Pennod 4 - Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd Cardiofasgwlaidd

Clefyd y galon Ischaemig

Ataliaeth sylfaenol - Mae yna berthynas  wrthdro amlwg rhwng

gweithgaredd corfforol a chlefyd cardiofasgwlaidd (CVD) sydd yn ymateb i ddos, ac mae’r buddion mwyaf yn digwydd wth newid o ddim gweithgaredd i lefelau isel o weithgaredd. Mae buddion eraill yn digwydd gyda lefelau uwch o weithgaredd. Mae’r gostyngiad mewn marwoldeb cardiofasgwlar yn tua 20-35% yn dibynnu ar lefel y ffitrwydd corfforol.2

Mae mecanweithiau sydd yn cyfrannu at yr effaith yma o ganlyniad i ymyriadau ymarfer corff yn lluosog:3 - 5

Effeithiau cardiofasgwlaidd uniongyrchol ar y galon

  • Curiad calon is wrth orffwys ac yn ystod ymarfer corff
  • Pwysau gwaed is wrth orffwys ac yn ystod ymarfer corff
  • Llai o alw am ocsigen
  • Cynnydd mewn cyfaint plasma
  • Cynnydd mewn cyfaint strôc
  • Cynnydd mewn cyflenwad ocsigen myocardiol
  • Mwy sefydlogrwydd trydanol crebychiad myocardiol
  • Gwell ffwythiant endotheliol fasgwlaidd
  • Llai o geulo gwaed

Effeithiau metabolig

  • Lipidau dwysedd uchel cynyddol
  • Llai o golesterol dwysedd isel niweidiol
  • Gwell sensitifrwydd inswlin

Mae Canllawiau NICE CG 181 ar glefyd cardiofasgwlaidd: asesu risg a lleihau, yn cynnwys addasu lipid yn argymell: Newidiadau i ffordd o fyw ar gyfer ataliaeth (CVD) sylfaenol ac eilaidd

Cynghori pobl sydd yn wynebu risg uchel o CVD neu  sydd â CVD i wneud y canlynol bob wythnos;

  • O leiaf 150 munud o weithgaredd aerobig dwysedd cymedrol NEU
  • 75 munud o weithgaredd aerobig dwysedd egnïol neu gymysgedd o weithgaredd cymedrol ac egnïol yn unol â chanllawiau cenedlaethol ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol

Hefyd;

  • Cynghori pobl i wneud gweithgareddau cryfhau cyhyrau ar 2 ddiwrnod neu ragor yr wythnos sydd yn gweithio’r holl brif grwpiau cyhyrau (coesau, cluniau, cefn, abdomen, y frest, ysgwyddau a breichiau) yn unol â chanllawiau cenedlaethol ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol
  • Annog pobl nad ydynt yn gallu perfformio gweithgaredd corfforol cymedrol-egnïol oherwydd cydafiachedd, cyflyrau meddygol neu amgylchiadau personol i ymarfer corff i’r graddau sydd yn ddiogel iddynt
  • Dylai cyngor ar weithgaredd corfforol ystyried anghenion, dewisiadau ac amgylchiadau’r person. Cytuno ar amcanion a darparu gwybodaeth ysgrifenedig i’r person am fuddion gweithgaredd a chyfleoedd lleol i fod yn actif.

Ataliaeth eilaidd: mewn clefyd y galon sefydledig, mae angen ymarfer corff addasedig rheolaidd er mwyn lleihau marwoldeb, a dangoswyd bod gweithgaredd corfforol rheolaidd yn lleihau marwoldeb pob achos o 25-30%. 7 Mae’r dystiolaeth ynghylch adsefydlu cardiaidd os y’i defnyddir, yn gysylltiedig â gostyngiad mewn morbidrwydd, marwoldeb cardiaidd (26%), ail dderbyniadau ysbytai (18%) ac ansawdd bywyd gwell cysylltiedig â iechyd. 8, 9 Er hynny, nid yw 50% o oedolion yn y DU ar ôl iddynt gael digwyddiad cardiaidd yn mynychu rhaglenni ymarfer corff adsefydlu cardiaidd.10

