Derbyniadau brys

Mae anfon claf i’r ysbyty fel achos brys yn elfen bwysig o ofal Ymarfer Cyffredinol. Yn aml bydd claf yn cael ei dderbyn gyda symptomau sydd yn ymddangos yn rhai dramatig, ond yn cael ei ryddhau yn iach y diwrnod canlynol. Mae gan feddygon ysbytai fynediad cyflym at brofion diagnostig a gallent ddiystyru salwch difrifol yn gyflym, ac mae hynny yn un rheswm da pam ein bod yn anfon cleifion i ysbyty. Felly mae’n anodd mesur yn wrthrychol pryd y mae’n briodol anfon claf i ysbyty, oherwydd yn aml bydd y meddyg teulu yn cael ei roi mewn sefyllfa  o fod angen anfon y claf er mwyn diystyru cyflwr difrifol.

Efallai bydd y templed yma dolen yn eich helpu i archwilio eich rhesymau dros anfon claf i’r ysbyty a gall amlygu materion i’w trafod. Ceisiwch ddadansoddi eich 10 achos brys nesaf yr ydych yn eu hanfon i’r ysbyty.  Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys eich myfyrdodau am y materion  a nodwyd a’r pwyntiau dysgu ar MARS, a chynnwys eich dadansoddiad fel dogfennaeth ategol ychwanegol.

Senario clinigol ac amser y dydd Rheswm dros atgyfeirio Deilliant
Am 1pm galwad i gartref dynes 78 oed gyda haint ar y frest (3ydd galwad yr wythnos yma) Dryslyd gyda brest cronig (COPD) SOB cynyddol a pheswch cynhyrchiol, ddim yn ymateb i wrthfiotigau Pythefnos a hanner mewn ysbyty, gwrthfiotigau i.v., nebiwleiddiwr, ocsigen a steroidau. Rhyddhawyd heb newid ei meddyginiaeth
9am dyn 62 oed oedd wedi cael poen yn y frest drwy’r nos yn mynychu’r feddygfa, poen yn swnio’n gardiaidd, bellach wedi mynd ond cannydd mewn SOB MI posibl Diystyriwyd MI dim newidiadau ecg - angina posibl, disgwyl prawf goddef ymarfer corff
2.30pm merch 13 oed gyda phoen abdomenol am 24 awr yn gwaethygu ac yn chwydu, dolurus yn RIF ? pendics Goruchwyliwyd ar ward am 2 ddiwrnod, a rhyddhawyd - ? adenitis mesenterig
11pm sesiwn OOH, plentyn 4 oed â thwymyn drwg, chwydu a pheswch - yn wael wrth ei archwilio, dim arall Y plentyn ifanc yn amlwg yn wael â thwymyn drwg - angen goruchwyliaeth a diystyru septicaemia tanategol Nid fy nghlaf i, ond roeddwn yn gallu cael cadarnhad ei bod wedi cael ei derbyn ac yn cael profion (gwaed cxr etc.) deilliant terfynol ddim yn hysbys
10.30am claf 56 oed gyda ffêr dde wedi chwyddo, dolurus ond ddim yn boeth ? DVT   D-Dimer negyddol dim diagnosis
4.30pm dynes 74 oed gyda chwydfa coffi mâl - dim PH o symptomau GI ond wedi bod ar meloxicam ar gyfer OA ? haematemesis Roedd ganddi wlser gastrig oedd yn gwaedu - rhyddhawyd ar ddos uchel o omeprazole, angen trallwysiad 2 uned
11.30am Claf mewn cartref preswyl ag achos acíwt o ddryswch - UTI tebygol – anymataliol ac wrin drwg Angen ei derbyn oherwydd ei bod yn glaf cartref preswyl nid cartref nyrsio UTI wedi ymateb yn gyflym i wrthfiotigau, adref mewn 4 diwrnod
1pm claf 63 oed gyda ca y colyddyn metastatig - rheolaeth poen gwael ac anaemia Gofal lliniarol mewn hosbis lleol Derbyniwyd am 1 wythnos, trallwyswyd 3 uned i ddechrau, sefydlogwyd ar yrrwr chwistrell yna rhyddhawyd ar ddos uchel o MST a gwrth-emetig
1.30pm cyfarfod secsiynu gyda chlaf sydd yn hysbys iawn i mi - pwl seicotig acíwt Secsiynwyd dan y ddeddf iechyd meddwl Derbyniwyd i ysbyty - arhosiad estynedig er mwyn sefydlogi
6pm baban 8 mis oed gyda symptomau bronchiolitis - roeddwn wedi gweld y claf yma 4 diwrnod yn ôl gydag annwyd ac ni ragnodwyd Rheoli symptomau Derbyn am 2 ddiwrnod gyda bronchiolitis

A oes yna unrhyw faterion y mae’r 10 achos chod yn eu codi?

Cymerodd y 10 achos yma 16 diwrnod gwaith i’w casglu yn cynnwys un sesiwn min nos OOH (sesiwn yn y “ganolfan”). Rwyf hefyd yn nodi bod y rhan fwyaf o’r derbyniadau yn rhai hwyr y bore /cynnar yn y prynhawn - mae’n rhaid bod hynny yn rhoi straen mawr ar unedau derbyn ysbytai. Rwyf yn credu bod yr holl dderbynebau yn briodol er gwaethaf canfyddiadau negyddol mewn nifer o’r achosion. Un achos sydd yn aros yn y cof oedd y ddynes â Ca metatastig yn y coluddyn, roedd wedi colli rheolaeth ar symptomau ac wedi bod yn teimlo’n sâl am 3 diwrnod cyn iddi fy ffonio. Nid oedd eisiau creu trafferth i’r meddyg na’r nyrs gofal lliniarol oedd yn ymwneud â’i hachos.

A amlygwyd unrhyw anghenion dysgu?

Trafodwyd achos y ddynes oedd â’r boen yn ein cyfarfod tîm amlddisgyblaethol ac amlygwyd y ffaith nad oedd eisiau creu trafferth i ni - roedd wedi bod yn OK pan y’i gwelwyd 1 wythnos cyn ei derbyn a chynlluniwyd ymweliad arall ar gyfer wythnos yn ddiweddarach. Canlyniad y cyfarfod oedd nad oedd yna lawer y gellid fod wedi ei wneud oherwydd pwysleisir i’r cleifion bob amser y gallent gysylltu naill ai â’r feddygfa neu’r tîm gofal lliniarol ar unrhyw adeg. Adolygwyd y wybodaeth a roddir i gleifion gan y tîm gofal lliniarol ac mae hynny yn atgyfnerthu’r neges honno yn gadarn. Y mater arall yw’r wlser gastrig sydd o bosibl yn gysylltiedig â melocsicam - roeddwn yn deall bod hwn yn atalydd cox-2 ac felly yn fwy diogel na NSAID traddodiadol, ond pan ddarllenais am hyn gwelais bod NICE  yn cymeradwyo eu defnyddio mewn cleifion hŷn ond bod tystiolaeth  ddiweddar yn y BMJ yn bwrw amheuaeth ar hynny. Byddaf yn ystyried hyn yn fwy gofalus yn y dyfodol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau