Rheoli
Mae’r dull o drin AK wedi’i ganoli ar y claf i raddau helaeth. Mae Cymdeithas Dermatoleg Gofal Sylfaenol (PCDS) wedi cynnig cyngor sy’n dweud bod modd canfod a thrin AK mewn gofal sylfaenol. Mae ei chanllawiau’n ffafrio’r defnydd o deledermatoleg ar gyfer canfod a rheoli AK. Mae’n cydnabod bod AK yn rhan o’r sbectrwm o niwed actinig ac mai’r nod yw eu rheoli a darparu gofal dilynol yn hytrach na’u gwella. Mae rhestr isod o argymhellion sydd wedi’u gwneud gan Gymdeithas Dermatolegwyr Prydain ynghylch pa bryd i atgyfeirio achosion i ofal eilaidd:
- Nid yw’r AK yn ymateb i driniaethau safonol
- AK lluosog neu AK sy’n ailddigwydd sydd yn her i ymdrechion i’w rheoli
- AK yn digwydd mewn claf sy’n cymryd meddyginiaeth atal imiwnedd dros y tymor hir
- Cleifion ifanc iawn sydd â AK – dylid ystyried xeroderma pigmentosum yn bosibilrwydd
- Pryder bod briw AK yn SCC - dylid ei atgyfeirio fel USC. Enghreifftiau o AK Gradd 3 sy’n codi amheuaeth eu bod yn SCC yw briw ar y croen sy’n gwaedu, yn teimlo’n boenus ac yn teimlo’n drwchus wrth ei ddal rhwng y bys a’r bawd.
Wrth wneud diagnosis o AK am y tro cyntaf, dylid diffinio’r lleoliad a’r radd er mwyn gallu eu monitro a chofnodi’r ymateb i driniaeth. Gellir gwneud hyn drwy dynnu lluniau, gwneud mapiau corff a thynnu ffotograffau gan rifo’r briwiau. Wrth archwilio, dylid adolygu er mwyn canfod briwiau sy’n ymgodi(papiwl / nodiwl). Dylid tynnu’r cen ar y wyneb er mwyn gallu gwneud asesiad priodol o’r briw, wlseriad,calediad, tynerwch a’r llid o’i gwmpas. Mae PCDS hefyd yn rhybuddio ‘Gwyliwch am friwiau ar y gwefusau – gall SCC fod yn anniffiniol iawn yn y lleoliad hwn’.
Gellir defnyddio triniaeth seiliedig ar feysydd i reoli nifer o wahanol newidiadau actinig mewn parth fel y talcen, croen y pen neu ganol y wyneb, a gall gynnig rhywfaint o les drwy arafu datblygiad briwiau newydd a fydd yn addas i’w trin â therapïau argroenol a therapi ffotodynamig. Defnyddir y term ‘newid maes’ i ddisgrifio rhannau o’r croen lle mae nifer mawr o AK ar gefndir coch a telangiectatig sy’n ymddangos ei fod wedi’i niweidio’n gyffredinol gan yr haul. Oherwydd hyn, dylid rhoi’r triniaethau ar arwynebedd cyfan y newid maes ac nid ar y briwiau unigol yn unig. Rhai o’r prif gyfryngau yw 5-fflworowracil (5-FU), imiquimod, ingenolmebwtad a gwahanol fathau o therapi ffotodynamig. Bydd therapïau argroenol yn cael eu hosgoi fel arfer ger y geg a’r llygaid oherwydd o risg o gael adweithiau difrifol. Mae mwy o risg o ddatblygu SCC ar arwynebeddau lle mae angen triniaeth maes, yn enwedig os cânt eu gadael heb eu trin. Felly argymhellir triniaeth fwy dwys. Dylid rhoi’r triniaethau ar arwynebedd cyfan y newid maes ac nid ar y briwiau unigol yn unig.
Fel arfer, defnyddir therapïau dinistriol ffocol fel ciwretio a serio neu cryotherapi i drin briwiau ynysedig yn unig. Cafwyd consensws ar ganllaw Ewropeaidd ar AK sy’n dangos bod cryolawdriniaeth yn cael ei ffafrio i drin briwiau ynysedig, a chiwretio i drin rhai mwy.
Mae PCDS wedi darparu’r set ganlynol o ganllawiau ar gyfer triniaeth:
Y cyngor cyntaf i’r holl gleifion lle mae AK wedi’i ganfod:
- Mae AK yn farciwr sy’n dangos niwed gan yr haul, felly dylai’r claf gael archwiliad trwyadl o’i groen i chwilio am ragor o friwiau
- Taflen wybodaeth i gleifion ar amddiffyn rhag golau uwchfioled (a fitamin D) yn cynnwys yr angen i wisgo het – bydd hyd at 25% o’r AK yn cael ei ddatrys os bydd cleifion yn dilyn y cyngor
- Darparu taflen wybodaeth i gleifion am AK
- Mae’r defnydd o leithydd yn gallu helpu i wahaniaethu rhwng arwynebeddau o groen normal a chroen annormal
- Wedi i glaf ddatblygu un AK, bydd yn debygol o ddatblygu rhagor. Nod y driniaeth yw lleihau cyfanswm y AK sydd ar y croen ar adeg benodol
- Addysg – hysbysu cleifion am ba newidiadau yn y croen y mae angen rhoi gwybod amdanynt. Os yw AK yn trawsffurfio i fod yn SCC, gall hynny gael ei awgrymu gan dwf diweddar, anghysur, wlseriad a gwaedu. Hefyd mae angen i gleifion roi gwybod am unrhyw friwiau eraill ar y croen sy’n anghyfarwydd iddynt.
- Dylid cynghori mwy o gleifion sydd â AK i gymryd Nicotinamid 500 mg ddwywaith y dydd. Dangoswyd bod y fitamin hwn yn lleihau nifer y AK a chanserau’r croen nad ydynt yn felanoma.
- Yn achos cleifion sydd â nifer llai o friwiau, yn enwedig os yw eu disgwyliad oes yn llai, dylid cynnig dewis iddynt o ran a ydynt yn dymuno i’w briwiau gael eu trin neu beidio.
O ran triniaethau penodol ar gyfer briwiau, mae PCDS yn argymell y canlynol ar gyfer trin niferoedd mwy o AK lle maent ar wasgar neu heb angen triniaeth maes.