Mae canllawiau NICE CG172 ar gnawdnychiad myocardiol: adsefydlu cardiaidd ac atal clefyd cardiofasgwlar 11 yn argymell:

  • Cynnig rhaglenni adsefydlu cardiaidd a ddyluniwyd i ysgogi pobl i fynychu a chwblhau y rhaglen. Egluro buddion mynychu
  • Dylid cynghori cleifion i wneud gweithgaredd corfforol rheolaidd digonol er mwyn cynyddu y gallu i ymarfer corff
  • Dylid eu cynghori i fod yn gorfforol actif am 20-30 munud y dydd pan fônt yn fyr eu gwynt
  • Dylid cynghori cleifion nad ydynt yn  gwneud hynny i gynyddu eu gweithgaredd mewn ffordd raddol fesul cam, gan amcanu at gynyddu eu gallu i ymarfer corff.
  • Dylent ddechrau ar lefel sydd yn gyfforddus, a chynyddu hyd a dwyster wrth i’w ffitrwydd wella
  • Gellir gwella buddion ymarfer corff drwy roi cyngor wedi ei deilwra gan weithiwr proffesiynol cymwys ac addas
Gwrtharwyddion: Clefyd y galon: Cnawdnychiad myocardiol acíwt neu angina ansefydlog am o leiaf 5 diwrnod, dyspnoea wrth orffwys, pericarditis, myocarditis, endocarditis, stenosis aortig symptomatig. 12, 13

Mwy i’w ddarllen yma

Methiant y galon

Mae treialon yn ategu’r dystiolaeth o effaith fuddiol hyfforddiant gweithgaredd corfforol mewn cleifion â methiant y galon sefydlog yn nosbarth I, II a III Cymdeithas y Galon Efrog Newydd (NYHA).12, 14 - 16

Er nad oes yna unrhyw dystiolaeth o gynnydd neu ostyngiad mewn marwoldeb pob achos yn y tymor byr (hyd at 12 wythnos), dangosodd meta ddadansoddiad bod buddion ymarfer corff yn:15, 17, 18

  • Cynyddu uchafswm defnydd ocsigen yn ffisiolegol (uchafswm VO2)
  • Cynyddu cyflymder a goddefiant cerdded ffwythiannol
  • Lleihau derbyniadau i ysbyty yn arwyddocaol
  • Gwella ansawdd bywyd.

Hefyd, mae yna diweddiad newydd tuag at leihau marwoldeb mewn treialon sydd yn hirach na 1 flwyddyn .15

Mae canllawiau NICE NG10619  ar fethiant y galon cronig yn argymell;

  • Cynnig rhaglen adsefydlu cardiaidd seiliedig ar ymarfer corff wedi ei bersonoli i bobl, oni bai fod eu cyflwr yn ansefydlog.
Gwrtharwyddion: Methiant y galon afreolus neu NHHA dosbarth 1V. 14

Mwy i’w ddarllen yma  

Pwysedd gwaed uchel

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi perthynas wrthdro rhwng gweithgaredd corfforol a mynychder pwysedd gwaed uchel, a bod gan unigolion anweithgar sydd ddim yn actif a ffit risg sydd yn 30-50% yn uwch o gael pwysedd gwaed uchel. 20 Ar wahân i ataliaeth, mae hefyd yn effeithiol fel triniaeth gyda gostyngiadau perthnasol clinigol mewn pwysedd gwaed.

  • Mae effaith acíwt gweithgaredd corfforol yn achosi gostyngiad mewn pwysedd gwaed sydd yn para 4-10 awr, ond gall bara am hyd at 22 awr; felly gall gweithgaredd dyddiol arwain at welliant clinigol sylweddol 2, 21
  • Er mwyn cael effaith hirdymor, mae angen ymarfer corff yn rheolaidd.
  • Mae’n ymddangos bod yr effaith ar ei fwyaf mewn rhai sydd â phwysau gwaed uchel sefydledig.
  • Mae data adolygiad yn ategu y gall gweithgaredd corfforol, ynghyd â phob math o ymarfer corff, mewn cleifion â phwysau gwaed uchel, ddangos gostyngiad o 3-10 mmHg a 2-6 mmHg mewn pwysedd gwaed systolig a diastolig yn ôl eu trefn22
  • Y prif argymhelliad yw hyfforddiant ffitrwydd aerobig, ond mae gwrthiant deinamig a gwrthiant isometrig o ddwysedd cymedrol yn fuddiol hefyd 22, 23,24
  • Mae gostyngiadau o’r maint yma yn golygu goblygiadau clinigol pwysig.
    • Maent o’r un maint â meddyginiaeth gonfensiynol
    • Mae gostyngiad o 2mmHg mewn pwysedd gwaed systolig yn gysylltiedig â gostyngiad o 10% a 7% o ran risg o strôc a chlefyd y galon coronaidd yn ôl eu trefn25

Mae canllawiau NICE CG12726  ar reoli pwysedd gwaed uchel sylfaenol yn glinigol mewn oedolion yn argymell cynnig canllawiau priodol neu ddeunyddiau awdio-weledol er mwyn hyrwyddo newidiadau i ffordd o fyw. 

Gwrtharwyddion: Dylai pwysedd gwaed systolig >180 neu ddiastolig >100 neu uwch dderbyn meddyginiaeth cyn gweithgaredd corfforol rheolaidd, 13 gan gyfyngu’n benodol ar godi pwysau trwm all greu pwyseddau arbennig o uchel. 24

Mwy i’w ddarllen yma  

Ffarmacoleg v gweithgaredd corfforol

Mae yna ddigon o ddata treialon rheoledig ar hap sydd yn dangos gostyngiad mewn risg o strôc mewn rhai sydd yn cymryd meddyginiaeth gwrth bwysedd uchel. 27 Mae yna lai o dystiolaeth eu bod yn  lleihau’n sylweddol y risg o farwoldeb pob achos a chnawdnychiad myocardiol, ac eithrio diwretigion thiasid ac atalyddion ensym trosi angiotensin.28  Ond mae yna dystiolaeth cohort rhagolygol cryf y gall gweithgaredd corfforol rheolaidd leihau’r risg o farwoldeb pob achos  a marwoldeb cardiofasgwlaidd.29

Mae’r gymhariaeth mewn perthynas â’r gostyngiad mewn risg marwoldeb a morbidrwydd rhwng meddyginiaeth gwrth bwysedd uchel hirdymor a gweithgaredd corfforol yn cael ei nodi isod, ac mae’n atgyfnerthu’r angen am weithgaredd corfforol fel triniaeth ar gyfer cleifion â phwysedd gwaed uchel.28

Tabl 1: Gostyngiadau mewn risg marwoldeb a morbidrwydd gyda meddyginiaeth gwrth bwysedd uchel hirdymor a gweithgaredd corfforol. 28

Ymyrraeth Marwoldeb pob achos Marwoldeb cardiofasgwlaidd Cnawdnychiad Myocardiol
ACE-I * 10% 19% NR
Thiazide * 9% NR 22%
β-blocker * 6% (NS) NR 8% (NS)
Ca2+atalydd sianel *

-6% (NS)

NR

29% (NS)

Regular physical activity (self-reported) # 29% 30% NR
Gweithgaredd Corfforol rheolaidd (profion ffitrwydd) # 41% 57% NR

NS: Ddim yn arwyddocaol; NR: Ni adroddwyd. *: Treialon rheoli ar hap. #: Astudiaethau cohort rhagolygol

Lipidau

Mae Hypercholesterolaemia ynysig a dyslipidaemia cymysg gyda cholesterol Lipoprotein Dwysedd Isel (LDL) cholesterol, triglyceridau uchel a cholesterol Lipoprotein Dwysedd Uchel (HDL) yn gysylltiedig a risg uwch o atherosclerosis.

