Pennod 3 - Canser

Er bod canser yn datblygu ar lefel y celloedd, mae’n hysbys y dylanwadir arno, ymysg pethau eraill, gan eneteg, ffactorau amgylcheddol a ffordd o fyw drwy nifer o fecanweithiau biolegol rhyngweithiol. 

Erbyn hyn cydnabyddir yn eang bod ffordd o fyw eisteddog yn elfen allweddol mewn ffactorau risg nifer o ganserau.

Mae yna ddata clir ar gyfer effeithiau cadarnhaol gweithgaredd corfforol o ran atal rhai canserau ac o ran deilliannau clinigol ar ôl diagnosis.

Gweithgaredd corfforol ac ataliaeth sylfaenol

Yr awdurdod blaenllaw ar y cysylltiadau rhwng gweithgaredd corfforol fel ffactor risg annibynnol ar gyfer ataliaeth sylfaenol canser yw Prosiect Diweddaru Parhaus Cronfa Ymchwil y Byd. Mae’r dystiolaeth yma ar gyfer gweithgaredd corfforol fel yr unig ffactor risg annibynnol, mae pwysau hefyd yn ffactor risg ar gyfer rhai canserau.

Gweithgaredd corfforol cyn triniaeth: Gall ymarfer corff cyn derbyn llawdriniaeth, trwy hyfforddiant aerobig, gwrthiant neu lawr y pelfis, fod o fudd i ddioddefwyr canser trwy effeithiau ar swyddogaeth a ffitrwydd cardiofasgwlaidd a pwlmonaidd gyda thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o welliannau a ddangosir yn: 2 - 5.

  • Cyfraddau anymataliaeth mewn canser y prostad
  • Gallu cerdded ffwythiannol
  • Ffitrwydd cardioanadlol
  • Llai o arosiadau mewn ysbytai

Gweithgaredd corfforol yn ystod triniaeth: Er bod dioddefwyr canser yn aml yn teimlo'n sâl cyn neu yn ystod triniaeth ar gyfer canser, mae gweithgaredd corfforol yn helpu i gynnal galluoedd swyddogaethol a lles a: 6 - 8

  • Gwella ffitrwydd a chryfder cyhyrau yn sylweddol
  • dangos gwelliannau bychan mewn lefelau gorbryder a hunan werth
  • dangos dim gwaethygu o ran lefelau blinder a thystiolaeth bychan o welliant
  • Cynyddu mas cyhyr heb lawer o fraster
  • Gwella ffwythiant breichiau heb waethygu dim ar lymff-oedema mewn cleifion canser y fron9-10

Gweithgaredd corfforol ar ôl triniaeth: Yn aml mae swyddogaeth gorfforol yn cael ei cholli o ganlyniad i'w triniaethau canser, ond mae tystiolaeth yn dangos y gall gweithgaredd corfforol ar ôl triniaeth wella sawl agwedd: 6-8,11

  • Cynnydd mewn ffitrwydd cardiofasgwlaidd a chryfder cyhyrau
  • Llai o flinder
  • Gwelliannau mewn ansawdd bywyd, gorbryder ac iselder
  • Peth gostyngiad mewn braster corff a mwy o fas cyhyrau

Dangoswyd bod gweithgaredd corfforol yn gwella ansawdd bywyd yn ystod y cyfnod adsefydlu ac felly dylid ei annog.12 - 16

Gweithgaredd corfforol a gofal lliniarol: Er gwaethaf sylfaen dystiolaeth fach, mae astudiaethau ymyrraeth yn addawol ac yn cefnogi'r defnydd o weithgaredd corfforol yn y rhai sydd â chamau datblygedig o ganser.17-20

Mae'r buddion a ddangoswyd yn cynnwys:

  • Dirywiad araf mewn ansawdd bywyd
  • Deilliannau ffwythiannol wedi eu gwarchod (e.e. gallu i gerdded, cryfder cyhyrol)
  • Symptomau llai difrifol (dyspnoea, colli chwant bwyd)

Gweithgaredd corfforol a chyfraddau goroesi: mae nifer cynyddol o astudiaethau wedi astudio’r berthynas rhwng gweithgaredd corfforol a goroesi canser. Bu adolygiadau ac astudiaethau mewn perthynas â chanser y fron, colorectol, prostad, ofaraidd, ysgyfaint ac ymennydd. 21-29 Er bod hon yn dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o hyd, mae'r astudiaethau hyn wedi dangos perthynas wrthdro rhwng gweithgaredd corfforol a marwolaethau ymhlith pobl sy'n ymgymryd â gweithgaredd corfforol ar ôl diagnosis.

Mae’r cyfraddau lleihau risg yn amrywio yn ôl yr astudiaethau yma, o 15-67% ar gyfer marwoldeb canserau penodol a 18-67% ar gyfer marwoldeb pob achos.24 Ond, roedd y dos o weithgaredd corfforol er mwyn lleihau marwoldeb canser yn amrywio rhwng yr astudiaethau o 9 MET-hr (amser cyfatebol metabolig) i 27 MET-hr, sydd yn cyfateb i tua 180 i 500 munud yr wythnos yn ôl eu trefn, o weithgaredd corfforol dwysedd cymedrol. Awgrymir nad yw’r cysylltiad rhwng gweithgaredd corfforol a marwoldeb canserau penodol yn unffurf, a gall amrywio yn ôl swm y gweithgaredd corfforol a rhwng gwahanol fathau o ganser. 24

Mae canllawiau NICE NG101 (2018) 30 a CG81 (2014) 31 yn ategu'r cyngor i'r rheini â chanser y fron cynnar ac uwch, sef y dylem ddarparu’r wybodaeth a mynediad at raglen ymarfer corff er mwyn helpu gyda blinder cysylltiedig â chanser, oedema lymff ac ansawdd bywyd.

Ystyriaethau diogelwch yn ystod ac ar ôl triniaeth32

Er mwyn osgoi gwaethygu symptomau Er mwyn atal codymau
  • Addasu ymarfer corff
  • Dechrau’n gymedrol a chynyddu’n raddol
  • Ymarfer ymarferion cydbwysedd
  • Ymarfer ymarferion cryfder
Yn ystod cyfnod atal imiwnedd Ar gyfer pobl â lymphoedema
  • osgoi llwyth/dwysedd uchel
  • Monitro gwaed am niwtropenia
  • Cynyddu’n raddol
  • Gwisgo rhwymynnau cywasgu

Gwrtharwyddion33

Mewn clefyd neu driniaeth, osgoi gweithgareddau sy'n:

  • Ei gwneud yn ofynnol i bobl â Hb <8.0g / dl isel ddwysedd uchel
  • Golygu risg uwch ar gyfer haint bacteriol mewn pobl sydd â wbc isel <0.5 x 109 / l
  • Yn cynnwys chwaraeon gwrthdaro os oes plateletau < 50 x 10 5

Neges allweddol: Mae ymarfer corff yn rhan bwysig o unrhyw gynllun triniaeth i gleifion â chanser o bob cam. Gall wella eu hansawdd bywyd, cyfrannu at y broses o reoli eu clefyd, lliniaru yn erbyn cydafiacheddau a chymhlethdodau ac arwain at ddeilliannau triniaeth gwell.

Ystyriwch:

  1. Archwilio eich cleifion canser i weld a gynigiwyd unrhyw gyngor ar weithgaredd corfforol iddynt.
  2. Wrth ddiagnosio, rhoi cyngor ynghylch pwysigrwydd y math yma o ffordd o fyw er eu lles eu hunain.

Cyfeirio:

At adnoddau cymorth Macmillan yma

Buddion i weithwyr iechyd proffesiynol:

Llai o gostau cyffuriau, apwyntiadau ac ymweliadau.

Diweddarwyd Medi 2019

Pennod 3 - Canser Taflen ffeithiau - lawrlwytho

Bellach yn rhan o raglen glinigol yr RCGP ar weithgaredd corfforol a ffordd o fyw

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

Mae'r taflenni ffeithiau yma wedi eu cymeradwyo gan Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP), Cymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASEM) a’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN).

     


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau