Atodiadau
Atodiad 1 Crynodeb o’r Canllawiau Ymarfer Corff ar gyfer Meddygon Prysur
Canllawiau Prif Swyddogion Meddygol y DU ar weithgarwch corfforol i oedolion 2011
|
|
Peryglon diffyg ymarfer corff
|
Buddion gweithgarwch corfforol rheolaidd
|
Prif negeseuon
- Mae diffyg gweithgarwch corfforol YN LLADD MWY NAG Y MAE YSMYGU, DIABETES a GORDEWDRA gyda’i gilydd.
- Lles seicolegol yw’r mater sy’n cael ei grybwyll amlaf gan unigolion ar holiaduron adborth ar ôl dechrau cynyddu eu gweithgarwch.
- Mae rhywun ‘ffit a thew’ yn wynebu llai o risg o gael problemau iechyd niweidiol ac o farw nag y mae rhywun ‘anffit a thenau’.
- Y patrwm eistedd – bod eistedd yn rhy hir neu beidio â defnyddio cyhyrau am gyfnodau hir yn cynyddu’r risg o fod yn ordew, o gael syndrom metabolig, diabetes math 2, clefyd cardiofasgwlaidd, a chanser a’r risg o farw, a bod y ffactor hwn yn annibynnol ar weithgarwch corfforol dyddiol cymedrol i egnïol
Rhagor o gyngor manwl ar Ddechrau Ymarfer
I gael rhagor o fanylion am ddysgu technegau Cyf-weld Ysgogiadol gweler:
Atodiad 2 Dechrau Ymarfer
Mae cynyddu gweithgarwch corfforol yn anodd i lawer o bobl ac yn aml bydd angen cynnig anogaeth a syniadau am integreiddio gweithgarwch corfforol mewn bywyd pob dydd.
Mae nifer o ffyrdd i gynyddu gweithgarwch a cherdded yw un o’r rhai hawsaf. Os yw 30 munud ar y tro yn ymddangos yn ormod, yna rhowch gynnig ar gyfnodau byr yn ystod y dydd:
- Gadael y car gartref os ydych yn mynd ar siwrnai fer i’r siopau neu at ffrindiau
- Cerdded gyda’r plant i’r ysgol os oes modd
- Os ydych yn mynd mewn car, ei barcio ar ochr bellaf y maes parcio
- Os ydych yn cymudo, dod oddi ar y bws neu’r trên un neu ddau stop yn gynnar er mwyn cerdded gweddill y ffordd i’r gwaith
- Os ydych yn gweithio mewn swyddfa fawr, codi oddi wrth y ddesg a cherdded ar draws y swyddfa i siarad â chydweithwyr yn lle ffonio
- Os oes gennych ffôn di-wifr gartref neu yn y gwaith, gallwch siarad wrth gerdded
- Osgoi lifftiau a grisiau symudol – defnyddio’r grisiau
- Cwrdd â ffrindiau i fynd am dro
- Defnyddio beic ymarfer wrth wylio’r teledu; peidiwch â’i gadw yn yr ystafell sbâr!
Mae nifer o orchwylion i’w gwneud o gwmpas y tŷ sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol a gall y rhain eich helpu i ddechrau ymarfer.
- Glanhau a chaboli dodrefn, lloriau a ffenestri.
- Torri glaswellt neu wrychoedd.
- Brwsio’r llawr y tu allan neu gribinio dail.
- Golchi a sgleinio’r car â llaw.
- Tasgau o gwmpas y tŷ – gwaith coed, sandio, peintio, adeiladu etc.
Mae nifer o weithgareddau eraill ar gael, ac mae’n bwysig dod o hyd i fath o weithgarwch corfforol sy’n bleserus ac yn ymarferol.
- Cerdded – cerdded gyda ffrind neu ymuno â grŵp cerdded. Mae gwybodaeth ar wefan Walk4life am lwybrau cerdded lleol a grwpiau cerdded mewn nifer o ardaloedd.
- Beicio – mae nifer mawr o lwybrau beiciau ar gael neu’n cael eu datblygu ledled y DU ac mae hyn yn weithgarwch hwyliog i’r teulu cyfan.
- Dawnsio – mae’n weithgarwch pleserus a chymdeithasol sy’n fwyfwy poblogaidd ac mae nifer o wahanol fathau fel salsa, zumba, dawnsio llinell a dawnsio neuadd.
- Nofio – hwyl draddodiadol i’r teulu ac erobeg dŵr i rai.
- Golff – mae cerdded 18 twll yn golygu cerdded pum milltir ar y rhan fwyaf o gyrsiau.
- Tennis, sboncen, badminton – mae nifer mawr o glybiau a chyrtiau drwy’r wlad ar gyfer hwyl a chystadlu.
- Pêl-droed – un o’r chwaraeon mwyaf poblogaidd – ewch allan gyda’r plant i gicio pêl eto!
- Pilates ac Ioga – gweithgareddau rhagorol i wella ystwythder, cryfder craidd ac ystum y corff er mwyn lleddfu ac atal nifer o broblemau cefn.