Dangoswyd bod hyfforddiant ffitrwydd aerobig yn fuddiol o ran lleihau triglyceridau30, 31 a dyrchafu’r colesterol HDL gwarchodol,32 gyda pheth effaith hefyd o ran gostwng colesterol LDL.30

Cyflawnir y canlyniadau gorau gydag ymarfer corff aerobig dwysedd cymedrol dyddiol neu ymarfer corff egnïol ychydig uwch na’r canllawiau presennol yn y DU, sydd yn defnyddio 1200-2000 kcal yr wythnos sydd yn cyfateb i 360 munud o weithgaredd cymedrol bob wythnos. Mae’r llwyth gwaith yma yn gysylltiedig â chynnydd o 5-8% mewn colesterol HDL a gostyngiad mewn trigyleridau o tua 10%.34  Dylai o hyd fod yn ategol i ymyriadau eraill.

Mwy i’w ddarllen yma  

Clefyd rhedwelïol perifferol

Mae’r ffactorau risg ar gyfer clefyd rhedwelïol perifferol (PAD) yn debyg i glefyd cardiofasgwlaidd ac mae’n farciwr pwysig o glefyd cardiofasgwlaidd cyffredinol, oherwydd bod gan tua 65% o’r cleifion sydd â PAD glefyd serebral neu redwelïol coronaidd clinigol perthnasol hefyd. 34

Mae yna gonsensws cryf bod ymarfer corfforol ar ffurf cerdded yn bwysig o ran rheoli clefyd rhedwelïol perifferol. 34-37. Mae hynny yn bwysig oherwydd bod y clefyd yn ymateb yn wael i ffarmacotherapi. 34 Mae adolygiadau o feta-ddadansoddiadau yn casglu bod ymarfer corfforol wedi cynyddu’r pellter cerdded nes bod poen yn dechrau o 89.29m, a’r uchafswm pellter cerdded o 109.99m. 36

Dylai ymarfer corff bara am oes, gyda gwelliannau disgwyliedig o ran pellter cerdded, gwell ansawdd bywyd a llai o boen. Gall hefyd arafu cynnydd clefyd atheroslerotig.

Mae canllawiau NICE CG147 ar glefyd rhedwelïol perifferol y coesau yn argymell:38

  • Cynnig rhaglen ymarfer corff dan oruchwyliaeth i’r holl gleifion sydd â chloffni ysbeidiol.
  • Ystyried darparu rhaglen ymarfer corff dan oruchwyliaeth sydd yn cynnwys
    • 2 awr o ymarfer corff dan oruchwyliaeth bob wythnos am gyfnod o dri mis
    • Annog pobl i ymarfer corff at bwynt poen macsimal

Mwy i’w ddarllen yma 

Strôc

Ataliaeth sylfaenol: mae buddion gweithgaredd corfforol o ran atal strôc wedi gael ei ddogfennu’n dda.2, 12, 39, 40, 41  Mae ffactorau risg ar gyfer strôc yn cynnwys pwysedd gwaed uchel, diabetes math 2 a hyperlipidaemia, ac effeithir yn fuddiol ar bob un gan weithgaredd corfforol. Nid yw’n syndod bod yna berthynas wrthdro amlwg rhwng gweithgaredd a risg o strôc. Hefyd mae’n amlwg bod hynny yn ddibynnol ar ddos ac ar swm y gweithgaredd, a’r effaith yw gostyngiad o 20-35% mewn risg. 42

Ataliaeth eilaidd: mae proffil clefyd fasgwlaidd niweidiol nifer o gleifion strôc yn parhau ar ôl y strôc gyntaf a dylid parhau i annog gweithgaredd corfforol. Mae metaddadansoddiad wedi dangos bod ymarfer corff yn lleihau marwoldeb ar ôl strôc, ac o’u cymharu yn erbyn ei gilydd, dangoswyd bod ymyriadau ymarfer corff wedi bod yn fwy effeithiol na chyffuriau gwrthgeulo a gwrthplateletau.43

Triniaeth: mae yna amrywiaeth mawr mewn lefel anabledd yn dilyn strôc. Ar ôl sefydlogi, gall rhaglen ymarfer ffitrwydd aerobig wedi ei phersonoli gynyddu’r gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd. Gall hynny ysgogi hunanhyder cleifion i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol eu hunain. 44  Yn yr un modd, dangoswyd bod cryfhau cyhyrau’r coesau yn cynyddu ffwythiant, a thrwy hynny yn gwella ansawdd bywyd.41

Mae Canllawiau NICE CG16245 ar adsefydlu ar ôl strôc yn argymell:

Hyfforddiant cryfder:

  • Ystyriwch hyfforddiant cryfder ar gyfer pobl â gwendid cyhyrau ar ôl strôc.
  • Dylech gynnwys meithrin cryfder yn gynyddol drwy gynyddu ailadrodd gweithgareddau pwysau’r corff (er enghraifft, ailadrodd eistedd-i-sefyll), pwysau (er enghraifft, ymarferion gwrthiant cynyddol), neu ymarferion gwrthiant ar beiriannau megis beiciau llonydd.

Hyfforddiant ffitrwydd:

  • Anogwch bobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol ar ôl strôc.
  • Dylid dechrau hyfforddiant cardioanadlol a gwrthiant ar gyfer pobl sydd wedi cael strôc gyda ffisiotherapydd.
  • Amcanwch i’r person barhau â’r rhaglen yn annibynnol yn seiliedig ar gyfarwyddiadau’r ffisiotherapydd.
  • Dylai ffisiotherapyddion gyflenwi unrhyw wybodaeth angenrheidiol am ymyriadau ac addasiadau, fel pan fo person yn defnyddio darparwr ymarfer corff, gall y darparwr sicrhau bod eu rhaglen yn ddiogel ac wedi ei theilwra i’w hamcanion a nodau.

Therapïau cerdded:

  • Cynigiwch hyfforddiant cerdded i bobl ar ôl strôc sydd yn gallu cerdded, gyda neu heb gymorth, er mwyn eu helpu i feithrin dygnwch a symud yn gyflymach.
  • Ystyriwch hyfforddiant melin gerdded fel un o’r opsiynau hyfforddiant cerdded ar gyfer pobl ar  ôl strôc yn cynnwys rhai sydd angen cynnal y corff.

Mwy i’w ddarllen yma  

Neges allweddol: Mae ymarfer corff yn rhan hanfodol o unrhyw gynllun triniaeth i gleifion â chlefyd cardiofasgwlaidd sefydlog. Gall wella eu hansawdd bywyd, gwella’r broses o reoli eu cyflwr, lleihau’r risg o ddigwyddiadau cardiaidd ac arwain at lai o dderbyniadau ysbytai a rhagnodiadau cyffuriau.

Ystyriwch:

  1. Archwilio eich cleifion clefyd y galon Ischaemig i weld a gynigiwyd rhaglen adsefydlu cardiaidd neu gynllun atgyfeirio ymarfer corff iddynt.
  2. Archwilio a monitro eich cleifion clefyd y galon Ischaemig a chleifion â phwysedd gwaed uchel er mwyn penderfynu eu lefelau gweithgaredd corfforol presennol.
  3. Wrth ddiagnosio ac adolygu, rhoi cyngor ynghylch pwysigrwydd y math yma o ffordd o fyw er eu lles eu hunain.

Buddion i feddygon teulu a thimau: Llai o gostau cyffuriau, llai o dderbyniadau, apwyntiadau ac ymweliadau.

Cyfeirio at adnoddau cymorth megis y rhai a geir gan Sefydliad Prydeinig y Galon a Elwa o weithgaredd. 

Diweddarwyd Medi 2019

Pennod 4 - Iechyd Anadlol Cardio- Taflen ffeithiau- lawrlwytho

Bellach yn rhan o raglen glinigol yr RCGP ar weithgaredd corfforol a ffordd o fyw

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

Mae'r taflenni ffeithiau yma wedi eu cymeradwyo gan Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP), Cymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BAsem) a’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN).

     


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau