'r cyflwr. 'Satchmo' oedd ei lysenw. Gellir trin y cyflwr trwy lawdriniaeth.

 

  1. b) Problemau deintyddol.

Bydd cerddorion yn datblygu eu cyhyrau geneuol mewn ffyrdd anarferol a phenodol, drwy roi pwysau hir ac ailadroddus ar eu dannedd a'u cymalau sy’n cysylltu’r ên a’r penglog (TMJs). Gall unrhyw newid yn y dannedd, er enghraifft oherwydd trawma neu driniaeth orthodontig, gael effaith sylweddol ar berfformiad offerynnwr pres neu chwythbren. Dangosodd arolwg o 158 o gerddorion 28 fod gan 26% boen yn ymwneud â phroblemau deintyddol, y cymalau neu'r cyhyrau sy'n gysylltiedig â'r pen, y gwddf neu'r dannedd, bod 28% yn dioddef problemau’n ymwneud â chyflyrau orthodontig neu symudiad dannedd, bod gan 22% gamweithrediad TMJ, a bod 6% yn crensian eu dannedd (bruxism). Gall colli dannedd achosi problemau i berfformiad chwaraewr hefyd.

Mae triniaeth i wella'r brathiad, ategion gên gyfer chwaraewyr uwch linynnau a chegau offerynnau ac arbedwyr gwefusau wedi'u teilwra, wedi helpu gyda hyn.

Mae'n bwysig bod cerddorion yn dweud wrth eu deintydd pa offeryn maen nhw'n ei chwarae ac unrhyw broblemau deintyddol sydd ganddynt, ac mae'n werth i chwaraewyr offerynnau chwyth ystyried gofyn i'w deintydd wneud model o'u brathiad fel y gellir cadw'r brathiad ac felly'r sain a wnânt pe baen nhw'n colli neu'n niweidio dant.

 

  1. c) Camweithrediad TMJ

Mae achosion o gamweithrediad TMJ yn gyffredin ymysg chwaraewyr yr uwch linynnau (feiolin a fiola) ac mae'n cael ei weld fwyfwy ymysg chwaraewyr offerynnau chwyth. Y rheswm am hyn yw'r ffordd y mae’r offeryn yn cael ei ddal rhwng yr ysgwydd a'r ên.

 

 

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau