Y prif argymhellion
Y prif argymhellion: therapïau ffisegol a systemig
- Mae’n bwysig addysgu wrth ddechrau defnyddio therapïau ffisegol er mwyn sicrhau dealltwriaeth lawn o’r sgil effeithiau, gan fod y rhain yn gallu bod yn amlwg, ac yn cynnwys creithio a newid pigmentau.
- Mae cryolawdriniaeth yn therapi ffisegol hyblyg ac effeithiol ar gyfer briwiau lle na fydd y claf yn cymryd rhan yn ei ofal ei hun gan y bydd yn cael ei ddarparu mewn gwasanaeth sy’n cynnwyscryolawdriniaeth.
- Mae cyfiawnhad dros ddefnyddio ciwretio i drin AK mwy trwchus (gradd 3), lle nad ydynt yn ymateb i therapi argroenol a lle mae amheuaeth eu bod yn SCC cynnar. Rhaid cael profion histolegym mhob achos. Efallai y bydd cyfiawnhad dros wneud biopsi diagnostig ar yr un sail, ond gellir cael gwallau samplu.
- Mae therapi ffotodynamig yn effeithiol i drin AK ymdoddol, fel y rheini a geir ar groen y pen, sy’n anodd eu rheoli neu’n peidio ag ymateb i driniaeth os nad oes afiechyd ymledol.
- Mae’r posibilrwydd o greithio yn fach wrth ddefnyddio therapi ffotodynamig ac mae llai o risg y bydd y gwella o ansawdd gwael nag wrth ddefnyddio therapïau ffisegol eraill ar leoliadau lle gellir cael gwendid fel rhan isaf y goes.
- Gall therapïau ffisegol fod yn fwy effeithiol os rhoddir therapi argroenol cyn y driniaeth.
- Os na fydd briw penodol yn ymateb i therapi ffisegol, mae hynny’n dangos bod angen ei asesu ymhellach. Gallai hyn gynnwys triniaeth i’w dynnu allan.
- Rhoddir therapi systemig fel arfer lle mae nifer o AK gradd 3, hanes o SCC olynol agwrthimiwnedd. Gellir rhoi therapi ataliol drwy ddefnyddio retinoid a dylid ei ddarparu drwy benderfyniad amlddisgyblaethol, a all gynnwys dewisiadau eraill fel lleihau gwrthimiwnedd.
Y prif argymhellion: lleoliadau arbennig
- Mae lleoliadau lle mae’r gwella o ansawdd gwael fel y rheini sy’n is na’r pen-glin mewn pobl oedrannus yn galw am driniaethau hyblyg, goruchwyliaeth fwy manwl ac ystyriaeth i driniaethau llai dinistriol fel therapi ffotodynamig.
- Mae AK sy’n effeithio ar glustiau yn gyffredin ac mae angen rhoi sylw iddynt yn gynnar mewn perthynas â phob modd triniaeth, yn cynnwys cymryd camau ataliol drwy wisgo het â chantel mawr a rhoi sgrin haul.
- Os oes AK gradd 3 ar y clustiau, gall hynny gyfiawnhau ciwretio cynnar er mwyn gwneud profion histoleg a chanfod SCC sy’n datblygu’n gynnar.
- Gall y croen ar gefn y dwylo fod â mwy o ymwrthedd i driniaeth na’r pen a’r gwddf, ac mae hyn yn cyfiawnhau cyfnodau hirach o therapi argroenol.
- Mae’r holl driniaethau a drwyddedwyd yn cynnwys rhybuddion am eu defnyddio ger y llygad. Mae angen asesu AK o gwmpas y llygaid yn ofalus mewn gofal eilaidd. Mae’n bosibl y bydd modd defnyddio triniaethau argroenol, ond mae angen darparu goruchwyliaeth a chanllawiau clir.
Triniaethau sy’n methu
Ym mhob math o driniaeth, mae rhywfaint o risg y bydd yn methu â chlirio briw penodol. Os bydd hyn yn digwydd, mae angen asesu’r rheswm dros y methiant, gan gymryd mai un o’r esboniadau posibl yw bod y diagnosis yn anghywir. Rhai o’r mathau eraill o friwiau y gellid eu cynnwys wrth wneud diagnosisgwahaniaethol o AK yw SCC sefydlog, SCC ymledol, seborrhoeic keratosis, poroceratosis actinig,dafaden firol. Yn ôl canlyniad yr asesiad clinigol hwn, gellid darparu triniaeth sy’n fwy dwys, yn gryfach neu’n para’n hirach, neu gellid trin y briw drwy wneud biopsi neu drwy lawdriniaeth.
Ffordd arall i ddehongli bod methiant yw bod y claf yn parhau i gael AK newydd. Nid methiant yw hyn mewn gwirionedd, ond yn arwydd yn hytrach o natur y clefyd. Wedi i rywun gael diagnosis o AK, mae’n debygol y bydd arno angen triniaeth ysbeidiol drwy gydol ei oes. (16)