Gorbryder am berfformio
Cerddorion yw'r grŵp galwedigaethol sydd fwyaf bodlon yn eu gwaith, ond maen nhw hefyd gyda'r pum grŵp galwedigaethol sydd fwyaf tebygol o ddioddef o salwch meddwl (Brodsky, 1996.) Mae gorbryder am berfformio neu 'fraw llwyfan' yn gyffredin, ac yn gallu ymddangos fel symptomau corfforol a gwybyddol (teimladau negyddol a hunan-feirniadol). Ar y lefelau gorau posibl, mae gorbryder am berfformio yn ysgogi rhywun, ond os oes gormod ohono, gall amharu ar safon y perfformiad. Gall gorbryder am berfformio effeithio ar y cof hefyd.
Mae'n fwyaf cyffredin mewn unawdwyr, er y gallai effeithio ar bob math o gerddorion. Credir mai unigolion yn rhoi gormod o bwysau ar eu hunain, gorgynhyrfu a phoeni am ddiffyg paratoi ar gyfer perfformiad yw'r prif achosion (Kenny et al, 2014.) Gall ddigwydd dan rai amgylchiadau penodol yn unig neu godi ym mhob perfformiad.
Ymhlith y triniaethau defnyddiol mae therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), beta-atalyddion, ac ymlacio'r cyhyrau ar gyfer chwaraewyr chwythbrennau a chantorion wrth berfformio.
Mewn sefyllfaoedd fel chwarae mewn cerddorfeydd proffesiynol, mae cerddorion yn sôn am y stigma sy'n gysylltiedig â chyfaddef i 'wendidau' fel gorbryder am berfformio ac amharodrwydd i fod yn agored am y broblem - pethau sy'n gallu gwaethygu'r broblem.
Mae BAPAM wedi paratoi ffeithlen ddefnyddiol am hyn o'r enw ‘I can’t go on.’20