Hybu’r Cymhelliant i Newid

Mae cyngor ar hybu iechyd yn cael ei gynnwys mewn nifer mawr o ymgyngoriadau gofal sylfaenol, boed hwnnw’n gyngor am ymarfer corff, colli pwysau, ysmygu neu alcohol. Bydd anawsterau’n codi’n aml yn yr ymgyngoriadau hyn, gan fod nifer mawr o gleifion yn amharod i ymateb i gyfarwyddiadau neu i wrando ar rywun yn dweud ‘beth sy’n dda iddyn nhw’. Dangoswyd bod mwy o lwyddiant i’w gael wrth hybu iechyd drwy droi oddi wrth yr arddull ymgynghori uniongyrchol hwn a mabwysiadu arddull mwy awgrymog sy’n hybu cymhelliant y claf.

Datblygwyd y dull cyf-weld ysgogiadol yn wreiddiol ar gyfer cwnsela ar gaethiwed i sylweddau, ond mae wedi’i ddefnyddio hefyd i hyrwyddo newid ymddygiad mewn llawer o fathau o leoliadau gofal iechyd, fel rhai ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu, colli pwysau a hybu gweithgarwch corfforol.

Mae’r dystiolaeth am ei effeithiolrwydd yn cynyddu,2,3 ac mae 80% o 72 o astudiaethau wedi canfod bod dulliau cyf-weld ysgogiadol yn rhoi gwell canlyniadau na dulliau cynghori traddodiadol.4 Dangoswyd bod hyn yn gysylltiedig â dull mwy parchus a llai gwrthwynebol o ymgynghori – mae hyn yn fwy derbyniol o safbwynt proffesiynol ac mae’n sicr o fod yn fwy dymunol i feddygon ac i’w cleifion.

Cyf-weld Ysgogiadol gan yr Athro S Rollnick

Mae ymgynghoriad sy’n dibynnu ar gyf-weld ysgogiadol yn cynnwys un nodwedd gryf sy’n disodli pob un arall: yn lle mabwysiadu safbwynt yr arbenigwr a defnyddio arddull gyfarwyddol i berswadio’r claf ynghylch pam neu sut y gallai wneud mwy o ymarfer corff, byddwch yn mabwysiadu arddull awgrymog. Mae’n broses fwy cydweithredol lle byddwch yn helpu cleifion i ddweud pam a sut maen nhw am wneud mwy o ymarfer corff. Byddwch yn strwythuro’r ymgynghoriad ac yn darparu gwybodaeth (ar ôl cael caniatâd) ond y rhan fwyaf o’r amser byddwch yn ysgogi’r claf i fynegi ei gymhelliant ei hun i newid. Caiff hyn ei fynegi’n aml ar ffurf ‘sôn am newid’.4 Po fwyaf o sôn am newid y gallwch ei gael gan y claf, mwyaf tebygol yw hi y bydd y canlyniad yn dda. Mae tystiolaeth ar gael bellach sy’n gefnogol i’r pwyslais hwn ar yr iaith y mae’r claf yn ei defnyddio.5

Un peth a all fod o gymorth yw’r fframwaith ar gyfer cyf-weld ysgogiadol6 a ddatblygwyd yn ddiweddar. Mae’n disgrifio pedair proses mewn sgwrs adeiladol am newid ymddygiad:

Ni fydd y rhain yn digwydd yn yr un drefn bob amser ond dyma’r sail resymegol: y cam cyntaf yw ymgysylltu â’r claf a chytuno ar ffocws y sgwrs; y brif dasg wedyn yw ysgogi cymhelliant y claf i newid, a chynllunio ar gyfer hynny wedyn os yw’r claf yn barod i wneud hyn. Mae’r prosesau hyn wedi’u dangos yn yr enghraifft isod, ochr yn ochr â sgiliau allweddol eraill.

Er ei bod yn bosibl y bydd angen mwy o amser i gynnal cyfweliad ysgogiadol llawn na’r hyn sydd ar gael mewn ymgynghoriad safonol, gellir sicrhau canlyniadau llesol tebyg wrth fabwysiadu’r arddull awgrymog yn ystod rhyngweithio byr.

Enghraifft o Ddeialog Cyf-weld Ysgogiadol. Gan yr Athro S Rollnick

Mae’r enghraifft hon wedi’i seilio ar ymgynghoriad dychmygol rhwng dyn 51 mlwydd oed a’i Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol (GGIP). Mae’r dyn dros ei bwysau, gyda phwysedd gwaed uchel ffiniol, ac mae’n colli ei wynt wrth gerdded. Mae’r rhain yn effeithiau eilaidd i ffitrwydd cardiofasgwlaidd gwael a swydd lle mae’n eisteddog. Bydd yn mynd i’r gwaith ar y bws ac mae’n gweithio ar drydydd llawr y swyddfa. 

Meddyg:  Iawn felly, dyna ni wedi penderfynu ar y tabledi i chi, a nawr rydw i am ofyn a yw’n iawn gennych chi os byddwn ni’n treulio ychydig o funudau’n siarad am rywbeth hollol wahanol….. Ydy hynny’n iawn? (Mae gofyn am ganiatâd yn help mawr)

Claf: Ie iawn, beth rydych chi eisiau siarad amdano?

Mg:  Mae’n ymwneud ag ymarfer corff. Fyddai’n iawn gennych chi os byddwn ni’n cael sgwrs am hynny os bydda i’n addo peidio â phregethu wrthych chi am hynny?

Cf: Ie iawn, ar yr amod eich bod chi’n cadw’r addewid hwnnw (chwerthin). (Mae’r ffocws yn glir. Nid yw’r ymgysylltu’n gryf eto.)

Mg:  Felly yn lle fy mod i’n sôn amdano, fyddech chi’n fodlon gwneud?  Allech chi ddweud wrthyf i sut rydych chi’n teimlo am wneud mwy o ymarfer corff? 

Cf: Mae’n gas gen i’n syniad a dweud y gwir wrthych chi.

Mg:   Dydych chi ddim wedi’ch perswadio am hynny (Datganiad myfyriol gan wrandäwr yw hwnnw, nid cwestiwn)

Cf:  Wel, rydw i’n gwybod y byddai’n helpu fy iechyd (siarad am newid), ond mae’n ormod o ymdrech a dweud y gwir.

Mg:  Rydych chi’n gwneud eithaf dipyn bob diwrnod, ac mae’n edrych yn debyg nad oes yna le i gynnwys ymarfer corff ar ben hynny (Datganiad myfyriol arall gan wrandäwr)

Cf:  Ie, rydych chi yn llygad eich lle. Ddim eistedd yn gwneud dim drwy’r dydd fydda i a dyw meddwl am fynd i’r gampfa ddim yn fy siwtio i.

Mg:   Dyw mynd i’r gampfa ddim yn eich siwtio, rydych chi’n ddigon prysur ac eto rydych chi’n gwybod y byddai’n dda i’ch iechyd i chi gael mwy o ymarfer corff. Ydw i’n iawn wrth ddweud hynny? (Crynodeb sydd hefyd yn cynnwys siarad am newid)

Cf: Rydych chi wedi taro’r hoelen ar ei phen. (Mae’r ymgysylltu’n well o lawer, o ganlyniad i wrando ac wedyn crynhoi).

Mg: Ga i ofyn i chi pa fanteision rydych chi’n eu gweld mewn cynyddu’r ymarfer corff yn araf deg a fesul tipyn? (Cwestiwn sy’n caniatáu i’r Meddyg ddechrau ysgogi siarad am newid)

Cf: Fi?  Wel, os oedd e’n araf deg, a doeddwn i ddim yn gorfod mynd yn wirion fel y byddwn i yn y gampfa, fe allai fy helpu (siarad am newid).

Mg: Byddai’n eich helpu i deimlo’n iachach (Datganiad gan wrandäwr eto, i adlewyrchu’r siarad am newid, ac mae hefyd yn ffordd i ddyfalu beth fyddai’n helpu)

Cf: Mewn ffordd, ond o leiaf y byddwn i’n gallu gwneud lle iddo, ac fe allwn i lwyddo, a gallai hynny fod yn deimlad braf. (Mwy o siarad am newid)

Mg:  Am nad ydych chi am gymryd rhywbeth mawr ymlaen fel mynd i’r gampfa. Mae rhywbeth bach yn eich siwtio’n well ar y dechrau. (Yn myfyrio eto, yn ceisio deall sut mae’n teimlo go iawn)

Cf: Os penderfyna i wneud hynny a dydw i ddim wedi gwneud hynny eto. (Y Claf yn cymryd cam yn ôl)

Mg:  Dydych chi ddim am gael eich gwthio i wneud hyn (Nid yw’r Meddyg yn ceisio ennill y ddadl na bod yn glyfar – mae’n defnyddio datganiad gwrandäwr eto)

Cf: Yn union, ond gallai fod yn werth meddwl amdano. Diolch am beidio â phregethu (chwerthin)

Mg: Y Meddyg yn crynhoi teimladau’r Claf ac yn cadw’r drws yn agored at y tro nesaf.

___________________________________________________________________________

 

        Chwe wythnos wedyn mae’r Claf yn dychwelyd i gael prawf arall ar ei bwysedd gwaed ffiniol.

 

Mg: Wel, diolch am ddod yn ôl eto. Fe welais i chi chwe wythnos yn ôl, ydy hynny’n iawn?

Cf: Ydy, gwnaethoch chi ofyn i mi ddod yn ôl i fesur y pwysedd gwaed.

Mg: (Y Meddyg yn mesur y pwysedd gwaed) Wel, mae braidd yn uchel o hyd, felly gallen ni ofyn nawr beth fydd yn eich helpu i’w dynnu i lawr a pheidio â gadael iddo fod yn achos pryder yn y dyfodol?

Cf: Wel, rydw i’n sicr nad ydw i am gael rhagor o’r tabledi hynny at bwysedd gwaed eto, os yw hynny’n bosibl, Doctor.

Mg: Siŵr iawn, mae hynny’n iawn am y tro. Alla i godi mater yr ymarfer corff eto, os bydda i’n addo peidio â phregethu?

Cf: Gwnaethoch chi ddweud hynny wrthyf i’r tro diwethaf ond, digon teg, wnaethoch chi ddim pregethu, felly mae hynny’n iawn (chwerthin)

Mg: Rydw i’n addo eto!

Cf: Rydw i’n eich coelio eto, ond beth nesa?

Mg: Dyma fyddwn i’n ei ofyn: a oes rhyw gamau bach syml y gallwch chi eu cymryd i gynnwys ychydig bach mwy o ymarfer corff yn eich bywyd pob dydd?

Cf: Rydw i’n falch nad ydych chi’n sôn am y gampfa eto.

Mg: Siŵr iawn, mae hynny’n gam rhy fawr i chi (gwrando’n fyfyriol)

Cf: Fydda i ddim yn gwneud dim byd mawr, mae bywyd yn ddigon prysur i mi fel y mae.

Mg: Fe allai pethau bach fod yn bosibl (gwrando’n fyfyriol eto – dyfalu beth allai weithio)

Cf: Gallai, o bosibl, ond dydw i ddim yn siŵr beth rydych chi’n ei feddwl wrth sôn am bethau bach?

Mg: Mae’n cyflwyno nifer o opsiynau, nid un syniad, gyda’r bwriad o gymell y Claf i ddewis, fel hyn: Felly mae yna nifer o bosibiliadau. Chi sy’n gwybod orau beth allai weithio i chi. (Mae cadarnhau ymreolaeth yn agwedd hanfodol ar ymgynghori medrus am newid ymddygiad).

Cf: Wel, o’r holl bethau hynny rydych chi’n sôn amdanyn nhw, dim ond dau sy’n gwneud synnwyr i mi: cerdded i fyny’r grisiau yn hytrach na mynd yn y lifft a dod oddi ar y bws ddau stop cyn cyrraedd y gwaith a cherdded y gweddill (y Claf yn siarad am newid).

Mg: Gallwch chi weld ffordd i wneud y pethau syml hyn (yr ymateb gorau i siarad am newid yw myfyrio syml).

Cf: Mae’n debyg fy mod i, ac os bydd hynny’n gweithio, gallwn i geisio cerdded yr un pellter eto ar ôl gwaith (rhagor o siarad am newid).

Mg: Rydych chi am arbrofi a gweld beth sy’n gweithio i chi (rhagor o fyfyrio).

Cf: Ydw, rydw i’n fodlon rhoi cynnig ar y ddau beth hynny (siarad am newid).

Mg: Yn crynhoi’r holl siarad am newid sydd wedi codi. Felly dydych chi ddim am gael tabledi, ac rydych chi’n meddwl y gallech chi gerdded i fyny’r grisiau yn y gwaith, a dod oddi ar y bws ddau stop yn gynt, a cherdded i’r gwaith.

Cf: Fe ro i gynnig arni; un fel yna ydw i. Gallai fy helpu i deimlo’n well amdanaf fy hun (siarad am newid).

Mg: Ac a fyddai’n iawn gennych chi ddod i’m gweld am ychydig o funudau ymhen chwe wythnos i weld sut mae’n mynd?

Cf: Siŵr iawn......Etc etc

 

Enghraifft o Ddeialog Cyf-weld Ysgogiadol, gan yr Athro S Rollnick 

Gwyliwch y fideo chwarae rolau hwn o’r trawsgrifiad ar You Tube. Mae’r ail fideo yr un fath ond ei fod yn cynnwys disgrifiad o’r deialog ar newid ymddygiad sy’n tynnu sylw at y camau yn y broses ysgogi.

YouTube YouTube

 

Gallwch ddarllen rhagor am y cyngor ar Gyf-weld Ysgogiadol o Sweden yma, ac mae dolenni defnyddiol i ddysgu rhagor am Gyf-weld Ysgogiadol wedi’u darparu yn Adnoddau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau