Atgyfeirio i aelod tîm / Gweithwyr Perthynol i Iechyd (PAM)

Mewn Ymarfer Cyffredinol mae gweithio fel tîm â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn hanfodol, mae’r tîm estynedig nid yn unig yn cynnwys eich nyrs practis a nyrsys ardal, ymwelwyr iechyd a cymorthyddion gofal iechyd, ond gall hefyd gynnwys  atgyfeirio at bediatryddon, ffisiotherapyddion, Otau, dietegyddion etc. Mae cyfathrebu manylon cleifion ac atgyfeirio i adran yma y tîm gofal sylfaenol estynedig yn bwysig, ond nid yw’r rhestr yn stopio yn y fan honno, gellir hefyd gynnwys ein cydweithwyr deintyddol ac optometreg yn yr adran hon.

Gall y ddolen dempled yma i PAM eich helpu i adolygu a myfyrio ar yr agwedd yma o’ch atgyfeiriadau.

Enghraifft

Disgrifiwch eich system atgyfeirio i aelodau tîm sydd yn gweithio yn eich adeilad.

Mae ein tîm ar y safle yn cynnwys 5 meddyg teulu, 2 nyrs practis, 3 cymhorthydd gofal iechyd (yn dyblu fel derbynyddion) 5 derbynnydd, ysgrifennydd a rheolwr practis. Ar y safle mae gennym ein tîm ymwelwyr iechyd (yn newidiol ar y funud oherwydd absenoldeb mamolaeth) a’n tîm nyrsys ardal. Mae gennym system llyfr negeseuon er mwyn cyfathrebu negeseuon dros y ffôn, llyfr cyfeirio nyrsys ardal, ac mae ein hatgyfeiriadau at yr ymwelydd  iechyd yn cael eu gwneud ar lafar wyneb yn wyneb. Mae gan y nyrs practis a'r cymorthyddion gofal iechyd fynediad i’n system gyfrifiadurol at ddibenion atgyfeirio.

Disgrifiwch eich systemau atgyfeirio i weithwyr proffesiynol eraill perthynol i feddygaeth sydd yn gweithio y tu allan i’ch tîm gofal iechyd sylfaenol uniongyrchol.

Mae gennym ffurflenni safonol ar gyfer atgyfeiriadau ffisiotherapi, atgyfeiriadau OT ac atgyfeiriadau podiatreg. Mae dietegydd yn ymweld ac rydym yn penodi’r cleifion (rhai diabetig fel arfer) ar sail angen. Mae ein nyrs ddiabetig yn defnyddio ein cofrestr ac yn atgyfeirio’r cleifion ymlaen (ysgrifenedig). Os bydd meddygon eisiau mynediad at y gwasanaeth yma, byddant eto yn cwblhau’r ffurflen safonol. Bydd y ffurflenni yn cael eu sganio i gofnod y claf cyn eu danfon ar bost mewnrwyd.

Bydd y cleifion eu hunain yn trefnu mynediad at optometryddion a deintyddion, nid wyf yn cofio ysgrifennu llythyr atgyfeirio i’r rhain. Mae ein sgrinio llygaid diabetig yn digwydd yn flynyddol gyda chamera digidol, a bydd ein nyrs practis yn trefnu hynny. Y llynedd bu i 78% o’r cleifion perthnasol dderbyn sgrinio llygaid diabetig.

A oes unrhyw gyfyngiadau wedi eu nodi yn yr atgyfeiriad yma?

Nid oes systemau yn eu lle ar gyfer monitro a gwirio’r atgyfeiriadau yma. Rhestrau aros hir ar gyfer ffisiotherapi, ac mae podiatreg yn tua 4 mis.

A yw’r llinellau cyfathrebu yn ddigonol a diogel?

Nid ydym wedi cael problemau ac mae’n ymddangos bod ein cleifion yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau

A oes yna unrhyw faterion y gellid eu gwella?

Gallwn edrych a systemau i fonitro’r atgyfeiriadau - ar hyn o bryd mae’r atgyfeiriadau at ffisiotherapi wedi eu hysgrifennu â llaw yn ogystal â’r llythyrau podiatreg a sgrinio retinol. Gallem basio pob atgyfeiriad ysgrifenedig i'w sganio i gofnodion y cleifion cyn eu hanfon, a fyddai o leiaf yn gwella cofnodion y claf. Ar hyn o bryd mae yna symudiad tuag at atgyfeiriadau electronig a ddylai wneud monitro'n haws. 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau