Problemau iechyd meddwl

Dangosodd astudiaeth a gomisiynwyd gan Help Musicians UK  ‘Can music make you sick?’, (Gross a Musgrave, University of Westminster 2016 17) fod 71% o gerddorion yn dioddef o byliau o banig a gorbryder, a bod 68% yn dioddef o iselder. Mae hyn dros dair gwaith yn uwch na chyfraddau yn y boblogaeth gyffredinol.

Nid yw ansicrwydd ariannol, oriau hir, amodau gwaith gwael, oriau o ymarfer unigol, a’r gofynion teithio a brofir gan lawer o gerddorion yn helpu gorbryder ac iselder. Mae llawer yn gorfod gwneud sawl swydd i gael dau ben llinyn ynghyd, a dangosodd astudiaeth a gynhaliwyd rhwng 2011 a 2015 fod dynion yn y sector diwylliant 20% yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad, a menywod 69% yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad.

Mae llawer o gerddorion yn gaeth i gyffuriau ac alcohol - problem sy'n gallu codi o'u ffordd o fyw neu sydd wedi datblygu oherwydd gorbryder am berfformio.

Mae perffeithrwydd hefyd yn gyffredin ymhlith cerddorion. Er y gall arwain at fanteision o ran ennill y blaen a sicrhau cyfleoedd i weithio fel cerddor, gall hefyd fod yn rym dinistriol iawn. Gwelwyd cysylltiad cryf rhwng hynny â gorbryder am berfformio, anhwylderau bwyta ac oedi/gohirio gwneud pethau, a gall perffeithyddion anwybyddu eu lles wrth geisio hogi eu sgiliau, e.e. drwy barhau i ymarfer pan fyddant yn datblygu anaf straen ailadroddus.

Mae cystadlaethau cerddorol yn ffordd bwysig o ddatblygu gyrfa gerddorol ac i berfformwyr ifanc newydd ddenu sylw, ond gallant achosi straen enbyd i rai, a rhoi llawer o berfformwyr dan bwysau aruthrol.

Mae chwythu plwc yn broblem ymhlith cerddorion proffesiynol hefyd, oherwydd straen unigryw gyrfa gerddorol.

Mae BAPAM wedi cynhyrchu ffeithlen ddefnyddiol ar ‘Psychological Self Care’ 18, sydd i'w gweld ar ei wefan. Mae Music Minds Matter 19, www.musicmindsmatter.org.uk, hefyd wedi'i sefydlu'n benodol i helpu cerddorion â phroblemau iechyd meddwl.

 

 

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau