Ymyriadau seicolegol ar gyfer OA

Y prif ymyrraeth seicolegol ar gyfer OA yw therapi ymddygiad gwybyddol. Mae hynny fel arfer yn cynnwys tri cham

  1. Cam addysgol pan fo’r claf yn dysgu am fodel bioseicogymdeithsaol poen.
  2. Cam hyfforddi sgiliau pan fo’r cleifion yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau ymdopi ymddygiadol gwybyddol amrywiol megis hyfforddiant ymlacio, cyflymder gweithgaredd, cynllunio gweithgareddau dymunol, technegau delweddu, strategaethau symud meddwl, ailstrwythuro gwybyddol, datrys problemau a phennu amcanion.
  3. Cam cymhwyso pan fo cleifion yn ymarfer ac yn cymhwyso eu sgiliau newydd mewn sefyllfaoedd bywyd real.

Mae mathau eraill o driniaethau yn cynnwys

  • Datgeliad emosiynol
  • Hypnosis
  • Ymyriadau Seicoddeinamig
  • Therapi derbyn ac ymrwymo

Adolygodd meta ddadansoddiad (Dixon et al 2007) 27 o dreialon rheoledig ar hap oedd yn cronni gwahanol ymyriadau seicogymdeithasol gwahanol, heb wahanu therapi ymddygiadol gwybyddol oedd yn 70% o’r ymyriadau ar gyfer cleifion gyda phoen yn y cluniau a phengliniau. Roedd gan y canlyniadau ar gyfer gwella poen a gwella ffwythiant ar ôl 2-12 mis NNTau o 10 a 12 yn ôl eu trefn.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau