Pennod 15 – Helpu pobl i newid eu hymddygiad iechyd

Drwy ystyried pob un o’r prif ddamcaniaethau am newid ymddygiad, mae gwyddonwyr ymddygiad wedi canfod bod angen sicrhau tair elfen ryngweithiol i gymell pobl i newid eu hymddygiad iechyd: Cymhelliant, Gallu a Chyfle 1.

CYMHELLIANT – yr awydd i newid

GALLU –  y gallu i newid (yn gorfforol, yn feddyliol, yn gymdeithasol, neu fel arall)

CYFLEOEDD – cael cyfle realistig i newid

 

Mae llawer o’n gwaith gyda phobl mewn lleoliadau clinigol yn ymwneud yn benodol â chymhelliant a gallu ac mae’r bennod hon yn darparu cyngor sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y gwaith hwn. Ond mae hefyd yn bwysig cydnabod bod ffactorau eraill yn gallu dylanwadu ar y tebygolrwydd o newid ymddygiad. Gall hyn fod yn bwysig iawn wrth geisio deall pam nad yw ein hymdrechion i helpu yn llwyddo bob amser a pham mae pobl yn dangos cymhelliant ond yn peidio â newid, er hynny. Er enghraifft, dangoswyd ei bod yn fwy anodd i bobl newid eu hymddygiad iechyd os ydynt o dan anfantais gymdeithasol. Mae’n bosibl mai’r rheswm am hyn yw eu bod yn cyfeirio eu hadnoddau (corfforol a seicolegol) at flaenoriaethau eraill sy’n galw am sylw ar y pryd, gan fod llai o gefnogaeth gymdeithasol i newid os ydynt yn byw mewn cymunedau lle mae ymddygiad iechyd gwaeth gan y bobl o’u cwmpas. Bydd ein ffordd o weithio gyda phobl i’w helpu i ymgymryd â gweithgarwch corfforol yn fwy effeithiol os gallwn ddangos empathi wrth iddynt wynebu rhwystrau i newid, ac os gallwn ddarparu cyngor a chymorth mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y person.

Mae’r bennod hon yn egluro sut y gallwn helpu pobl i gryfhau eu cymhelliant a’u gallu i ymgymryd â mwy o weithgarwch corfforol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau