Myfyrio ar beth ydych yn ei ddysgu - anghenion cleifion na fodlonwyd ac anghenion dysgu’r meddyg

Ffordd arall o gofnodi profiadau cleifion yw drwy PUNS a DENS (anghenion cleifion na fodlonwyd ac anghenion dysgu’r meddyg. Datblygwyd PUNs a DENs yn wreiddiol gan feddyg teulu o’r enw Richard Eve. Y broses yw hunanddadansoddi sefyllfaoedd pan na fydd claf efallai wedi derbyn y cyngor neu driniaeth optimaidd, ac o hynny, adnabod anghenion addysgol y meddyg ei hun.

Mae’r dechneg hon yn cyflawni gofynion GMC ar gyfer datblygiad seiliedig ar angen.

Mae’r enghraifft hon yn syml yn ffordd wahanol o gofnodi’r enghraifft ar y dudalen we flaenorol:-

Adnabod PUN

Gwelais blentyn 18 mis ar ymweliad cartref OOH a phoen yn yr abdomen a dolur rhydd. Pwysau eithafol gan y tad (? Alcohol) i’w anfon i ysbyty - trefnwyd hynny. Nid oedd y plentyn angen ei dderbyn ond yr amgylchiadau cymdeithasol yn wael, tad yn ymosodol iawn ac nid oedd gennyf wir ddewis.

Y PUN mewn gwirionedd oedd yr angen i dawelu’r sefyllfa a delio’n rhesymegol â’r tad ymosodol.

PUN

Y claf wedi ei anfon i’r ysbyty heb angen a’r tad ymosodol heb e dawelu.

Disgrifiwch y PUN

Sefyllfa y tu hwnt i fy rheolaeth ac efallai na ddeliwyd â hi yn effeithiol.

Cofnodi’r DEN

Archwilio fy nhechnegau o ran delio â chleifion ymosodol

Cyflawni’r DEN

Roedd y darparwr OOH yn cynnal sesiwn hanner diwrnod ar “pobl ymosodol mewn ymgynghoriad a sut mae delio â hynny”, felly mynychais. Roedd hynny yn werthfawr iawn, ac yn gatharsis yn yr ystyr fy mod yn gallu gwrando ar eraill a’u profiadau - dywedodd un meddyg teulu bod rhywun wedi ei fygwth â chyllell hyd yn oed!

Y prif beth a ddysgais oedd y teimlad nad oeddwn ar fy mhen fy hun o ran cael y math yma o brofiad, a bod pobl eraill wedi gallu tynnu eu hunain o sefyllfaoedd hyd yn oed mwy anodd.

Yn y gweithdy ystyriwyd bod anfon y plentyn i ysbyty wedi bod yn opsiwn da ar fy rhan, a bod hynny wedi rhoi fy hun a’r plentyn mewn sefyllfa ddiogel - atgyfnerthwyd pwysigrwydd hysbysu’r SHO paediatreg am y cefndir yn ogystal â chyfathrebu â meddyg teulu y cleifion. Ond, roeddwn yn synhwyro bod y ffordd yr ymdriniais ar y cychwyn gyda’r claf wedi adlewyrchu ei ddicter yn ôl arno, ac bod hynny o bosibl wedi gwaethygu’r sefyllfa. Roedd y tad wedi fy nghyfarfod wrth y drws ac wedi deud “mae fy mab angen myd i’r ysbyty ac mae angen iti ei anfon”, atebais gyda rhywbeth tebyg i “rhowch gyfle i mi ei weld i ddechrau” a osododd y naws mae’n debyg. Dysgais y byddai derbyn a dangos fy mod yn derbyn pryder y claf efallai wedi tawelu’r sefyllfa a bod defnyddio iaith y corff i “dawelu’r”  natur ymosodol yn bwysig. Yn y sefyllfa roeddwn wedi ymateb i’r natur ymosodol drwy fod yn ymosodol yn ôl.

Byddaf yn ceisio rhoi cynnig ar y technegau yma yn y dyfodol ac yn eu cofnodi pan fyddant yn codi.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau