Problemau'r croen, y llygaid a'r ymennydd

Problemau'r croen
  1. a) Cheilitis.

Gall chwaraewyr offerynnau chwyth a phres yn arbennig ddioddef llid y gwefusau a'r croen cyfagos oherwydd cyswllt agos â cheg eu hofferyn 29.

Gall chwaraewyr pres ddatblygu gwefusau sych coch a chaledennau oherwydd ffrithiant, a gall clarinetwyr ac oböwyr ddatblygu caleden ar eu gwefus uchaf. Gall chwaraewyr corn ddatblygu atroffi neu wywiad yng nghanol y wefus uchaf oherwydd pwysau ceg yr offeryn, a gall offerynwyr chwyth a phres ddatblygu trawma meinwe meddal ar y gwefusau - ond gall defnyddio gorchudd gwefusau helpu gyda hyn.

Gwelwyd achosion o cheilitis cyswllt oherwydd sensitifrwydd i nicel a chromad ymysg ffliwtwyr, trwmpedwyr, clarinetwyr a chwaraewyr corn, a hyd yn oed chwaraewr harmonica mewn un achos. Gall ffliwtwyr hefyd ddatblygu adwaith tebyg i ecsema ar eu gên.

Ymhlith y problemau eraill mae sensitifrwydd i gorsen ymhlith chwaraewyr sacsoffon a chlarinét sy'n achosi i'r wefus is droi'n goch a chennog. Hefyd, ceir achosion prin o chwaraewyr recorder yn datblygu dermatitis cyswllt oherwydd alergedd i bren egsotig.

  1. b) Dermatitis

Mae cerddorion mewn perygl o ddermatitis am sawl rheswm:

  1. bi) Dermatitis cyswllt alergaidd

Mae alergedd i ystor, nicel a chorsen i gyd yn achosi dermatitis cyswllt alergaidd mewn cerddorion.

  1. bii) Dermatitis cyswllt llidus

Brech neu 'rash' tebyg i acne sy'n gysylltiedig â hyperpigmentiad yw cyflwr gên y ffliwtiwr. Credir mai cyfuniad o boer, cyddwysiad yr anadl a phwysedd uniongyrchol o'r ffliwt sy'n achosi hyn.

Ddermatitis cyswllt llidus sy'n effeithio ar y darn o ganol y wefus isaf i'r ên yw cheilitis y clarinetydd, ac unwaith eto, credir mai cyfuniad o leithder, pwysedd a ffrithiant sydd wrth wraidd y cyflwr.

Mae gên y feiolinydd (neu wddf y ffidlwr neu 'violin hickey') yn gyffredin ymhlith feiolinyddion, a fiolyddion yn arbennig, ac mae'n cyfeirio at ardal o gochni, chwydd, cennau a hyperpigmentiad ar ochr chwith y gwddf lle mae'r chwaraewr yn dal ei offeryn. Mae rhai feiolinyddion yn ei weld fel rhywbeth i ymfalchïo ynddo gan ei fod fel arfer yn ganlyniad i oriau lawer o ymarfer, er y gall fynd yn andros o boenus a heintus. Unwaith eto, mae sawl peth yn achosi hyn gan gynnwys pwysedd, alergedd ac weithiau haint a llid sylfaenol.

Gall chwaraewyr sielo ddioddef  poen yn y frest a’r ben-glin o ddal eu hofferynnau am gyfnodau maith.

  1. c) Anthracs ymysg drymwyr

Bu dau achos o anthracs angheuol ymysg chwaraewyr drymiau Affricanaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn y DU, y naill yn yr Alban yn 2006 a'r llall yn Llundain yn 2008 30. Cafwyd 3 achos tebyg yn yr Unol Daleithiau hefyd.

  1. d) Caledennau

Gall caleden ddatblygu mewn chwarawyr sielo sy'n defnyddio'r bawd, a gall drymwyr ddatblygu bys drymiwr, sef caleden ar hyd ochr y mynegfys chwith. Gall feiolinyddion hefyd ddatblygu padiau Garrod, sef chwydd ar gymalau PDP yr ail a'r trydydd bys ar y llaw chwith.

 

Llygaid
  1. a) Pwysedd mewnllygadol (IOP) uwch

Mae astudiaethau wedi dangos bod IOP a phwysedd gwaed chwaraewyr offerynnau pres a chwythbrennau yn cynyddu dros dro wrth chwarae 31.Yn achos chwaraewyr pres, mae cynnydd sylweddol mewn IOP wrth chwarae tonau amledd uchel a chanol, gyda nodiadau uchel parhaus yn achosi cynnydd sylweddol mewn IOP. Dim ond wrth chwarae tonau amledd uchel mae chwaraewyr chwythbrennau yn profi lefelau IOP uwch.

Felly, mae’r risg o glawcoma yn uwch ymysg chwaraewyr offerynnau pres a chwythbrennau ac felly mae angen monitro eu lefelau IOP yn amlach.

  1. b) Anafiadau

Gall chwarae offeryn fod yn syndod o beryglus i'r llygaid, gyda pheryglon yn amrywio o osgoi bwâu yn hedfan i offerynwyr llinynnol mewn cerddorfeydd yn chwarae ar lwyfannau cyfyng, i dorri tanau.

Ymennydd
  1. a) Strôc

Cofnodwyd o leiaf 5 achos o strôc yn sgil chwarae trwmped dros y blynyddoedd. Credir bod y pwysau uwch i'r gwddf a'r frest wrth chwarae yn arwain at dorri pibellau cerebrol.

  1. b) Risgiau llawdriniaeth ar yr ymennydd

Yn ddiweddar, cafwyd achosion o gerddorion sydd angen llawdriniaeth ar yr ymennydd yn chwarae eu hofferynnau yn ystod llawdriniaeth i sicrhau nad yw'r rhannau o'r ymennydd sydd eu hangen ar gyfer eu sgiliau penodol yn cael eu niweidio gan y llawdriniaeth.

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau