Hanes achosion
Achos 1. Pwysedd gwaed uchel neu ddim?
Cafodd dyn 52 flwydd oed ei atgyfeirio gan y nyrs practis i ddechrau cymryd meddyginiaeth pwysedd gwaed ar ôl cofnodi 3 mesur pwysedd gwaed uwch, 170/96, 176/100, 178/98.
Roedd hyn yn rhoi diagnosis confensiynol o bwysedd gwaed uchel ysgafn. Roedd y dyn mewn swydd brysur ond nid oedd yn derbyn ei fod o dan bwysau. Nid oedd y pwysedd gwaed wrth gerdded wedi cael ei fonitro yn yr achos hwn. Ei gynllun triniaeth gyntaf oedd:
- Rhoddwyd cyngor ar ei ffordd o fyw mewn perthynas â chymryd lefelau isel o halen, colli pwysau ac ymarfer corff rheolaidd. Roedd y claf yn awyddus i osgoi cymryd meddyginiaeth os oedd modd.
- Roedd cymhelliant y claf yn codi o’r awydd i osgoi cymryd meddyginiaeth.
- Rhoddwyd cyngor penodol ar ymarfer corff, sef cymryd 30 munud o ymarfer cymedrol ar 6-7 diwrnod yr wythnos. Nid oedd yn gwneud ymarfer corff rheolaidd ar y pryd. Ystyriwyd gwahanol fathau o ymarfer corff a dewiswyd cerdded am mai hwnnw oedd y mwyaf ymarferol.
- Trefnwyd apwyntiad dilynol ar gyfer 4/52.
Cofnodwyd mesurau pwysedd gwaed a phwysau yn ystod apwyntiadau misol dilynol.
- Cofnodwyd y canlynol. 164/92, 162/90, 156/86, 154/86, 146/ 82, 144/ 82.
- Nododd y dyn ei fod yn cysgu’n well, yn teimlo’n well ac nad oedd wedi sylweddoli bod ei swydd yn ei roi o dan bwysau. Collodd 2kg.
- Mae NICE yn argymell monitro pwysedd gwaed wrth gerdded am 24 awr cyn gwneud diagnosis o bwysedd gwaed uchel. Mae’n bosibl nad oedd y mesurau pwysedd gwaed a oedd yn sail i’r diagnosis am bwysedd gwaed uchel yn rhai nodweddiadol. Er hynny, byddai ymyriad yn y ffordd o fyw yn briodol.
“Rhyddhawyd” y claf gyda phroffil pwysedd gwaed normal ond archwiliad i’w wneud 6/12.
Arbedion cost posibl:
- Cost presgripsiwn am gyffuriau i drin pwysedd gwaed uchel am 12/12 bob blwyddyn nes bydd yn cael pwysedd gwaed uchel o bosibl yn y dyfodol.
- Monitro electrolytau drwy wneud prawf gwaed os cafodd ACE neu ddiwretigion, bob blwyddyn.
- Amser clinigwyr ar gyfer monitro yn y dyfodol, 2 archwiliad am bwysedd gwaed a phroblemau neu sgil-effeithiau.
Costau a ysgwyddwyd:
Chwe apwyntiad i’w fonitro ar y dechrau ond, os cafodd ei drin ar y dechrau, mae’n bosibl y bydd gofal dilynol a sefydlogi ar ôl dechrau cymryd meddyginiaeth wrthorbwysol wedi canslo’r costau hyn.
Achos 2. Iselder
Ymgyflwynodd dyn 46 blwydd oed ag iselder ysgafn. Ei sgôr PHQ9 am iselder oedd 9/30. Un modd ymarfer cyffredin fyddai dechrau cymryd gwrth-iselydd a chael apwyntiad dilynol bob mis.
Yn lle hynny, dewiswyd dull gwahanol i ymyrryd â’i ymddygiad a’i ffordd o fyw a oedd yn rhoi pwyslais ar ymarfer corff: roedd wedi mwynhau ymarfer corff o’r blaen ond wedi rhoi’r gorau iddo. Ei gynllun triniaeth cyntaf oedd:
- Trafodwyd ymarfer corff drwy gyf-weld ysgogiadol a rhoddwyd ‘presgripsiwn’ am 30 munud bob dydd o’r wythnos. Beicio oedd y math o ymarfer a ddewiswyd, drwy gymudo yn ôl ac ymlaen i’r gwaith.
- Cynhaliwyd archwiliad dilynol ymhen mis ac ychwanegwyd cynllun llyfrau ar bresgripsiwn Cymru (llyfrau hunangymorth o’r llyfrgell leol).
- Cafodd yr iselder ei ddatrys yn araf a datryswyd cyfnod salwch y claf ar ôl 12/12.
Costau a arbedwyd:
- Meddyginiaeth wrth-iselder am 12 mis neu ragor.
- Cost yr apwyntiadau’n niwtral, yr un nifer o apwyntiadau dilynol ar gyfer y claf gan mai hynny yw arfer arferol y meddyg.
Achos 3. Gordewdra
Ymgyflwynodd menyw 38 mlwydd oed a oedd newydd gael diagnosis o ddiabetes math 2 ac o fod dros ei phwysau. Pwysau: 154kg, BMI: 51.6
Dros y ddwy flynedd cyntaf, er bod cyngor wedi’i roi ar ddeiet ac ymarfer corff, roedd ei phwysau wedi amrywio, o ganlyniad i sawl newid deiet sydyn ac ymarfer corff ysbeidiol, rhwng 154kg a 137kg, ond ar ôl dwy flynedd roedd ei phwysau’n 151kg eto ac am fod cynnydd cyson mewn Hba1c roedd wedi mynd yn ei blaen i gymryd dosau cynyddol o metfformin. Un flwyddyn yn ôl, pan oedd yn cymryd 1gm bd o metfformin a phan oedd y lefel Hba1c yn annormal, rhoddwyd cyfarwyddyd iddi unwaith eto ar weithgarwch corfforol drwy gyf-weld ysgogiadol.
Cyn hynny, roedd wedi:
“Bod ag ofn codi o’r gwely yn y bore. Doeddwn i ddim eisiau deffro.”
Nawr, am y tro cyntaf, wedi ymarfer yn gyson a rheolaidd:
“Rwy’n edrych ymlaen at y diwrnod nesaf. Rwyf wedi colli modfeddi am fy nghanol ac mae’r poen cefn wedi diflannu.”
Mae ei lefel Hba1c wedi gostwng am y tro cyntaf ar mae bellach ar lefel normal wrth gymryd 1gm bd o metfformin. Ei phwysau yw 141 kg. Mae wedi penderfynu treulio mwy o amser yn ymgymryd â gweithgarwch corfforol ac wedi gosod targed o 300 munud r wythnos.